Neidio i'r cynnwys

“Credu yn Iesu”—A Yw Hynny’n Ddigon Inni Gael Ein Hachub?

“Credu yn Iesu”—A Yw Hynny’n Ddigon Inni Gael Ein Hachub?

Ateb y Beibl

 Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi marw dros bechodau dynolryw. (Hebreaid 9:28) Ond i gael ein hachub mae angen mwy na chredu mai Iesu yw ein Gwaredwr. Mae’r cythreuliaid yn gwybod mai “Mab Duw” yw Iesu, ond byddan nhw’n cael eu dinistrio, nid eu hachub.—Luc 4:41; Jwdas 6.

 Beth mae angen i mi ei wneud i gael fy achub?

  •   Mae angen credu bod Iesu wedi aberthu ei fywyd dros ein pechodau. (Actau 16:30, 31; 1 Ioan 2:2) Mae hyn yn golygu credu mai dyn go iawn oedd Iesu a bod popeth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano yn wir.

  •   Mae angen deall beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu. (2 Timotheus 3:15) Yn ôl y Beibl, dywedodd yr apostol Paul a Silas wrth swyddog y carchar: “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub.” Ar ôl hynny, fe wnaethon nhw draethu ‘gair yr Arglwydd wrtho.’ (Actau 16:31, 32, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae hyn yn dangos nad oedd yn bosib i’r swyddog gredu yn Iesu heb fod ganddo ddealltwriaeth sylfaenol o Air Duw. Roedd angen dealltwriaeth gywir arno, wedi ei seilio ar yr Ysgrythurau.—1 Timotheus 2:3, 4.

  •   Mae angen edifarhau. (Actau 3:19, BCND) Mae angen hefyd inni edifarhau, hynny yw teimlo’n drist am y pethau anghywir rydyn ni wedi eu gwneud. Bydd ein hedifeirwch yn amlwg i bobl eraill wrth inni roi’r gorau i unrhyw arferion sydd ddim yn plesio Duw a dechrau “byw mewn ffordd sy’n dangos [ein] bod wedi newid go iawn.”—Actau 26:20.

  •   Mae angen cael ein bedyddio. (Mathew 28:19) Dywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu bedyddio. Cafodd swyddog y carchar y soniwyd amdano gynt ei fedyddio. (Actau 16:33) Yn yr un modd, ar ôl i’r apostol Pedr ddysgu tyrfa fawr am Iesu, “dyma’r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio.”—Actau 2:40, 41.

  •   Mae angen ufuddhau i Iesu. (Hebreaid 5:9) Mae’r rhai sy’n ‘gwneud popeth’ y mae Iesu wedi ei ddweud yn dangos, trwy eu ffordd o fyw, eu bod nhw’n ddilynwyr iddo. (Mathew 28:20) Maen nhw’n gwneud “beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn.”—Iago 1:22.

  •   Mae angen sefyll yn gadarn i’r diwedd. (Marc 13:13) Mae’n bwysig i ddisgyblion Iesu “ddal ati” er mwyn cael eu hachub. (Hebreaid 10:36) Roedd yr apostol Paul, er enghraifft, yn llwyr ufudd i ddysgeidiaeth Iesu ac yn ffyddlon i Dduw o’r diwrnod y daeth yn Gristion nes iddo farw.—1 Corinthiaid 9:27.

 Beth am “Weddi’r Pechadur”?

 Mewn rhai crefyddau mae pobl yn dweud “Gweddi’r Pechadur.” Mewn gweddïau o’r fath, bydd pobl yn cydnabod eu bod nhw’n bechaduriaid ac yn dweud eu bod nhw’n credu i Iesu farw dros eu pechodau. Maen nhw hefyd yn gofyn i Iesu ddod i mewn i’w calonnau neu eu bywydau. Ond nid oes sôn yn y Beibl, na chymeradwyaeth chwaith, am “Weddi Pechadur” ffurfiol.

 Mae rhai yn meddwl bod rhywun sydd wedi dweud “Gweddi’r Pechadur” yn sicr o gael ei achub. Ond nid oes gweddi yn y byd sydd, ynddi hi ei hun, yn gallu sicrhau gwaredigaeth. A ninnau’n amherffaith, rydyn ni’n dal i wneud camgymeriadau. (1 Ioan 1:8) Dyna pam dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am weddïo’n gyson am faddeuant. (Luc 11:2, 4) Hefyd, mae rhai Cristnogion wedi cael y cyfle i gael eu hachub, ond yna wedi colli’r cyfle oherwydd iddyn nhw gefnu ar Dduw.—Hebreaid 6:4-6; 2 Pedr 2:20, 21.

 Beth yw tarddiad “Gweddi’r Pechadur”?

 Mae haneswyr yn anghytuno ynglŷn â tharddiad “Gweddi’r Pechadur.” Mae rhai yn awgrymu bod y traddodiad wedi dechrau yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Mae eraill yn credu i bobl ddechrau dweud “Gweddi’r Pechadur” yn ystod diwygiadau crefyddol y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond boed hynny fel y bo, nid oes unrhyw sail Ysgrythurol i’r traddodiad—yn wir, mae’n mynd yn groes i ddysgeidiaeth y Beibl.