Yr Ail at y Corinthiaid 6:1-18

  • Peidio â chamddefnyddio caredigrwydd Duw (1, 2)

  • Disgrifio gweinidogaeth Paul (3-13)

  • Peidio ag uno ag anghredinwyr (14-18)

6  Gan gydweithio ag ef, rydyn ni hefyd yn eich cymell chi i beidio â derbyn caredigrwydd rhyfeddol Duw a methu’r pwynt. 2  Oherwydd mae ef yn dweud: “Mewn amser ffafriol fe wnes i dy glywed di, ac ar ddydd achubiaeth fe wnes i dy helpu di.” Edrychwch! Dyma’r amser arbennig o ffafriol. Edrychwch! Dyma ddydd achubiaeth. 3  Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw beth a fyddai’n achosi i rywun faglu, fel nad oes unrhyw fai ar ein gweinidogaeth; 4  ond ym mhob ffordd rydyn ni’n ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw, drwy ddyfalbarhad mawr, drwy dreialon, drwy adegau o angen, drwy drafferthion, 5  drwy gael ein curo, drwy gael ein carcharu, drwy wynebu tyrfaoedd treisgar, drwy weithio’n galed, drwy golli cwsg, drwy adegau heb fwyd; 6  drwy burdeb, drwy wybodaeth, drwy amynedd, drwy garedigrwydd, drwy’r ysbryd glân, drwy gariad heb ragrith, 7  drwy ddweud y gwir, drwy rym Duw; drwy arfau cyfiawnder yn y llaw dde* a’r llaw chwith,* 8  drwy ogoniant ac amarch, drwy adroddiad drwg ac adroddiad da. Rydyn ni’n cael ein hystyried yn dwyllwyr ond rydyn ni’n dweud y gwir, 9  yn anadnabyddus ond eto rydyn ni’n cael ein hadnabod, yn marw* ond eto edrychwch! rydyn ni’n byw, yn rhai sydd wedi cael eu cosbi* ond eto dydyn ni ddim wedi cael ein lladd, 10  yn rhai sy’n galaru ond bob amser yn llawenhau, yn dlawd ond yn gwneud llawer yn gyfoethog, heb ddim byd, ond eto mae gynnon ni bob peth. 11  Rydyn ni wedi agor ein ceg er mwyn siarad* â chi, Gorinthiaid, ac rydyn ni wedi agor ein calon yn llydan agored. 12  Dydyn ni ddim wedi dal yn ôl yn ein cariad tuag atoch chi, ond rydych chithau’n dal yn ôl yn eich cariad tuag aton ni. 13  Felly rydw i’n siarad â chi fel petaswn i’n siarad â fy mhlant fy hun—chithau hefyd, agorwch eich calonnau yn llydan. 14  Peidiwch â’ch uno eich hunain* ag anghredinwyr. Oherwydd pa berthynas sydd ’na rhwng cyfiawnder a drygioni? Neu beth sy’n gyffredin rhwng goleuni a thywyllwch? 15  Ar ben hynny, pa harmoni sydd ’na rhwng Crist a Belial?* Neu beth sy’n gyffredin rhwng crediniwr ac anghrediniwr? 16  A pha gytundeb sydd ’na rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd teml y Duw byw ydyn ni; yn union fel y dywedodd Duw: “Bydda i’n byw yn eu plith nhw ac yn cerdded yn eu plith nhw, a bydda i’n Dduw iddyn nhw, a nhw fydd fy mhobl i.” 17  “‘Felly, dewch allan o’u plith nhw, a gwahanwch eich hunain oddi wrthyn nhw,’ meddai Jehofa, ‘a stopiwch gyffwrdd â’r peth aflan’”; “‘a bydda i’n eich croesawu chi.’” 18  “‘A bydda i’n dod yn dad i chi, a byddwch chithau yn dod yn feibion ac yn ferched i mi,’ meddai Jehofa, yr Hollalluog.”

Troednodiadau

Efallai ar gyfer ymosod.
Efallai ar gyfer amddiffyn.
Neu “yn cael ein hystyried yn deilwng o farwolaeth.”
Neu “disgyblu.”
Neu “wedi siarad yn agored.”
Llyth., “Peidiwch â dod o dan iau sy’n anwastad.”
O air Hebraeg sy’n golygu “Da i Ddim.” Cyfeirir at Satan.