Y Cyntaf at y Corinthiaid 1:1-31

  • Cyfarchion (1-3)

  • Paul yn diolch i Dduw am y Corinthiaid (4-9)

  • Anogaeth i fod yn unedig (10-17)

  • Crist, grym a doethineb Duw (18-25)

  • Brolio am Jehofa yn unig (26-31)

1  Paul, a gafodd ei alw i fod yn apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Sosthenes ein brawd, 2  at gynulleidfa Duw yng Nghorinth, atoch chi sydd wedi cael eich sancteiddio mewn undod â Christ Iesu, sydd wedi cael eich galw i fod yn rhai sanctaidd, ynghyd â phawb ym mhob man sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd nhw a ninnau: 3  Rydyn ni’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. 4  Rydw i bob amser yn diolch i fy Nuw amdanoch chi oherwydd caredigrwydd rhyfeddol Duw a roddwyd ichi yng Nghrist Iesu; 5  oherwydd ym mhob peth rydych chi wedi cael eich cyfoethogi ynddo ef, yn y gallu i siarad ac mewn gwybodaeth lawn, 6  yn union fel y mae’r dystiolaeth am y Crist wedi cael ei gwneud yn gadarn yn eich plith, 7  fel nad ydych chi’n ddiffygiol mewn unrhyw rodd o gwbl, wrth ichi ddisgwyl yn eiddgar am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist. 8  Bydd ef hefyd yn eich gwneud chi’n gadarn hyd y diwedd fel na fyddwch chi’n agored i unrhyw gyhuddiad yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9  Mae Duw yn ffyddlon, ac fe wnaeth eich galw chi i fod mewn undod* â’i Fab, Iesu Grist ein Harglwydd. 10  Nawr rydw i’n eich annog chi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ichi i gyd siarad yn gytûn ac ichi beidio â chael rhaniadau yn eich plith, ond ichi fod yn gwbl unedig, o’r un meddwl ac o’r un farn. 11  Oherwydd mae rhai o dŷ Chlöe wedi rhoi gwybod imi amdanoch chi, fy mrodyr, fod ’na anghydfod rhyngoch chi. 12  Yr hyn rydw i’n ei feddwl yw bod pob un ohonoch chi’n dweud: “Rydw i’n ddisgybl i Paul,” “Minnau i Apolos,” “Minnau i Ceffas,”* “Minnau i Grist.” 13  Ydy’r Crist wedi cael ei rannu? Ai Paul a gafodd ei ddienyddio ar y stanc drostoch chi? Neu a gawsoch chi eich bedyddio yn enw Paul? 14  Rydw i’n diolch i Dduw na wnes i fedyddio neb ohonoch chi heblaw am Crispus a Gaius, 15  fel na all neb ddweud eich bod chi wedi cael eich bedyddio yn fy enw i. 16  Do, fe wnes i fedyddio teulu Steffanas. Heblaw hynny, dydw i ddim yn gwybod a wnes i fedyddio unrhyw un arall. 17  Oherwydd anfonodd Crist fi, nid i fedyddio, ond i gyhoeddi’r newyddion da; ac nid trwy siarad yn ddoeth,* oherwydd byddai hynny’n gwneud stanc dienyddio’r* Crist yn dda i ddim. 18  Oherwydd mae’r neges am y stanc dienyddio* yn ffolineb i’r rhai sydd ar y ffordd i ddistryw, ond i ni sy’n cael ein hachub, nerth Duw yw hyn. 19  Oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Bydda i’n dinistrio doethineb y dynion doeth, a bydda i’n gwrthod deallusrwydd y dynion deallus.” 20  Ble yn y system hon* mae’r dyn doeth? Ble mae’r ysgrifennydd?* Ble mae’r un sy’n hoffi dadlau? Onid ydy Duw wedi gwneud doethineb y byd yn ffolineb? 21  Oherwydd bod pobl y byd hwn wedi ymddiried yn eu doethineb eu hunain, ni wnaethon nhw ddod i adnabod Duw. Ond, yn ei ddoethineb, penderfynodd Duw achub y rhai sy’n credu drwy’r neges rydyn ni’n ei phregethu ac sy’n ymddangos yn ffolineb i eraill. 22  Oherwydd mae’r Iddewon yn gofyn am arwyddion ac mae’r Groegiaid yn chwilio am ddoethineb; 23  ond rydyn ni’n pregethu bod Crist wedi ei ddienyddio ar y stanc, rhywbeth sy’n achosi i’r Iddewon faglu ac sy’n ffolineb i’r cenhedloedd. 24  Fodd bynnag, i’r rhai sy’n cael eu galw, Iddewon a Groegiaid, Crist yw grym Duw a doethineb Duw. 25  Oherwydd mae’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ffolineb Duw yn ddoethach na dynion, ac mae’r hyn sy’n cael ei ystyried yn wendid Duw yn gryfach na dynion. 26  Frodyr, rydych chi wedi sylwi pan gawsoch chi’ch galw gan Dduw nad oedd llawer ohonoch chi yn ddoeth yn ôl safonau dynol,* nad oedd llawer yn rymus, nad oedd llawer o dras uchel,* 27  ond dewisodd Duw bethau ffôl y byd er mwyn codi cywilydd ar y dynion doeth; a dewisodd Duw bethau gwan y byd er mwyn codi cywilydd ar y pethau cryf; 28  a dewisodd Duw bethau dibwys y byd a’r pethau y mae pobl yn edrych i lawr arnyn nhw, a’r pethau mae pobl yn eu hystyried yn ddiwerth,* er mwyn dinistrio’r pethau maen nhw’n eu hystyried yn bwysig,* 29  fel na all neb frolio gerbron Duw. 30  Ond Duw ydy’r rheswm eich bod chi mewn undod â Christ Iesu, sy’n datguddio doethineb Duw i ni, sy’n ein gwneud ni’n gyfiawn ac yn sanctaidd yng ngolwg Duw ac sydd wedi talu’r pris* i’n rhyddhau ni, 31  felly, fel mae’n ysgrifenedig: “Y sawl sy’n brolio, gadewch iddo frolio am Jehofa.”*

Troednodiadau

Neu “cymdeithas.”
A elwir hefyd Pedr.
Neu “siarad yn glyfar.”
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
Hynny yw, arbenigwr yn y Gyfraith.
Neu “yn ôl y cnawd.”
Neu “o deuluoedd pwysig.”
Neu “a’r pethau sydd ddim yn bodoli.”
Neu “y pethau sy’n bodoli.”
Neu “pridwerth.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”