Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Ystyr Bywyd?

Beth Yw Ystyr Bywyd?

Ateb y Beibl

 Gellir gofyn y cwestiwn am ystyr bywyd mewn sawl ffordd. Er enghraifft, Pam ein bod ni yma? neu Oes pwrpas i fy mywyd? Yn ôl y Beibl, ein pwrpas mewn bywyd yw meithrin perthynas â Duw. Ystyriwch rai o’r gwirioneddau sylfaenol sydd yn y Beibl.

  •   Duw yw ein Creawdwr. Mae’r Beibl yn dweud: “[Duw] ydy’r un a’n gwnaeth ni.”​—Salm 100:3; Datguddiad 4:11.

  •   Mae gan Dduw bwrpas ar gyfer popeth y mae’n ei greu, gan gynnwys ni ein hunain.​—Eseia 45:18.

  •   Mae Duw wedi ein creu ni gydag angen ysbrydol sy’n cynnwys yr angen i gael ystyr i’n bywydau. Heb hynny, rydyn ni’n teimlo’n “dlawd ac annigonol.” (Mathew 5:3) Mae Duw eisiau inni ddiwallu’r angen hwnnw.​—Salm 145:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   Rydyn ni’n diwallu ein hanghenion ysbrydol drwy feithrin perthynas â Duw. Er bydd rhai yn gweld y syniad o fod yn ffrind i Dduw yn amhosibl, mae’r Beibl yn ein hannog: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”​—Iago 4:8; 2:23.

  •   I ddod yn ffrind i Dduw, mae’n rhaid inni fyw yn unol â’i bwrpas ar ein cyfer. Mae’r Beibl yn sôn am y pwrpas hwnnw yn Pregethwr 12:13: “Addola Dduw a gwna beth mae e’n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.”

  •   Yn y dyfodol, bydd pwrpas gwreiddiol Duw ar ein cyfer yn cael ei gyflawni’n llwyr. Bryd hynny, bydd Duw yn rhoi terfyn ar ddioddefaint am byth ac yn rhoi bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n ei addoli.​—Salm 37:10, 11, BCND.