Cyntaf Brenhinoedd 22:1-53
22 Doedd ’na ddim rhyfel rhwng Syria ac Israel am dair blynedd.
2 Yn y drydedd flwyddyn, aeth Jehosaffat brenin Jwda i lawr at frenin Israel.
3 Yna dywedodd brenin Israel wrth ei weision: “Ydych chi’n gwybod mai ni sydd biau Ramoth-gilead? Ond eto, rydyn ni’n oedi rhag ei chymryd yn ôl oddi wrth frenin Syria.”
4 Yna dywedodd wrth Jehosaffat: “A fyddi di’n mynd gyda mi i frwydro yn Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat: “Rwyt ti a fi yn un. Mae dy bobl di a fy mhobl i hefyd yn un, gan gynnwys dy geffylau di a fy ngheffylau innau.”
5 Ond dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel: “Yn gyntaf, plîs gofynna am arweiniad Jehofa.”
6 Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd, tua 400 o ddynion, a dweud wrthyn nhw: “A ddylwn i fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead neu beidio?” Dywedon nhw: “Dos i fyny, bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
7 Yna dywedodd Jehosaffat: “Onid oes ’na un o broffwydi Jehofa yma? Gad inni fynd i ofyn am arweiniad Duw drwyddo ef hefyd.”
8 Gyda hynny, dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Mae ’na un dyn arall y gallwn ni ofyn am arweiniad Jehofa drwyddo; ond rydw i’n ei gasáu oherwydd dydy ef byth yn proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg. Ei enw yw Michea fab Imla.” Ond dywedodd Jehosaffat: “Ddylai’r brenin ddim dweud y fath beth.”
9 Felly galwodd brenin Israel un o swyddogion y llys a dweud: “Tyrd â Michea fab Imla yma yn gyflym.”
10 Nawr roedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eistedd ar eu gorseddau yn gwisgo eu dillad brenhinol wrth y llawr dyrnu a oedd wrth fynedfa porth Samaria, ac roedd y proffwydi i gyd yn proffwydo o’u blaenau nhw.
11 Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn iddo’i hun ac yn dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Byddi di’n defnyddio’r rhain i daro’r Syriaid* nes iti gael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl.’”
12 Roedd y proffwydi eraill i gyd yn proffwydo yn yr un ffordd, gan ddweud: “Dos i fyny i Ramoth-gilead a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
13 Felly dyma’r negesydd a oedd wedi mynd i alw Michea yn dweud wrtho: “Edrycha! Mae’r proffwydi i gyd yn dweud pethau da wrth y brenin. Plîs gad i dy air di fod fel eu geiriau nhw, a dyweda bethau da.”
14 Ond dywedodd Michea: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, bydda i’n dweud beth bynnag mae Jehofa yn ei ddweud wrtho i.”
15 Yna aeth i mewn at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo: “Michea, a ddylen ni fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead, neu beidio?” Ar unwaith atebodd: “Dos i fyny a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
16 Gyda hynny, dywedodd y brenin wrtho: “Sawl gwaith sydd rhaid imi dy roi di o dan lw i beidio â dweud unrhyw beth wrtho i heblaw am y gwir yn enw Jehofa?”
17 Felly dywedodd: “Rydw i’n gweld yr Israeliaid i gyd wedi eu gwasgaru ar y mynyddoedd, fel defaid heb fugail. Dywedodd Jehofa: ‘Does gan y rhain ddim meistr. Gad i bob un fynd yn ôl i’w dŷ mewn heddwch.’”
18 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Oni wnes i ddweud wrthot ti na fyddai’n proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg?”
19 Yna dywedodd Michea: “Felly gwranda ar air Jehofa: Gwelais Jehofa yn eistedd ar ei orsedd a holl fyddin y nefoedd yn sefyll wrth ei ymyl, ar ei ochr dde ac ar ei ochr chwith.
20 Yna dywedodd Jehofa, ‘Pwy fydd yn twyllo Ahab fel y bydd yn mynd i fyny ac yn syrthio yn Ramoth-gilead?’ Ac roedd un angel yn dweud un peth tra oedd angel arall yn dweud rhywbeth arall.
21 Yna daeth ysbryd* ymlaen a sefyll o flaen Jehofa a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo.’ Gofynnodd Jehofa iddo, ‘Sut byddi di’n gwneud hynny?’
22 Atebodd, ‘Bydda i’n mynd allan ac yn gwneud i’r proffwydi i gyd ddweud celwyddau.’ Felly dywedodd ef, ‘Byddi di’n ei dwyllo, ac yn fwy na hynny, byddi di’n llwyddiannus. Dos allan a gwna hynny.’
23 Dyna pam mae Jehofa wedi gadael i angel wneud i’r holl broffwydi hyn ddweud celwyddau wrthot ti, ond mae Jehofa wedi datgan y bydd rhywbeth ofnadwy yn digwydd iti.”
24 Yna, aeth Sedeceia fab Cenaana at Michea a’i daro ar ei foch a dweud: “A wyt ti’n dweud bod nerth Jehofa wedi fy ngadael i ac nawr yn siarad â ti?”
