Actau’r Apostolion 3:1-26

  • Pedr yn iacháu cardotwr cloff (1-10)

  • Araith Pedr wrth ymyl Colofnres Solomon (11-26)

    • “Pob peth yn cael ei adfer” (21)

    • Proffwyd fel Moses (22)

3  Nawr roedd Pedr ac Ioan yn mynd i fyny i’r deml ar yr awr weddi, y nawfed awr,* 2  ac roedd ’na ddyn a oedd yn gloff o’i enedigaeth yn cael ei gario. Bob dydd roedden nhw’n ei osod wrth ymyl porth y deml a oedd yn cael ei alw Prydferth, fel roedd yn gallu begian ar y rhai a fyddai’n mynd i mewn i’r deml. 3  Pan welodd ef Pedr ac Ioan ar fin mynd i mewn i’r deml, dechreuodd gardota. 4  Ond edrychodd Pedr, ynghyd â Ioan, yn syth yn wyneb y dyn a dweud: “Edrycha arnon ni.” 5  Felly hoeliodd ei sylw arnyn nhw, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddyn nhw. 6  Fodd bynnag, dywedodd Pedr: “Does gen i ddim arian nac aur, yr hyn sydd gen i ydy’r hyn rydw i’n ei roi iti. Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cerdda!” 7  Ar hynny gafaelodd yn llaw dde’r dyn a’i godi. Ar unwaith cafodd ei draed a’i fferau eu gwneud yn gadarn; 8  ac ar ôl neidio ar ei draed, dechreuodd gerdded ac aeth gyda nhw i mewn i’r deml, yn cerdded ac yn neidio ac yn moli Duw. 9  A gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw. 10  A sylweddolon nhw mai hwn oedd y dyn a oedd yn eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, ac roedden nhw’n hollol syfrdan ac yn rhyfeddu at yr hyn oedd wedi digwydd iddo. 11  Tra oedd y dyn yn dal i afael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl gyda’i gilydd atyn nhw i’r lle a oedd yn cael ei alw Colofnres* Solomon, ac roedden nhw’n hollol syfrdan. 12  Pan welodd Pedr hyn, dywedodd wrth y bobl: “Ddynion Israel, pam rydych chi’n rhyfeddu gymaint at hyn, fel petasen ni wedi gwneud iddo gerdded drwy ein nerth personol neu ein defosiwn duwiol? 13  Mae Duw Abraham ac Isaac a Jacob, Duw ein cyndadau, wedi gogoneddu ei Was, Iesu, yr un y gwnaethoch chi ei roi yn nwylo ei elynion a’i wadu o flaen Peilat, er ei fod wedi penderfynu ei ryddhau. 14  Yn wir, fe wnaethoch chi wadu’r un sanctaidd a chyfiawn hwnnw, a gofyn am ddyn a oedd yn llofrudd i gael ei roi i chi, 15  a gwnaethoch chi ladd y Prif Arweinydd a benodwyd i roi bywyd. Ond gwnaeth Duw ei godi ef o’r meirw, ac rydyn ni’n dystion i’r ffaith honno. 16  A thrwy ei enw, a thrwy ein ffydd yn ei enw, mae’r dyn hwn rydych chi’n ei weld ac yn ei adnabod wedi cael ei wneud yn gryf. Mae’r ffydd sydd trwy Iesu wedi gwneud y dyn hwn yn hollol iach o flaen pob un ohonoch chi. 17  Ac nawr, frodyr, rydw i’n gwybod eich bod chi wedi gweithredu mewn anwybodaeth, yn union fel y gwnaeth eich rheolwyr hefyd. 18  Ond fel hyn y cyflawnodd Duw y pethau a gyhoeddodd ef ymlaen llaw, drwy geg yr holl broffwydi, sef y byddai ei Grist yn dioddef. 19  “Edifarhewch, felly, a throwch yn ôl er mwyn i’ch pechodau gael eu rhwbio allan, fel y gall tymhorau sy’n adfywio ddod oddi wrth Jehofa ei hun* 20  ac fel y gall ef anfon y Crist sydd wedi cael ei benodi i chi, Iesu. 21  Mae’n rhaid iddo ef aros yn y nef hyd yr amseroedd pan fydd pob peth yn cael ei adfer fel y dywedodd Duw drwy geg ei broffwydi sanctaidd gynt. 22  Yn wir, dywedodd Moses: ‘Bydd Jehofa eich Duw yn codi i chi broffwyd fel fi o blith eich brodyr. Mae’n rhaid ichi wrando ar beth bynnag mae’n ei ddweud wrthoch chi. 23  Yn wir, bydd unrhyw un* sydd ddim yn gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei ddinistrio’n llwyr o blith y bobl.’ 24  A’r holl broffwydi o Samuel a’i olynwyr, pob un sydd wedi siarad, maen nhwthau hefyd wedi cyhoeddi’r dyddiau hyn. 25  Chi ydy meibion y proffwydi a meibion y cyfamod a wnaeth Duw â’ch cyndadau, gan ddweud wrth Abraham: ‘A thrwy gyfrwng dy ddisgynyddion* bydd holl deuluoedd y ddaear yn cael eu bendithio.’ 26  Ar ôl codi ei Was, fe wnaeth Duw ei anfon atoch chi yn gyntaf er mwyn eich bendithio chi trwy droi pob un ohonoch chi oddi wrth eich gweithredoedd drwg.”

Troednodiadau

Hynny yw, tua 3:00 p.m.
Rhes o golofnau a tho arnyn nhw.
Llyth., “o wyneb Jehofa.”
Neu “unrhyw enaid.”
Llyth., “had.”