Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Amddiffyn Eich Plant Rhag Pornograffi

Amddiffyn Eich Plant Rhag Pornograffi

 “Nid mater o beidio â deall peryglon pornograffi oedd hyn—roedden ni’n deall yn iawn—ond doedden ni ddim yn sylweddoli pa mor hawdd y byddai i’n merch ni ddod ar ei draws.”—Nicole.

Yn yr erthygl hon

 Beth y dylech chi ei wybod

 Fe all plant ifanc iawn ddod ar draws pornograffi. Mae astudiaethau’n dangos bod plant, ar gyfartaledd, yn gweld pornograffi am y tro cyntaf yn 11 oed.

 Fe all plant ddod ar draws pornograffi heb chwilio amdano. Er enghraifft, efallai byddan nhw’n ei weld wrth ymchwilio i bethau hollol ddiniwed ar y we neu wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Efallai bydd hysbysebion pornograffig yn codi tra eu bod nhw’n chwarae gemau fideo ar lein. Mae pornograffi ar gael mewn ffurfiau gwahanol, fel arfer lluniau a fideos. Ond mae deunydd sy’n portreadu gweithredoedd erotig ar gael yn hawdd mewn ffurf ysgrifenedig ac mewn podlediadau a all gael eu ffrydio neu eu lawrlwytho oddi ar y we.

 Ffactor arall i’w hystyried yw bod unigolion yn gallu anfon deunydd anweddus at blant ar ffurf electronig ar eu ffonau. Yn ôl un astudiaeth o fwy na 900 o bobl ifanc, mae bron i 90 y cant o ferched a 50 y cant o fechgyn yn dweud eu bod nhw’n cael lluniau a fideos o bobl noeth oddi wrth eu cyd-ddisgyblion yn rheolaidd.

 Mae’r pornograffi mwyaf poblogaidd gan amlaf yn cynnwys trais. Yn aml, mae’r pornograffi mwyaf poblogaidd a hawdd ei gael yn cynnwys rhywfaint o drais, yn enwedig yn erbyn menywod.

 Mae pornograffi yn niweidio plant. Mae ymchwil wedi dangos bod plant sydd wedi gweld pornograffi yn fwy tebygol

  •   o wneud yn wael yn yr ysgol

  •   o deimlo’n bryderus, yn isel, a heb hunan-werth

  •   o gredu bod ymddygiad rhywiol ymosodol yn normal

 Y gwir yw: Mae pornograffi yn gwneud niwed i blant, a’r rhieni sydd yn y sefyllfa orau i’w hamddiffyn.

 Egwyddor o’r Beibl: “Paid anghofio’r pethau dw i’n eu gorchymyn i ti heddiw. Rwyt i’w dysgu’n gyson i dy blant, a’u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.”—Deuteronomium 6:6, 7.

 Sut i amddiffyn eich plant rhag pornograffi

 Dysgwch y ffeithiau. Ystyriwch pryd a lle mae eich plant yn fwy tebygol o ddod ar draws pornograffi. Er enghraifft, a ydyn nhw’n cael defnyddio’r We yn ystod amserau egwyl yn yr ysgol heb neb yn cadw llygad arnyn nhw?

Gall eich plant ddod i gysylltiad â phornograffi mewn nifer o ffyrdd gwahanol

 Dysgwch am unrhyw osodiadau diogelwch ar eu ffonau, a sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r apiau a’r gemau maen nhw’n eu defnyddio. Er enghraifft, ar rai apiau mae modd anfon negeseuon, lluniau, neu fideos anweddus sydd ond yn para am gyfnod byr ac yna’n diflannu. Ac mae nifer cynyddol o gemau fideo ar-lein yn caniatáu i chwaraewyr weld pornograffi a hyd yn oed cogio cymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol yn y gêm.

 “Dw i’n siarad o brofiad: Os oes ffôn gan eich plentyn, dylech chi, fel rhiant, wybod sut i’w ddefnyddio, pa osodiadau i’w defnyddio er mwyn amddiffyn eich plant, a sut i fonitro beth maen nhw’n ei wneud arno.”—David.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person call . . . yn chwilio am wybodaeth.”—Diarhebion 18:15.

