Barnwyr 5:1-31
5 Ar y diwrnod hwnnw, canodd Debora a Barac fab Abinoam y gân hon gyda’i gilydd:
2 “Oherwydd y gwallt sydd heb ei glymu* yn Israel,Oherwydd y gwirfoddolwyr,Molwch Jehofa!
3 Gwrandewch, chi frenhinoedd! Clywch, chi reolwyr!
I Jehofa bydda i’n canu.
Bydda i’n canu mawl* i Jehofa, Duw Israel.
4 Jehofa, pan est ti allan o Seir,Tra oeddet ti’n martsio* allan o diriogaeth Edom,Crynodd y ddaear, a thywalltodd y nefoedd,Arllwysodd dŵr o’r cymylau.
5 Meddalodd* mynyddoedd o flaen wyneb Jehofa,Hyd yn oed Sinai o flaen wyneb Jehofa, Duw Israel.
6 Yn nyddiau Samgar fab Anath,Yn nyddiau Jael, roedd y ffyrdd yn wag;Arhosodd y teithwyr ar y lonydd cefn.
7 Doedd neb yn byw ym mhentrefi Israel bellach;Doedd neb yn byw yno nes i mi, Debora, godi,Nes i mi godi fel mam yn Israel.
8 Dewison nhw dduwiau newydd;Yna roedd ’na ryfel ym mhyrth y dinasoedd.
Doedd yr un darian na gwaywffon i’w gweld,Ymhlith 40,000 yn Israel.
9 Mae fy nghalon gydag arweinwyr milwyr Israel,Y rhai a aeth gyda’r bobl o’u gwirfodd.
Molwch Jehofa!
10 Chi sydd ar gefn asynnod brown golau,Chi sy’n eistedd ar garpedi crand,A chi sy’n cerdded ar hyd y ffordd,Ystyriwch hyn!
11 Roedd lleisiau’r rhai sy’n dosbarthu dŵr i’w clywed wrth y ffynhonnau;Yno roedden nhw’n adrodd am weithredoedd cyfiawn Jehofa,Gweithredoedd cyfiawn ei bentrefwyr yn Israel.
Yna aeth pobl Jehofa i lawr i byrth y dinasoedd.
12 Deffra, deffra, O Debora!
Deffra, deffra, a chana gân!
Cod, Barac! Arwain dy garcharorion i ffwrdd, ti fab Abinoam!
13 Yna daeth y rhai oedd ar ôl i lawr at y boneddigion;Daeth pobl Jehofa i lawr ata i yn erbyn y rhai nerthol.
14 Daeth y rhai yn y dyffryn* allan o Effraim;Maen nhw’n dy ddilyn di, O Benjamin, ymhlith dy bobloedd.
Aeth arweinwyr y milwyr i lawr o Machir,A’r rhai sy’n cario gwialen swyddog* o Sabulon.
15 Roedd tywysogion Issachar gyda Debora,Fel roedd Issachar, felly roedd Barac.
Cafodd ei anfon ar droed i mewn i wastatir y dyffryn.*
Roedd llwyth Reuben yn pendroni ac yn chwilio eu calonnau.
16 Pam gwnest ti eistedd i lawr fel anifail o dan faich ei ddau fag,Yn gwrando arnyn nhw’n chwarae eu pibau ar gyfer y preiddiau?
Roedd llwyth Reuben yn pendroni ac yn chwilio eu calonnau.
17 Arhosodd Gilead y tu hwnt i’r Iorddonen;A Dan, pam gwnaeth ef aros gyda’r llongau?
Eisteddodd Aser yn segur wrth lan y môr,Ac arhosodd wrth ei harbyrau.
18 Roedd pobl Sabulon yn mentro eu bywydau;*Nafftali hefyd ar y bryniau agored.
19 Daeth brenhinoedd, a brwydro;Yna brwydrodd brenhinoedd CanaanYn Taanach, wrth ymyl dyfroedd Megido.
Ond wnaethon nhw ddim ysbeilio unrhyw arian.
20 O’r nef y brwydrodd y sêr;O’u llwybrau brwydron nhw yn erbyn Sisera.
21 Dyma nant Cison yn eu hysgubo nhw i ffwrdd,Yr hen nant, nant Cison.
Gwnest ti sathru ar y rhai pwerus, O fy enaid.*
22 Yna roedd carnau’r ceffylau yn taro’r tirWrth i’w feirch garlamu’n wyllt.
23 ‘Melltithiwch Meros,’ meddai angel Jehofa,‘Ie, melltithiwch ei phobl,Oherwydd wnaethon nhw ddim dod i helpu Jehofa,Wnaethon nhw ddim helpu Jehofa gyda’r rhai cryf.’
24 Mae Jael wedi ei bendithio’n fwy nag unrhyw ddynes* arall,Gwraig Heber y Cenead;O’r holl ferched* sy’n byw mewn pebyll,Hi sydd wedi ei bendithio fwyaf.
25 Gofynnodd ef am ddŵr; rhoddodd hi laeth iddo.
Rhoddodd hi hufen* iddo mewn powlen fawr grand.
26 Estynnodd am yr hoelen babell gyda’i llaw,Ac am forthwyl y gweithiwr gyda’i llaw dde.
Dyma hi’n dyrnu Sisera, ac yn malu ei ben,Dyma hi’n taro a thrywanu ei ben.
27 Rhwng ei thraed fe gwympodd; syrthiodd a gorwedd yn llonydd;Rhwng ei thraed fe gwympodd a syrthio;Syrthiodd yn farw yn y fan a’r lle.
28 Roedd dynes* yn edrych allan o’r ffenest,Roedd mam Sisera yn syllu drwy’r ffenest,‘Pam mae ei gerbyd yn hwyr?
Pam na alla i glywed ceffylau ei gerbyd yn dod eto?’
29 Byddai ei merched* bonheddig doethaf yn ei hateb hi;Ie, byddai hithau hefyd yn ailadrodd iddi hi ei hun,
30 ‘Mae’n rhaid eu bod nhw’n rhannu’r ysbail,Merch, dwy ferch, i bob milwr,Ysbail o frethyn lliw i Sisera, ysbail o frethyn lliw,Dilledyn wedi ei frodio, brethyn lliw, dau ddilledyn wedi eu brodioAr gyfer gyddfau’r ysbeilwyr.’
31 Felly gad i dy holl elynion farw, O Jehofa,Ond gad i’r rhai sy’n dy garu di fod fel yr haul yn codi yn ei ogoniant.”
A chafodd y wlad orffwys* am 40 mlynedd.
Troednodiadau
^ Neu “y milwyr sydd heb glymu eu gwallt yn ôl.”
^ Neu “cyfansoddi cerddoriaeth.”
^ Neu “gorymdeithio.”
^ Neu efallai, “Crynodd; Toddodd.”
^ Neu “gwastatir isel.”
^ Neu efallai, “rhai sy’n defnyddio offer ysgrifennydd.”
^ Neu “i wastatir isel.”
^ Neu “eu heneidiau.”
^ Neu “unrhyw fenyw.”
^ Neu “holl fenywod.”
^ Neu “Rhoddodd hi laeth enwyn.”
^ Neu “menyw.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “heddwch.”