Ydy’r Beibl Wedi Cael ei Newid Neu ei Addasu?
Nac ydy. Mae cymhariaeth o lawysgrifau hynafol yn dangos bod y Beibl heb newid llawer o gwbl er iddo gael ei ailgopïo dros filoedd o flynyddoedd ar ddeunydd sy’n dirywio dros amser.
Ydy hyn yn golygu na chafodd yr un camgymeriad ei wneud wrth ei gopïo?
Mae miloedd o lawysgrifau Beiblaidd hynafol wedi cael eu darganfod. Mae ’na nifer o wahaniaethau rhwng rhai o’r rhain, sy’n dangos bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud wrth gopïo. Mae’r rhan fwyaf o’r gwahaniaethau hyn yn fach, a dydyn nhw ddim yn newid ystyr y testun. Ond, mae ’na rai gwahaniaethau arwyddocaol wedi cael eu darganfod hefyd, a rhai ohonyn nhw’n ymddangos i fod yn ymdrechion bwriadol i addasu neges y Beibl. Ystyriwch ddwy enghraifft:
Yn 1 Ioan 5:7, mae rhai cyfieithiadau hŷn o’r Beibl yn cynnwys y geiriau canlynol: “yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.” Ond, mae llawysgrifau dibynadwy yn cadarnhau nad oedd y geiriau hyn yn y testun gwreiddiol. Cawson nhw eu hychwanegu yn hwyrach ymlaen. a Felly, mae cyfieithiadau modern a dibynadwy o’r Beibl wedi eu hepgor.
Mae enw personol Duw yn ymddangos filoedd o weithiau mewn llawysgrifau Beiblaidd hynafol. Ond eto, mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl wedi ei ddisodli â theitlau fel “Arglwydd” neu “Dduw.”
Sut gallwn ni fod yn sicr nad oes llawer mwy o gamgymeriadau eto i’w darganfod?
Erbyn heddiw, mae gymaint o lawysgrifau wedi cael eu darganfod, mae cael hyd i wallau yn haws nag erioed o’r blaen. b Beth mae cymhariaeth o’r dogfennau hyn wedi ei ddatgelu am gywirdeb y Beibl heddiw?
Wrth sôn am yr Ysgrythurau Hebraeg (a elwir yn aml “yr Hen Destament”), dywedodd yr ysgolhaig William H. Green: “Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir.”
Wrth sôn am yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, neu’r “Testament Newydd,” ysgrifennodd yr ysgolhaig Beiblaidd F. F. Bruce: “Mae ’na lawer mwy o dystiolaeth ar gyfer y Testament Newydd na sydd ar gyfer llawer o ysgrifau gan awduron clasurol, ond eto, does neb yn meiddio cwestiynu cywirdeb yr ysgrifau clasurol hynny.”
Dywedodd un arbenigwr ar lawysgrifau Beiblaidd, Syr Frederic Kenyon, y “gall rhywun afael yn y Beibl cyfan, a dweud heb ofni nac oedi mai Gair Duw sydd yn ei law, wedi ei basio o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd heb unrhyw newidiadau pwysig.”
Pa resymau eraill sydd ’na dros fod yn hyderus fod y Beibl wedi cael ei drosglwyddo’n gywir?
Gwnaeth copïwyr Iddewig a Christnogol gadw’r hanesion sy’n amlygu’r camgymeriadau difrifol a wnaeth pobl Dduw. c (Numeri 20:12; 2 Samuel 11:2-4; Galatiaid 2:11-14) Yn yr un modd, fe wnaethon nhw gadw adnodau sy’n condemnio anufudd-dod y genedl Iddewig ac sy’n dinoethi gau ddysgeidiaethau dynol. (Hosea 4:2; Malachi 2:8, 9; Mathew 23:8, 9; 1 Ioan 5:21) Trwy gopïo’r hanesion hyn yn gywir, dangosodd y copïwyr eu bod nhw’n ddibynadwy ac yn parchu Gair sanctaidd Duw.
Onid ydy hi’n rhesymol y byddai Duw, a ysbrydolodd y Beibl yn y lle cyntaf, hefyd yn sicrhau ei fod yn cadw ei gywirdeb? d (Eseia 40:8; 1 Pedr 1:24, 25) Wedi’r cwbl, roedd Ef yn bwriadu iddo helpu, nid yn unig pobl o’r gorffennol pell, ond hefyd ninnau heddiw. (1 Corinthiaid 10:11) A dweud y gwir, “cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhufeiniaid 15:4.
Gwnaeth Iesu a’i ddilynwyr ddyfynnu o gopïau o’r Ysgrythurau Hebraeg heb fynegi unrhyw bryderon ynglŷn â chywirdeb y testunau hynafol hynny.—Luc 4:16-21; Actau 17:1-3.
a Nid yw’r geiriau hyn yn y Codex Sinaiticus, y Codex Alexandrinus, Llawysgrif y Fatican 1209, y Fwlgat Lladin gwreiddiol, y Fersiwn Philoxenaidd-Harcleaidd Syrieg, neu’r Peshitta Syrieg.
b Er enghraifft, mae dros 5,000 o lawysgrifau Groeg o’r Testament Newydd, neu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol, wedi cael eu darganfod.
c Dydy’r Beibl ddim yn portreadu cynrychiolwyr dynol Duw fel pobl berffaith. Mae’n cydnabod yn realistig: “Does neb sydd byth yn pechu!”—1 Brenhinoedd 8:46.
d Mae’r Beibl yn dweud, er na wnaeth Duw ddweud yn union air am air beth i’w ysgrifennu, fe wnaeth ef lywio meddyliau ysgrifenwyr y Beibl.—2 Timotheus 3:16, 17; 2 Pedr 1:21.