 Gwnewch bopeth posib i atal eich plant rhag dod i gysylltiad â phornograffi. Cymerwch gamau i leihau’r peryg. Er enghraifft: Newidiwch y gosodiadau ar ffonau eich plant ac ar bob dyfais arall yn y tŷ fel eu bod nhw’n atal deunydd anweddus. Rhowch y gosodiadau diogelwch ar waith. A sicrhewch eich bod chi’n gwybod pa gyfrineiriau mae eich plant yn eu defnyddio.

 “Cymerais gamau ymarferol drwy roi’r gosodiadau diogelwch ar waith ar ein dyfeisiau, a rheoli’r rhaglenni yr oedd fy mab yn gallu eu gwylio ar ein teledu. Ro’n i hefyd yn sicrhau mod i’n gwybod y PIN ar ei ffôn.”—Maurizio.

 “Dw i ddim yn gadael i fy meibion wylio fideos yn eu hystafell gyda’r drws ar gau. A phan fyddan nhw’n mynd i’r gwely, dw i ddim yn caniatáu iddyn nhw fynd â’u dyfeisiau i’r ystafell wely.”—Gianluca.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi.”—Diarhebion 22:3.

 Paratowch eich plant o flaen llaw. “Mae rhai rhieni’n osgoi siarad â’u plant am bornograffi, gan ddewis credu na fydd y plant yn wynebu’r broblem,” meddai mam o’r enw Flavia. Mae rhieni eraill yn poeni, ‘Os dw i’n sôn am y peth, efallai bydd fy mhlant yn chwilio amdano.’ Ond mae meddwl fel hyn yn beryglus. Bydd rhieni call yn dysgu eu plant am beryglon pornograffi cyn iddyn nhw ddod ar ei draws. Sut gallwch chi wneud hynny?

 Dysgwch blant bach beth i’w wneud os ydyn nhw’n dod i gysylltiad â phethau anweddus. Er enghraifft, fe allan nhw gau eu llygaid, neu ddiffodd y ddyfais. Ac anogwch nhw i siarad â chi am y pethau maen nhw wedi eu gweld neu eu clywed. a

 “Dechreuon ni siarad am beryglon pornograffi pan oedd fy mab yn ifanc iawn. Pan oedd o tua 11 oed, roedd hysbysebion pornograffig yn dechrau ymddangos ar gêm roedd o wedi ei lawrlwytho ar ei ffôn. Roedd ’na negeseuon gyda’r lluniau yn gofyn iddo anfon lluniau ohono fo ei hun. Gan ein bod ni eisoes wedi trafod beth i’w wneud, daeth ata i’n syth a dweud wrtho i am beth oedd wedi digwydd.”—Maurizio.

 Egwyddor o’r Beibl: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—Diarhebion 22:6.

 Helpwch blant hŷn i wrthod y temtasiwn i edrych ar, gwrando ar, neu ddarllen pornograffi. Er enghraifft, helpwch eich plant i lunio cytundeb sy’n cynnwys rheolau’r teulu ynglŷn â beth byddan nhw’n ei wneud petaen nhw’n dod ar draws pornograffi, a pham. Gofynnwch iddyn nhw gynnwys yn y cytundeb y canlyniadau sy’n dod o wylio pornograffi yn fwriadol, gan gynnwys pethau fel colli hunan-barch, siomi eu rhieni, a niweidio eu perthynas gyda Duw. b

 “Wrth i’ch plant dyfu, helpwch nhw i feddwl tu hwnt i’r temtasiwn o edrych ar bornograffi ac i ystyried y canlyniadau hirdymor.”—Laurettta.

 “Bydd hi’n haws i’n plant wrthod pornograffi os ydyn nhw’n deall, nid yn unig y peryglon, ond hefyd sut mae Jehofa yn teimlo amdano.”—David.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae doethineb . . . yn gysgod i’n cadw’n saff.”—Pregethwr 7:12.

