Y Cyntaf at y Corinthiaid 14:1-40
14 Dilynwch ffordd cariad, a pharhewch i geisio’r rhoddion ysbrydol, yn enwedig y gallu i broffwydo.
2 Oherwydd y sawl sy’n siarad mewn iaith arall, nid â dynion y mae’n siarad, ond â Duw, am nad oes neb yn gwrando, er ei fod yn siarad am gyfrinachau cysegredig drwy gyfrwng yr ysbryd.
3 Fodd bynnag, mae’r sawl sy’n proffwydo yn adeiladu ac yn annog ac yn cysuro dynion drwy ei eiriau.
4 Mae’r sawl sy’n siarad mewn iaith arall yn ei adeiladu ei hun, ond mae’r sawl sy’n proffwydo yn adeiladu’r gynulleidfa.
5 Nawr fe hoffwn i petasech chi i gyd yn gallu siarad mewn ieithoedd, ond fe fyddai’n well gen i petasech chi’n proffwydo. Yn wir, mae’r sawl sy’n proffwydo yn fwy na’r sawl sy’n siarad mewn ieithoedd, oni bai ei fod yn cyfieithu, fel y gallai’r gynulleidfa gael ei hadeiladu.
6 Ond ar hyn o bryd, frodyr, os ydw i’n dod atoch chi’n siarad mewn ieithoedd, pa les fydd hynny i chi oni bai fy mod i’n siarad â chi naill ai drwy ddatguddiad neu drwy wybodaeth neu drwy broffwydoliaeth neu drwy ddysgeidiaeth?
7 Mae’r un peth yn wir am bethau difywyd sy’n cynhyrchu sŵn, fel ffliwt neu delyn. Oni bai bod ’na wahaniaeth clir rhwng y nodau, sut gellir adnabod yr hyn sy’n cael ei chwarae ar y ffliwt neu ar y delyn?
8 Oherwydd os ydy’r trwmped yn seinio nodyn aneglur, pwy fydd yn paratoi ar gyfer mynd i’r frwydr?
9 Yn yr un modd, oni bai eich bod chi’n defnyddio’r tafod i ddweud geiriau sy’n hawdd eu deall, sut bydd unrhyw un yn gwybod beth sy’n cael ei ddweud? Yn wir, fe fyddwch chi’n malu awyr.
10 Mae ’na lawer o ieithoedd yn cael eu siarad yn y byd, ond does yr un ohonyn nhw heb ystyr.
11 Oherwydd os nad ydw i’n deall ystyr y geiriau, fe fydda i’n rhywun estron i’r sawl sy’n siarad, ac fe fydd y sawl sy’n siarad yn rhywun estron i mi.
12 Gan eich bod chithau hefyd yn dymuno rhoddion yr ysbryd, ceisiwch fod yn llawn o roddion a fydd yn adeiladu’r gynulleidfa.
13 Felly, gadewch i’r sawl sy’n siarad mewn iaith arall weddïo fel y gallai ef gyfieithu.
14 Oherwydd os ydw i’n gweddïo mewn iaith arall, rhodd yr ysbryd glân sy’n gweddïo, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
15 Beth galla i ei wneud, felly? Fe wna i weddïo â rhodd yr ysbryd, ond fe wna i weddïo hefyd â fy meddwl. Fe wna i ganu mawl â rhodd yr ysbryd, ond fe wna i ganu mawl hefyd â fy meddwl.
16 Neu fel arall, os wyt ti’n rhoi mawl â rhodd yr ysbryd, sut bydd y person cyffredin sy’n bresennol yn gallu dweud “Amen” i’r diolch rwyt ti’n ei roi i Dduw, gan nad yw’n gwybod beth rwyt ti’n ei ddweud?
17 Yn wir, rwyt ti’n rhoi diolch i Dduw mewn ffordd dda, ond dydy’r dyn arall ddim yn cael ei adeiladu.
18 Rydw i’n diolch i Dduw fy mod i’n siarad mwy o ieithoedd nag ydych chi i gyd.
19 Er hynny, yn y gynulleidfa byddai’n well gen i siarad pum gair â fy meddwl,* fel y galla i hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau mewn iaith arall.
