Sut Gallwch Chi Ddod i Adnabod Duw yn Well?
Ateb y Beibl
Os ydych chi’n gwneud ymdrech i ddysgu am Dduw a trio ei blesio mi fydd “yntau’n nesáu atoch chi.” (Iago 4:8) Wedi’r cwbl, mae’r Beibl yn dweud, “dydy ef ddim yn bell oddi wrth unrhyw un ohonon ni.”—Actau 17:27.
Sut i ddod i adnabod Duw
Darllenwch y Beibl
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw.”—2 Timotheus 3:16.
Ystyr: Er bod Duw wedi ysbrydoli dynion i ysgrifennu’r Beibl, Duw ei hun ydy’r awdur. Yn y llyfr hwnnw, mae Duw wedi datgelu nid yn unig beth mae ef yn ei fwriadu inni, ond hefyd ei rinweddau, er enghraifft ei gariad, ei gyfiawnder, a’i drugaredd.—Exodus 34:6; Deuteronomium 32:4.
Beth allwch chi ei wneud? Darllenwch y Beibl bod dydd. (Josua 1:8) Meddyliwch am beth rydych chi’n ei ddarllen, a gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae hyn yn ei ddysgu imi am Dduw fel Person?’—Salm 77:12.
Er enghraifft, darllenwch Jeremeia 29:11, ac yna gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae Duw eisiau imi—bendith neu niwed? Ydy ef yn Dduw creulon, neu ydy ef eisiau imi gael dyfodol da?’
Edrychwch ar y greadigaeth
Mae’r Beibl yn dweud: “Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu. Rydyn ni’n gallu dysgu amdano drwy edrych yn fanwl ar y pethau mae ef wedi eu creu.”—Rhufeiniaid 1:20.
Ystyr: Yn union fel mae llun yn datgelu rhywbeth am yr arlunydd, neu mae peiriant cymhleth yn datgelu rhywbeth am y dylunydd, mae creadigaeth Duw yn datgelu rhannau o’i bersonoliaeth. Er enghraifft, rydyn ni’n gweld doethineb Duw yn y ffordd rhyfeddol a chymhleth mae’r ymennydd yn gweithio, ac mae ei bŵer yn amlwg o feddwl am gymaint o egni sydd yn yr haul a’r sêr.—Salm 104:24; Eseia 40:26.
Beth allwch chi ei wneud? Cymerwch amser i edrych ar fyd natur a dysgu amdano. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae rhyfeddodau natur yn ei ddysgu imi am Dduw?’ a Gan ddweud hynny, allwn ni ddim dysgu popeth am Dduw o edrych ar greadigaeth. Dyna pam mae wedi rhoi’r Beibl inni.
Defnyddiwch enw Duw
Mae’r Beibl yn dweud: “Bydda i’n amddiffyn yr un sy’n fy nabod i. Pan fydd e’n galw arna i, bydda i’n ateb.”—Salm 91:14, 15.
Ystyr: Jehofa ydy enw Duw, ac mae’n talu sylw arbennig i’r rhai sy’n adnabod yr enw hwnnw ac yn ei barchu. b (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Malachi 3:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae Duw wedi cyflwyno ei hun inni drwy ddweud wrthon ni beth yw ei enw bersonol. Dywedodd: “Jehofa ydw i. Dyna yw fy enw.”—Eseia 42:8, Cyfieithiad y Byd Newydd.
Beth allwch chi ei wneud? Defnyddiwch enw Jehofa wrth sôn amdano.
Siaradwch â Jehofa mewn gweddi
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno.”—Salm 145:18.
Ystyr: Mae Jehofa yn agosáu at y rhai sy’n gweddïo arno mewn ffydd. Mae gweddi yn rhan o’n haddoliad ac yn dangos cymaint rydyn ni’n parchu Duw.
Beth allwch chi ei wneud? Gweddïwch yn aml. (1 Thesaloniaid 5:17) Dywedwch wrth Dduw yn union sut rydych chi’n teimlo a beth sy’n eich poeni chi.—Salm 62:8. c
Adeiladwch eich ffydd yn Nuw
Mae’r Beibl yn dweud: “Heb ffydd mae’n amhosib plesio Duw’n dda.”—Hebreaid 11:6.
