Y Cyntaf at y Corinthiaid 9:1-27

  • Esiampl Paul fel apostol (1-27)

    • ‘Peidio â rhoi penffrwyn ar darw’ (9)

    • ‘Gwae fi os nad ydw i’n pregethu!’ (16)

    • Dod yn bob peth i bawb (19-23)

    • Hunanreolaeth yn y ras am fywyd (24-27)

9  Onid ydw i’n rhydd? Onid ydw i’n apostol? Onid ydw i wedi gweld Iesu ein Harglwydd? Onid fy ngwaith yn yr Arglwydd ydych chi? 2  Hyd yn oed os nad ydw i’n apostol i eraill, rydw i’n bendant yn un i chi! Oherwydd chi ydy’r sêl sy’n cadarnhau fy apostoliaeth yn yr Arglwydd. 3  Fy amddiffyniad i’r rhai sy’n fy marnu ydy’r canlynol: 4  Onid oes gynnon ni’r hawl i fwyta ac yfed? 5  Onid oes gynnon ni’r hawl i fynd â gwraig sydd hefyd yn Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna gweddill yr apostolion a brodyr yr Arglwydd a Ceffas?* 6  Neu ai fi a Barnabas yn unig sy’n gorfod gweithio i ennill bywoliaeth? 7  Pa filwr a fyddai’n talu ei gostau ei hun wrth wasanaethu yn y fyddin? Pwy sy’n plannu gwinllan heb fwyta dim o’r ffrwyth? Neu pwy sy’n bugeilio praidd heb yfed o laeth y praidd? 8  Ydw i’n dweud y pethau hyn o safbwynt dynol? Onid yw’r Gyfraith hefyd yn dweud y pethau hyn? 9  Oherwydd mae’n ysgrifenedig yng Nghyfraith Moses: “Ni ddylet ti roi penffrwyn ar darw pan fydd yn dyrnu’r ŷd.” Ai poeni am deirw mae Duw? 10  Neu er ein mwyn ninnau mae’n dweud hynny? Ie, er ein mwyn ninnau y cafodd ei ysgrifennu, oherwydd dylai’r dyn sy’n aredig a’r dyn sy’n dyrnu wneud hynny yn y gobaith y byddai’n cael cyfran o’r cnwd. 11  Os ydyn ni wedi hau pethau ysbrydol yn eich plith, a ydyn ni’n gofyn gormod i fedi cefnogaeth faterol gynnoch chi? 12  Os oes gan ddynion eraill yr hawl hon arnoch chi, onid oes gynnon ni’r hawl honno yn fwy byth? Er hynny, dydyn ni ddim wedi manteisio ar yr hawl hon, ond rydyn ni’n dyfalbarhau o dan bob math o amgylchiadau fel nad ydyn ni, mewn unrhyw ffordd, yn rhwystro’r newyddion da am y Crist. 13  Onid ydych chi’n gwybod bod y dynion sy’n cyflawni gwasanaeth cysegredig yn bwyta bwyd o’r deml, a bod y rhai sy’n gwasanaethu’n rheolaidd wrth yr allor yn cael cyfran o’r allor? 14  Yn y ffordd hon hefyd, gorchmynnodd yr Arglwydd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da fyw trwy’r newyddion da. 15  Ond dydw i ddim wedi manteisio ar unrhyw un o’r darpariaethau hyn. Yn wir, dydw i ddim wedi ysgrifennu’r pethau hyn er mwyn i hyn gael ei wneud drosto i, oherwydd y byddai’n well gen i farw—ni fydd unrhyw ddyn yn cymryd oddi arna i fy hawl i frolio! 16  Nawr os ydw i’n cyhoeddi’r newyddion da, dydy hynny ddim yn rheswm imi frolio, oherwydd mae rheidrwydd wedi ei osod arna i. Yn wir, gwae fi os nad ydw i’n cyhoeddi’r newyddion da! 17  Os ydw i’n gwneud hyn o’m gwirfodd, mae gen i wobr; ond os ydw i’n gwneud hyn hyd yn oed yn erbyn fy ewyllys, mae gen i o hyd weinyddiaeth sydd wedi ei hymddiried imi. 18  Beth, felly, yw fy wobr? Fy mod i, pan fydda i’n cyhoeddi’r newyddion da, yn gallu cyflwyno’r newyddion da heb gost, er mwyn osgoi camddefnyddio fy awdurdod* yn y newyddion da. 19  Oherwydd er fy mod i’n rhydd oddi wrth bawb, rydw i wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, fel y galla i ennill cymaint o bobl ag sy’n bosib. 20  I’r Iddewon fe ddes i fel Iddew er mwyn ennill Iddewon; i’r rhai sydd o dan y gyfraith fe ddes i fel un sydd o dan y gyfraith, er nad ydw i fy hun o dan y gyfraith, er mwyn ennill y rhai sydd o dan y gyfraith. 21  I’r rhai sydd heb y gyfraith fe ddes i fel un sydd heb y gyfraith, er nad ydw i heb gyfraith ynglŷn â Duw oherwydd fy mod i o dan gyfraith ynglŷn â Christ, er mwyn ennill y rhai sydd heb y gyfraith. 22  I’r rhai gwan fe ddes i’n wan, er mwyn ennill y rhai gwan. Rydw i wedi dod yn bob peth i bobl o bob math, er mwyn imi allu, ym mhob ffordd bosib, achub rhai. 23  Ond rydw i’n gwneud pob peth er mwyn y newyddion da, imi eu rhannu ag eraill. 24  Onid ydych chi’n gwybod bod y rhai sy’n rhedeg mewn ras i gyd yn rhedeg, ond mai un yn unig sy’n derbyn y wobr? Rhedwch er mwyn ichi ei hennill. 25  Nawr mae pob athletwr sy’n cystadlu yn dangos hunanreolaeth ym mhob peth. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud hynny er mwyn derbyn coron sy’n dirywio, ond y ni, un sydd ddim yn dirywio. 26  Rydw i’n rhedeg felly nid yn ddigyfeiriad; rydw i’n anelu fy ergydion er mwyn imi beidio â dyrnu’r awyr; 27  ond rydw i’n curo* fy nghorff ac yn ei arwain fel caethwas, rhag ofn i mi, ar ôl imi bregethu i eraill, gael fy ngwrthod* rywsut.

Troednodiadau

A elwir hefyd Pedr.
Neu “hawliau.”
Neu “cosbi; ceryddu’n llym.”
Neu “fy ngwneud yn anghymwys; anghymeradwy.”