25 Atebodd Michea: “Edrycha! Cei di weld ar y diwrnod pan fyddi di’n mynd i mewn i’r ystafell fewnol i guddio.”
26 Yna dywedodd brenin Israel: “Cymera Michea a’i roi drosodd i Amon, pennaeth y ddinas, ac i Joas, mab y brenin.
27 Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r brenin yn ei ddweud: “Rhowch y dyn hwn yn y carchar a rhowch ddim ond ychydig o fara a dŵr iddo nes imi ddod yn ôl mewn heddwch.”’”
28 Ond dywedodd Michea: “Os byddi di’n dod yn ôl mewn heddwch, dydy Jehofa ddim wedi siarad â fi.” Yna ychwanegodd: “Cymerwch sylw, chi bobl i gyd.”
29 Felly aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
30 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Gwna i guddio pwy ydw i, a mynd i mewn i’r frwydr, ond dylet ti wisgo dy wisg frenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad fel na fyddai’n cael ei adnabod ac aeth i mewn i’r frwydr.
31 Nawr roedd brenin Syria wedi gorchymyn i’w 32 o arweinwyr cerbydau: “Peidiwch ag ymladd â neb, yn fach neu’n fawr, heblaw am frenin Israel.”
32 Ac unwaith i’r arweinwyr cerbydau weld Jehosaffat, dywedon nhw wrthyn nhw eu hunain: “Mae’n rhaid mai brenin Israel yw hwn.” Felly gwnaethon nhw droi i ymladd yn ei erbyn; a dechreuodd Jehosaffat weiddi am help.
33 Pan welodd yr arweinwyr cerbydau nad y brenin Israel oedd ef, dyma nhw’n troi yn ôl ar unwaith rhag ei ddilyn.
34 Ond gwnaeth un dyn saethu ei fwa ar hap, a tharo brenin Israel mewn bwlch rhwng ei lurig a gweddill ei arfwisg. Felly dywedodd y brenin wrth yrrwr ei gerbyd: “Tro yn ôl a chymera fi allan o’r frwydr, oherwydd rydw i wedi cael fy anafu’n ddrwg.”
35 Roedd y frwydr yn ffyrnig drwy’r diwrnod hwnnw. Roedd y brenin yn ei gerbyd ac roedd rhaid iddyn nhw ei ddal ar ei draed er mwyn iddo allu gweld y Syriaid. Roedd y gwaed yn llifo allan o’r anaf ac yn mynd ar hyd llawr y cerbyd rhyfel, a bu farw gyda’r nos.
36 Pan oedd yr haul yn machlud, aeth cri drwy’r gwersyll yn dweud: “Pawb yn ôl i’w ddinas! Pawb yn ôl i’w wlad!”
37 Felly bu farw’r brenin ac aethon nhw ag ef i Samaria a’i gladdu yno.
38 Pan wnaethon nhw olchi’r cerbyd rhyfel wrth bwll Samaria, roedd y cŵn yn llyfu ei waed ac roedd y puteiniaid yn ymolchi yno* yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud.
39 Ynglŷn â gweddill hanes Ahab, popeth a wnaeth, a’r tŷ* o ifori a’r holl ddinasoedd gwnaeth ef eu hadeiladu, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel?
40 Yna bu farw Ahab;* a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
41 Roedd Jehosaffat, mab Asa, wedi dod yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ahab brenin Israel.
42 Roedd Jehosaffat yn 35 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am 25 mlynedd. Enw ei fam oedd Aswba ferch Silhi.
43 Parhaodd i efelychu esiampl Asa ei dad heb wyro, a gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa. Ond, roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno. Ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau.
44 Gwnaeth Jehosaffat gadw heddwch â brenin Israel.
45 Ynglŷn â gweddill hanes Jehosaffat, ei weithredoedd nerthol a’i ryfela, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda?
46 Gwnaeth ef hefyd yrru allan o’r wlad weddill y dynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn y temlau, y rhai oedd yn dal ar ôl ers dyddiau ei dad Asa.
47 Bryd hynny, doedd ’na ddim brenin yn Edom; roedd ’na ddirprwy yn gweithredu fel brenin.
48 Hefyd, adeiladodd Jehosaffat longau Tarsis i nôl aur o Offir, ond ni aeth y llongau oherwydd cawson nhw eu llongddryllio yn Esion-geber.
49 Dyna pryd dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat: “Gad i fy ngweision i fynd gyda dy weision di yn y llongau,” ond gwrthododd Jehosaffat.
50 Yna bu farw Jehosaffat,* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd ei gyndad; a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51 Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg* o deyrnasiad Jehosaffat brenin Jwda, a theyrnasodd dros Israel am ddwy flynedd.
52 Ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa a dilyn esiampl ei dad, ei fam, a Jeroboam fab Nebat, a oedd wedi achosi i Israel bechu.
53 Parhaodd i wasanaethu Baal ac ymgrymu iddo, a gwnaeth ef ddigio Jehofa, Duw Israel, dro ar ôl tro yn union fel roedd ei dad wedi gwneud.
Troednodiadau
^ Neu “i gornio’r Syriaid.”
^ Neu “angel.”
^ Neu efallai, “lle roedd y puteiniaid yn ymolchi, roedd y cŵn yn llyfu ei waed.”
^ Neu “palas.”
^ Neu “Yna gorweddodd Ahab i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
^ Neu “Yna gorweddodd Jehosaffat i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
^ Neu “17eg flwyddyn.”