Yr Ail at y Corinthiaid 7:1-16
7 Felly, gan fod gynnon ni’r addewidion hyn, ffrindiau annwyl, gadewch i ni lanhau ein hunain oddi wrth bob peth sy’n llygru cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2 Gwnewch le i ni yn eich calonnau. Dydyn ni ddim wedi gwneud cam â neb, dydyn ni ddim wedi llygru neb, dydyn ni ddim wedi cymryd mantais o neb.
3 Dydw i ddim yn dweud hyn i’ch condemnio chi. Oherwydd fy mod i wedi dweud o’r blaen eich bod chi yn ein calonnau ni i farw gyda’n gilydd ac i fyw gyda’n gilydd.
4 Rydw i’n gallu siarad yn gwbl agored â chi. Rydw i’n gallu brolio’n fawr amdanoch chi. Rydw i’n llawn cysur; rydw i’n gorlifo â llawenydd yn ein holl dreialon.
5 Yn wir, pan wnaethon ni gyrraedd Macedonia, ni chafodd ein cyrff unrhyw lonydd, ond roedden ni’n parhau i ddioddef ym mhob ffordd—roedd ’na wrthwynebiad ar y tu allan, ofnau ar y tu mewn.
6 Ond mae Duw, sy’n cysuro’r rhai digalon, wedi ein cysuro ni drwy bresenoldeb Titus;
7 ac nid yn unig drwy ei bresenoldeb ond hefyd drwy’r cysur a gafodd ef gynnoch chi, wrth iddo adrodd yn ôl inni am eich hiraeth amdana i, am eich galar dwfn, ac am eich diddordeb diffuant yno i; felly dyma fi’n llawenhau yn fwy byth.
8 Oherwydd hyd yn oed os oedd fy llythyr wedi gwneud ichi deimlo’n drist, dydw i ddim yn difaru. Hyd yn oed os oeddwn i ar y cychwyn yn difaru (o weld bod y llythyr wedi achosi tristwch ichi, er mai dim ond dros dro oedd hynny),
9 nawr rydw i’n llawenhau, nid oherwydd eich tristwch yn unig, ond oherwydd bod eich tristwch wedi eich arwain i edifarhau. Oherwydd roeddech chi wedi cael eich gwneud yn drist mewn ffordd dduwiol, fel nad oeddech chi wedi dioddef unrhyw niwed o’n hachos ni.
10 Oherwydd mae tristwch mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sy’n arwain i achubiaeth, heb ddifaru dim; ond mae tristwch y byd yn arwain i farwolaeth.
11 Edrychwch ar y canlyniadau sydd wedi dod o’ch ymdrechion oherwydd eich tristwch duwiol: rydych chi wedi profi eich bod chi’n ddieuog, rydych chi wedi teimlo dicter, ofn, awydd mawr, sêl, ac rydych chi wedi unioni’r cam! Ym mhob ffordd rydych chi wedi dangos eich bod chi’n bur* yn y mater hwn.
12 Er fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi, doedd hynny ddim o achos yr un a wnaeth y cam, nac o achos yr un a gafodd y cam, ond er mwyn amlygu yng ngolwg Duw eich ymdrechion i wrando arnon ni.
13 Dyna pam rydyn ni wedi cael ein cysuro.
Ond yn ogystal â’n cysur ni, rydyn ni wedi llawenhau hyd yn oed yn fwy byth o achos llawenydd Titus, oherwydd eich bod chi i gyd wedi adnewyddu ei ysbryd.
14 Oherwydd os ydw i wedi brolio wrtho ef amdanoch chi, chefais i ddim fy nghywilyddio; ond yn union fel mae pob peth rydyn ni wedi ei ddweud wrthoch chi yn wir, felly hefyd mae ein brolio wrth Titus wedi ei brofi’n wir.
15 Hefyd, mae ei hoffter mawr tuag atoch chi yn fwy wrth iddo gofio ufudd-dod pob un ohonoch chi, a’r ffordd y gwnaethoch chi ei dderbyn mewn ofn a dychryn.
16 Rydw i’n llawenhau fy mod i’n gallu eich trystio chi ym mhob peth.
Troednodiadau
^ Neu “yn ddihalog; yn ddiniwed.”