 Siaradwch yn rheolaidd. Gall fod yn anodd ei gredu, ond y gwir yw bod plant eisiau siarad â’u rhieni am faterion yn ymwneud â rhyw, gan gynnwys pornograffi. “Y brif neges a glywn [gan blant] yw eu bod nhw am gael y sgyrsiau hyn yn gynt ac yn aml,” meddai’r Fonesig Rachel de Souza, Comisiynydd Plant Lloegr. “Mae plant eisiau sgwrsio gyda’u rhieni mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran ac sy’n newid wrth iddyn nhw dyfu.”

 “Pan o’n i’n ifanc, roedd ’na rai pethau fyddai fy rhieni byth yn eu trafod gyda mi. Mae’n drueni nad oedden ni’n cael siarad yn fwy agored. Dw i’n fam fy hun rŵan, a dw i’n gwneud fy ngorau i siarad yn rheolaidd gyda fy mhlant am ryw ac i gadw’r sgwrs yn hamddenol.”—Flavia.

 Os yw eich plentyn wedi gweld pornograffi

 Peidiwch â chynhyrfu. Os ydych chi’n sylweddoli bod eich plentyn wedi gweld, darllen, neu wrando ar bornograffi, ceisiwch reoli eich ymateb. Mae’n debyg bod eich plentyn eisoes wedi dychryn ac yn teimlo yn ofidus neu’n euog am beth ddigwyddodd. Ni fyddai ymateb dig ond yn gwneud iddo c deimlo’n waeth ac efallai yn anfodlon siarad â chi am y peth yn y dyfodol.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r un sy’n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin; a’r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.”—Diarhebion 17:27.

 Cael y ffeithiau. Yn lle neidio i gasgliadau, gofynnwch gwestiynau i ganfod sut daeth eich plentyn i gysylltiad â phornograffi. Er enghraifft, ai rhywun arall anfonodd y llun ato, neu ai ef ei hun a ddaeth ar ei draws? Ai dyma’r unig dro mae hyn wedi digwydd, neu a yw ef wedi edrych ar bornograffi o’r blaen? A yw gosodiadau diogelwch a hidlo ar waith ar y ddyfais? Ac os felly a yw’r plentyn wedi ceisio mynd o’u cwmpas er mwyn gweld y pornograffi. Eich nod, cofiwch, yw perswadio eich plentyn i siarad—nid i’w holi’n rhacs.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i’r golwg.”—Diarhebion 20:5.

 Gweithredwch. Er enghraifft, os yw eich plentyn wedi dod ar draws y pornograffi’n ddamweiniol, efallai bydd angen ichi newid y gosodiadau diogelwch a hidlo ar ei ddyfais.

 Os ydych chi’n dysgu ei fod wedi chwilio am bornograffi, mae’n bwysig ichi ei gywiro mewn ffordd garedig ond pendant. Gwnewch eich gorau i gryfhau awydd eich plentyn i wrthod edrych ar bornograffi drwy resymu ar adnodau fel Job 31:1, Salm 97:10, a Salm 101:3. d Dywedwch y byddwch chi’n siarad ag ef bob wythnos i drafod sut mae’n ymdopi ac i weld a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei wneud i helpu.

 Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch ag achosi i’ch plant wylltio, ond parhewch i’w magu nhw yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofa.”—Effesiaid 6:4.

a Mae awgrymiadau ar sut i siarad â’ch plant mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran ar gael yn yr erthygl “How Can Parents Teach Their Children About Sex?

b Ceir mwy o syniadau am beth i’w gynnwys yn y cytundeb ar y daflen waith “How to Reject Pornography.”

c Er ein bod ni’n cyfeirio at blentyn sy’n fachgen, mae’r wybodaeth yn yr erthygl hon yn berthnasol i ferched hefyd.

d Efallai byddwch chi eisiau trafod yr erthygl “Why Reject Pornography?