20 Frodyr, peidiwch â bod yn blant bach o ran eich dealltwriaeth, ond byddwch yn blant bach o ran drygioni; a byddwch yn oedolion o ran eich dealltwriaeth.
21 Yn y Gyfraith mae’n ysgrifenedig: “‘Trwy ieithoedd pobl estron a thrwy wefusau pobl ddieithr y bydda i’n siarad â’r bobl hyn, a hyd yn oed wedyn byddan nhw’n gwrthod gwrando arna i,’ meddai Jehofa.”
22 Felly, dydy ieithoedd ddim yn arwydd i’r credinwyr ond i’r anghredinwyr, ond mae proffwydoliaeth i’r credinwyr, nid i’r anghredinwyr.
23 Felly os daw’r gynulleidfa gyfan at ei gilydd mewn un lle ac mae pawb yn siarad mewn ieithoedd, ond mae pobl gyffredin neu anghredinwyr yn dod i mewn, oni fyddan nhw’n dweud eich bod chi wedi mynd o’ch cof?
24 Ond os ydych chi i gyd yn proffwydo ac mae anghrediniwr neu berson cyffredin yn dod i mewn, bydd ef yn cael ei geryddu ac yn cael ei alw i gyfri gan bawb.
25 Yna mae cyfrinachau ei galon yn dod i’r amlwg, fel y bydd ef yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw, gan ddweud: “Mae Duw yn wir yn eich plith chi.”
26 Beth dylai cael ei wneud, felly, frodyr? Pan ddewch chi at eich gilydd, bydd gan un ohonoch chi salm, bydd gan un arall ddysgeidiaeth, bydd gan un arall ddatguddiad, bydd gan un arall iaith, a bydd gan un arall gyfieithiad. Gadewch i bob peth ddigwydd er mwyn adeiladu.
27 Ac os oes rhywun yn siarad mewn iaith arall, gadewch i hynny gael ei gyfyngu i ddau neu dri ar y mwyaf, a phob un yn eu tro, ac mae’n rhaid i rywun gyfieithu.
28 Ond os nad oes ’na gyfieithydd, dylai ef gadw’n ddistaw yn y gynulleidfa a siarad yn ei galon â Duw.
29 Gadewch i ddau neu dri o’r proffwydi siarad, a gadewch i’r lleill geisio deall beth yw’r ystyr.
30 Ond os ydy rhywun arall yn cael datguddiad wrth iddo eistedd yno, gadewch i’r siaradwr cyntaf gadw’n ddistaw.
31 Oherwydd eich bod chi i gyd yn gallu proffwydo fesul un, fel y gallwch chi i gyd ddysgu a chael eich annog.
32 Ac mae rhoddion ysbrydol y proffwydi i’w cael eu rheoli gan y proffwydi.
33 Oherwydd mae Duw yn Dduw nid o anhrefn ond o heddwch.
Fel yn holl gynulleidfaoedd y rhai sanctaidd,
34 gadewch i’r merched* gadw’n ddistaw yn y cynulleidfaoedd, oherwydd ni chaniateir iddyn nhw siarad. Yn hytrach, gadewch iddyn nhw fod yn ymostyngol, fel y mae’r Gyfraith hefyd yn dweud.
35 Os ydyn nhw eisiau dysgu am rywbeth, gadewch iddyn nhw ofyn i’w gwŷr gartref, oherwydd peth gwarthus ydy i ddynes* siarad yn y gynulleidfa.
36 Ai oddi wrthoch chi y daeth gair Duw, neu ai atoch chi yn unig y cyrhaeddodd?
37 Os oes unrhyw un yn meddwl ei fod yn broffwyd neu wedi derbyn rhodd ysbrydol, mae’n rhaid iddo gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd ydy’r pethau rydw i’n eu hysgrifennu atoch chi.
38 Ond os oes unrhyw un yn diystyru hyn, bydd ef yn cael ei ddiystyru.*
39 Felly, fy mrodyr, parhewch i geisio proffwydo, ond eto peidiwch â gwahardd siarad mewn ieithoedd.
40 Ond gadewch i bob peth gael ei wneud yn weddus ac yn drefnus.
Troednodiadau
^ Neu “fy neall.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “i fenyw.”
^ Neu efallai, “os oes unrhyw un yn anwybodus, bydd ef yn parhau i fod yn anwybodus.”