Ystyr: I agosáu at Dduw, mae’n rhaid cael ffydd ynddo. Mae hynny’n golygu mwy na dim ond credu ei fod yn bodoli. Mae’n golygu trystio ynddo’n llwyr, hynny ydy, trystio y bydd ei addewidion yn dod yn wir a bod ei safonau yn ddoeth. Wedi’r cwbl, mae tryst yn hanfodol mewn unrhyw berthynas.
Beth allwch chi ei wneud? Dydy ffydd go iawn ddim yn ddall. Mae wedi ei seilio ar wybodaeth. (Rhufeiniaid 10:17) Felly astudiwch y Beibl i weld drostoch chi’ch hunan eich bod chi’n gallu trystio Duw a’i gyngor. Bydd Tystion Jehofa yn fodlon astudio’r Beibl gyda chi. d
Gwnewch beth sy’n plesio Duw
Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma beth mae caru Duw yn ei olygu, ein bod ni’n cadw ei orchmynion.”—1 Ioan 5:3.
Ystyr: Mae Jehofa yn agos at y rhai sy’n ei garu, ac sydd yn dangos hynny drwy wneud eu gorau glas i ufuddhau iddo.
Beth allwch chi ei wneud? Wrth ichi astudio’r Beibl, cymerwch sylw o beth mae Duw yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi. Gofynnwch i chi’ch hun, ‘Pa newidiadau alla i eu gwneud er mwyn plesio Duw?’—1 Thesaloniaid 4:1.
Rhowch gyngor Duw ar waith a gwelwch sut mae’n gofalu amdanoch chi
Mae’r Beibl yn dweud: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD!”—Salm 34:8.
Ystyr: Mae Duw eisiau ichi weld drostoch chi’ch hun pa mor dda ydy ef. Ac unwaith ichi deimlo ei gariad a’i gefnogaeth byddwch chi eisiau closio ato.
Beth allwch chi ei wneud? Wrth ichi ddarllen y Beibl, rhowch gyngor Duw ar waith a sylwch ar y gwahaniaeth mae’n ei wneud. (Eseia 48:17, 18) Sylwch hefyd ar sut mae Duw wedi helpu pobl eraill i drechu heriau, i gael hyd i hapusrwydd go iawn, ac i wella nid yn unig eu bywydau nhw’u hunain ond hefyd bywydau eu teuluoedd. e
Camsyniadau am adnabod Duw
Camsyniad: Mae Duw yn rhy bwerus a phwysig i eisiau bod yn agos aton ni.
Ffaith: Mae’n wir mai Duw ydy’r Person mwyaf pwerus a phwysig yn y bydysawd, ond mae ef eisiau inni glosio ato. A dweud y gwir, mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o ddynion a merched a ddaeth yn ffrindiau agos i Dduw.—Actau 13:22; Iago 2:23.
Camsyniad: Allwn ni ddim dod i adnabod Duw am ei fod yn rhy anodd inni ei ddeall.
Ffaith: Mae ’na rai bethau am Dduw sy’n anodd inni ei ddeall, fel y ffaith ei fod yn ysbryd anweledig, ond mae hi’n bosib dod i’w adnabod. Mae’r Beibl hyd yn oed yn dweud wrthon ni fod rhaid inni ddod i adnabod Duw er mwyn cael bywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Mae’r Beibl yn esbonio inni, mewn ffordd syml, sut fath o bersonoliaeth sydd gan Dduw, beth mae’n ei fwriadu i ni a’r ddaear, a beth yw ei safonau. (Eseia 45:18, 19; 1 Timotheus 2:4) Mae’r Beibl hefyd yn datgelu enw Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Oherwydd hyn i gyd, gallwn ni nid yn unig ddod i adnabod Duw, ond hefyd closio ato.—Iago 4:8.
a I weld enghreifftiau o ddoethineb Duw ym myd natur, gwelwch y gyfres, “Wedi ei Ddylunio?”
b Mae’r enw Jehofa yn golygu, “Mae Ef yn Achosi i Fod.” Drwy ddatgelu ei enw inni, mae Duw yn dweud i bob pwrpas: ‘Bydda i’n achosi i fy nymuniad a fy mwriad i ddod yn realiti. Dw i bob tro yn cadw at fy ngair.’
c Gwelwch yr erthygl “Why Pray? Will God Answer Me?”
d Am fwy o wybodaeth gwyliwch y fideo Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd?
e Gwelwch yr gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.”