Yr Ail at Timotheus 2:1-26

  • Rhoi’r neges yng ngofal dynion ffyddlon (1-7)

  • Dioddef er mwyn y newyddion da (8-13)

  • Dysgu ac esbonio gair Duw yn gywir (14-19)

  • Ffoi rhag chwantau sy’n naturiol i bobl ifanc (20-22)

  • Sut i ddelio gyda gwrthwynebwyr (23-26)

2  Felly, fy mab, parha i ofyn i Dduw roi iti’r nerth trwy’r caredigrwydd rhyfeddol mae Crist Iesu’n ei ddangos; 2  a’r pethau a glywaist ti gen i ac a gafodd eu cefnogi gan lawer o dystion, rho’r pethau hyn yng ngofal dynion ffyddlon, dynion a fydd yn ddigon cymwys i ddysgu eraill hefyd. 3  Fel milwr da i Grist Iesu, bydda’n barod i ddioddef. 4  Does yr un dyn sy’n gwasanaethu fel milwr yn ymwneud* â byd busnes,* er mwyn cael cymeradwyaeth yr un a wnaeth ei gofrestru’n filwr. 5  A hyd yn oed yn y mabolgampau, dydy unrhyw un sy’n cystadlu ddim yn cael ei goroni oni bai ei fod wedi cystadlu yn ôl y rheolau. 6  Dylai’r ffermwr gweithgar fod y cyntaf i fwyta o’r ffrwythau. 7  Meddylia drwy’r amser am beth rydw i’n ei ddweud; bydd yr Arglwydd yn rhoi iti ddealltwriaeth ym mhob peth. 8  Cofia fod Iesu Grist wedi cael ei godi o’r meirw ac yn ddisgynnydd i Dafydd,* yn ôl y newyddion da rydw i’n eu pregethu. 9  Rydw i’n dioddef ac yn cael fy ngharcharu fel troseddwr dros y newyddion da. Er hynny, dydy gair Duw ddim yn gallu cael ei rwymo. 10  Am y rheswm hwn, rydw i’n dyfalbarhau yn wyneb pob peth er mwyn y rhai sydd wedi cael eu dewis, fel y gallan nhwthau hefyd gael yr achubiaeth sy’n dod trwy Grist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol. 11  Mae’r geiriau hyn yn ddibynadwy: Yn wir, os buon ni farw gyda’n gilydd, byddwn ni hefyd yn byw gyda’n gilydd; 12  os ydyn ni’n dyfalbarhau, byddwn ni hefyd yn rheoli gyda’n gilydd fel brenhinoedd; os ydyn ni’n ei wadu, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau; 13  os ydyn ni’n anffyddlon, mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd dydy ef ddim yn gallu ei wadu ei hun. 14  Parha i’w hatgoffa nhw o’r pethau hyn, gan eu cyfarwyddo nhw* o flaen Duw i beidio â dadlau dros eiriau, rhywbeth sydd ddim yn ddefnyddiol o gwbl oherwydd ei fod yn niweidio’r* rhai sy’n gwrando. 15  Gwna dy orau i ddangos i Dduw dy fod ti’n gymeradwy, yn weithiwr heb unrhyw reswm i deimlo cywilydd, gan ddysgu ac esbonio gair y gwir yn gywir. 16  Ond gwrthoda siarad gwag sy’n diystyru beth sy’n sanctaidd, oherwydd bydd hyn yn arwain at fwy a mwy o ymddygiad annuwiol, 17  a bydd eu gair yn lledaenu fel madredd.* Mae Hymenaeus a Philetus yn eu plith nhw. 18  Mae’r dynion hyn wedi crwydro oddi wrth y gwir, gan ddweud bod yr atgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac maen nhw’n tanseilio ffydd rhai pobl. 19  Er gwaethaf hynny, mae sylfaen gadarn Duw yn dal i sefyll, ac mae’r sêl hon arni: “Mae Jehofa’n adnabod y rhai sy’n perthyn iddo,” a, “Dylai pawb sy’n galw ar enw Jehofa gefnu ar anghyfiawnder.” 20  Nawr mewn tŷ mawr mae ’na lestri nid yn unig o aur ac o arian ond hefyd o bren ac o bridd, ac mae rhai yn cael eu defnyddio ar gyfer pethau arbennig ond eraill ar gyfer pethau cyffredin. 21  Felly os ydy unrhyw un yn cadw draw o’r rhai sydd ar gyfer pethau cyffredin, fe fydd ef yn llestr sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau arbennig, wedi ei sancteiddio, yn ddefnyddiol i’w berchennog, ac yn barod ar gyfer pob gwaith da. 22  Felly mae’n rhaid iti ffoi rhag chwantau sy’n naturiol i bobl ifanc, ond ceisia gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch, ynghyd â’r rhai sy’n galw ar yr Arglwydd o galon lân. 23  Ar ben hynny, gwrthoda ddadleuon ffôl ac anwybodus, gan wybod eu bod nhw’n achosi cweryla. 24  Oherwydd does dim angen i gaethwas yr Arglwydd gweryla, ond dylai fod yn dyner* tuag at bawb, yn gymwys i ddysgu eraill, yn ei ddal ei hun yn ôl pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth drwg iddo, 25  yn cyfarwyddo gydag addfwynder y rhai sydd heb yr agwedd gywir. Efallai bydd Duw yn rhoi iddyn nhw edifeirwch* sy’n arwain i wybodaeth gywir o’r gwir, 26  a gallan nhw ddod atyn nhw eu hunain a dianc rhag magl y Diafol, gan sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu dal yn fyw ganddo i wneud ei ewyllys.

Troednodiadau

Llyth., “yn cael ei glymu wrth fyd busnes.”
Neu efallai, “materion bob dydd.”
Llyth., “yn dod o had Dafydd.”
Llyth., “gan dystiolaethu’n drylwyr iddyn nhw.”
Neu “dinistrio’r.”
Neu “clwyf sy’n dirywio’r cnawd.”
Neu “yn llawn tact.”
Neu “yn gadael iddyn nhw newid eu meddyliau.”