Y Cyntaf at Timotheus 4:1-16

  • Rhybudd yn erbyn dysgeidiaethau’r cythreuliaid (1-5)

  • Sut i fod yn weinidog da i Grist (6-10)

    • Cymharu ymarfer corff â defosiwn duwiol (8)

  • Cadw llygad ar beth rwyt ti’n ei ddysgu (11-16)

4  Fodd bynnag, mae’r gair ysbrydoledig* yn dweud yn glir y bydd ’na amser yn y dyfodol pan fydd rhai yn troi cefn ar y ffydd, gan roi sylw i ddatganiadau ysbrydoledig sy’n gamarweiniol* ac i ddysgeidiaethau’r cythreuliaid, 2  drwy gyfrwng rhagrith dynion sy’n dweud celwyddau, a’u cydwybod wedi ei serio gan haearn poeth. 3  Maen nhw’n gwahardd pobl rhag priodi ac yn eu gorchymyn i gadw draw rhag bwyd a gafodd ei greu gan Dduw ar gyfer cael ei fwyta gyda diolchgarwch gan y rhai sydd â ffydd ac sy’n gwybod y gwir yn dda. 4  Oherwydd mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda, ac ni ddylai unrhyw beth gael ei wrthod os yw’n cael ei dderbyn gyda diolchgarwch, 5  oherwydd mae’n cael ei sancteiddio drwy air Duw a thrwy weddïo drosto. 6  Drwy roi’r cyngor hwn i’r brodyr, byddi di’n weinidog da i Grist Iesu, un sydd wedi cael ei fwydo ar eiriau’r ffydd ac ar y ddysgeidiaeth dda rwyt ti wedi ei dilyn yn agos. 7  Ond gwrthoda storïau ffug sy’n gableddus, fel y rhai sy’n cael eu hadrodd gan hen ferched.* Ar y llaw arall, hyffordda dy hun gan osod y nod o ddangos defosiwn duwiol. 8  Oherwydd mae ymarfer corff* yn fuddiol i ryw raddau, ond mae defosiwn duwiol yn fuddiol ar gyfer pob peth, oherwydd mae’n addo bywyd yn y presennol ac yn y dyfodol. 9  Mae’r datganiad hwnnw yn ddibynadwy ac yn haeddu cael ei dderbyn yn llwyr. 10  Dyma pam rydyn ni’n gweithio’n galed ac yn gwneud ymdrech lew, oherwydd ein bod ni wedi rhoi ein gobaith yn y Duw byw, sy’n Achubwr i bob math o ddynion, yn enwedig rhai ffyddlon. 11  Dal ati i orchymyn y pethau hyn ac i’w dysgu nhw i eraill. 12  Paid byth â gadael i neb edrych i lawr arnat ti oherwydd dy fod ti’n ifanc. Yn hytrach, bydda’n esiampl i’r rhai ffyddlon yn dy eiriau, yn dy ymddygiad, yn dy gariad, yn dy ffydd, yn dy burdeb. 13  Dal ati i ganolbwyntio ar ddarllen yn gyhoeddus, ar annog,* ac ar ddysgu eraill hyd nes imi ddod. 14  Paid ag esgeuluso’r gallu a gafodd ei roi iti drwy broffwydoliaeth pan wnaeth y corff henuriaid osod eu dwylo arnat ti. 15  Myfyria ar y pethau hyn; rho dy fryd arnyn nhw, er mwyn i dy gynnydd gael ei weld yn glir gan bawb. 16  Cadwa lygad arnat ti dy hun drwy’r amser ac ar beth rwyt ti’n ei ddysgu i eraill. Dal ati yn y pethau hyn, oherwydd drwy wneud hynny fe fyddi di’n dy achub dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti.

Troednodiadau

Llyth., “mae’r ysbryd.”
Llyth., “i ysbrydion camarweiniol.”
Neu “hen fenywod.”
Neu “hyfforddiant corfforol.”
Neu “argymell.”