Cyntaf Samuel 29:1-11

  • Y Philistiaid yn gwrthod trystio Dafydd (1-11)

29  Casglodd y Philistiaid eu byddinoedd i gyd at ei gilydd yn Affec, tra oedd yr Israeliaid yn gwersylla wrth y ffynnon yn Jesreel. 2  Ac roedd arglwyddi’r Philistiaid yn pasio heibio gyda’u cannoedd a’u miloedd, ac roedd Dafydd a’i ddynion yn martsio* yn y cefn gydag Achis. 3  Ond dywedodd tywysogion y Philistiaid: “Pam mae’r Hebreaid hyn yma?” Atebodd Achis: “Dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, sydd wedi bod gyda mi am flwyddyn neu fwy. Dydw i ddim wedi gweld unrhyw fai ynddo ers y diwrnod gwnaeth ef gefnu ar Saul a dod ata i hyd heddiw.” 4  Ond digiodd tywysogion y Philistiaid, a dywedon nhw wrtho: “Gwna i’r dyn fynd yn ôl. Gad iddo fynd yn ôl i’r lle gwnest ti ei roi iddo. Paid â gadael iddo ddod i lawr gyda ni i mewn i’r frwydr, fel na fydd yn troi yn ein herbyn ni yn ystod y frwydr. Wedi’r cwbl, pa ffordd well sydd ’na o blesio ei arglwydd na gyda phennau ein dynion? 5  Onid hwn yw’r Dafydd roedden nhw’n canu amdano wrth iddyn nhw ddawnsio, gan ddweud: ‘Mae Saul wedi taro i lawr ei filoedd,A Dafydd ei ddegau o filoedd’?” 6  Felly dyma Achis yn galw Dafydd ato ac yn dweud wrtho: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, rwyt ti’n onest, ac rydw i’n hapus iti fynd ar yr ymgyrch gyda fy myddin, oherwydd dydw i ddim wedi gweld unrhyw fai ynot ti o’r diwrnod y dest ti ata i hyd heddiw. Ond dydy’r arglwyddi ddim yn dy drystio di. 7  Felly dos yn ôl mewn heddwch, a phaid â gwneud unrhyw beth i ddigio arglwyddi’r Philistiaid.” 8  Ond dywedodd Dafydd wrth Achis: “Ond fy arglwydd, beth rydw i wedi ei wneud? Pa fai rwyt ti wedi ei weld yno i o’r amser y des i atat ti hyd heddiw? Pam na ddylwn i ddod gyda ti ac ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd y brenin?” 9  Atebodd Achis: “O fy safbwynt i, rwyt ti wedi bod cystal ag un o angylion Duw. Ond mae tywysogion y Philistiaid wedi dweud, ‘Paid â gadael iddo fynd i fyny gyda ni i mewn i’r frwydr.’ 10  Nawr coda’n gynnar yn y bore gyda gweision dy arglwydd a ddaeth gyda ti; codwch a gadael yn gynnar yn y bore, cyn gynted ag y bydd hi’n olau.” 11  Felly cododd Dafydd a’i ddynion yn gynnar yn y bore i fynd yn ôl i wlad y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.

Troednodiadau

Neu “gorymdeithio.”