Barnwyr 9:1-57

  • Abimelech yn dod yn frenin yn Sechem (1-6)

  • Dameg Jotham (7-21)

  • Teyrnasiad treisgar Abimelech (22-33)

  • Abimelech yn ymosod ar Sechem (34-49)

  • Dynes yn anafu Abimelech; mae’n marw (50-57)

9  Ymhen amser aeth Abimelech fab Jerwbbaal at frodyr ei fam yn Sechem, a dywedodd wrthyn nhw ac wrth holl deulu ei daid:** 2  “Plîs gofynnwch i holl arweinwyr Sechem, ‘Beth sy’n well i chi, i bob un o 70 mab Jerwbbaal reoli drostoch chi neu i un dyn reoli drostoch chi? A chofiwch fy mod i’n perthyn i chi drwy waed.’”* 3  Felly dywedodd brodyr ei fam hynny wrth holl arweinwyr Sechem ar ran Abimelech, a chawson nhw eu perswadio* i’w ddilyn, oherwydd dywedon nhw: “Ein brawd ein hunain ydy ef.” 4  Yna rhoddon nhw 70 darn o arian o dŷ* Baal-berith iddo, a gwnaeth Abimelech eu defnyddio i gyflogi dynion diog ac amharchus i fynd gydag ef. 5  Ar ôl hynny aeth i dŷ ei dad yn Offra a lladd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, 70 dyn, ar un garreg. Yr unig un wnaeth oroesi oedd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am ei fod wedi cuddio. 6  Yna daeth holl arweinwyr Sechem, a phawb yn Beth-milo, at ei gilydd a gwneud Abimelech yn frenin, yn agos at y goeden fawr, wrth y golofn oedd yn Sechem. 7  Pan ddywedon nhw wrth Jotham am y peth, aeth ar unwaith a sefyll ar ben Mynydd Gerisim a galw arnyn nhw mewn llais uchel: “Gwrandewch arna i, chi arweinwyr Sechem, ac yna bydd Duw yn gwrando arnoch chi. 8  “Ar un adeg roedd ’na goed a aeth i eneinio brenin arnyn nhw. Felly dywedon nhw wrth y goeden olewydd, ‘Rheola droston ni.’ 9  Ond dywedodd y goeden olewydd wrthyn nhw, ‘Oes rhaid imi stopio cynhyrchu fy olew sy’n cael ei ddefnyddio i ogoneddu Duw a dyn er mwyn mynd i chwifio dros y coed eraill?’ 10  Yna dywedodd y coed wrth y goeden ffigys, ‘Tyrd i reoli droston ni.’ 11  Yna dywedodd y goeden ffigys wrthyn nhw, ‘Oes rhaid imi stopio cynhyrchu ffrwyth melys er mwyn mynd i chwifio dros y coed eraill?’ 12  Nesaf dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd i reoli droston ni.’ 13  Atebodd y winwydden, ‘Oes rhaid imi stopio cynhyrchu fy ngwin newydd sy’n gwneud i Dduw a dyn lawenhau er mwyn mynd i chwifio dros y coed?’ 14  Yn olaf dywedodd y coed eraill i gyd wrth y llwyn mieri, ‘Tyrd i reoli droston ni.’ 15  Gyda hynny dywedodd y llwyn mieri wrth y coed, ‘Os ydych chi’n wir yn fy eneinio i’n frenin arnoch chi, dewch i gael lloches yn fy nghysgod. Ond fel arall, bydd tân yn dod allan o’r llwyn mieri ac yn llosgi coed cedrwydd Lebanon.’ 16  “Nawr a ydych chi wedi gweithredu’n ffyddlon ac yn onest drwy wneud Abimelech yn frenin? Ac a ydych chi wedi dangos daioni tuag at Jerwbbaal a’i deulu, ac wedi ei drin fel mae’n haeddu? 17  Pan frwydrodd fy nhad drostoch chi, rhoddodd ei fywyd* yn y fantol i’ch achub chi o law Midian. 18  Ond heddiw rydych chi wedi codi yn erbyn teulu fy nhad ac wedi lladd ei feibion, 70 o ddynion, ar un garreg. Yna dyma chi’n gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar arweinwyr Sechem dim ond am ei fod yn frawd ichi. 19  Yn wir, os ydych chi’n gweithredu’n ffyddlon ac yn onest tuag at Jerwbbaal a’i deulu heddiw, llawenhewch dros Abimelech a gadewch iddo yntau lawenhau drostoch chi. 20  Ond fel arall, bydd tân yn dod allan o Abimelech ac yn llosgi arweinwyr Sechem a Beth-milo, a bydd tân yn dod allan o arweinwyr Sechem a Beth-milo ac yn llosgi Abimelech.” 21  Yna gwnaeth Jotham ffoi a dianc i Beer, a byw yno oherwydd ei frawd Abimelech. 22  Rheolodd Abimelech dros Israel am dair blynedd. 23  Yna gadawodd Duw i gasineb ddatblygu* rhwng Abimelech ac arweinwyr Sechem, a gwnaethon nhw fradychu Abimelech. 24  Roedd hyn er mwyn dial am yr ymosodiad treisgar ar 70 mab Jerwbbaal, er mwyn i’r dynion euog dalu am y gwaed gafodd ei dywallt:* Abimelech am ladd ei frodyr, ac arweinwyr Sechem am ei helpu i’w lladd nhw. 25  Felly gosododd arweinwyr Sechem ddynion ar bennau’r mynyddoedd yn barod i ymosod ar Abimelech, a bydden nhw’n dwyn oddi ar unrhyw un oedd yn mynd heibio nhw ar y ffordd. Ymhen amser cafodd hyn ei adrodd wrth Abimelech. 26  Dyma Gaal fab Ebed yn croesi drosodd i Sechem, ac roedd arweinwyr Sechem yn ei drystio. 27  Aeth dynion Sechem allan i’r cae a chasglu grawnwin eu gwinllannoedd, sathru arnyn nhw, a chynnal gŵyl, ac ar ôl hynny aethon nhw i mewn i dŷ eu duw a bwyta ac yfed a melltithio Abimelech. 28  Yna dywedodd Gaal fab Ebed: “Pwy ydy Abimelech fab Jerwbbaal? A phwy ydy Sebul, comisiynydd Sechem? Pam dylen ni eu gwasanaethu nhw? Yn hytrach gwasanaethwch ddynion Hamor, tad Sechem! Pam dylen ni wasanaethu Abimelech? 29  O na fyddai’r bobl hyn yn fy nilyn i, yna byddwn i’n diorseddu Abimelech.” Yna dywedodd wrth Abimelech: “Gwna dy fyddin yn fwy a thyrd allan.” 30  Pan glywodd Sebul, tywysog y ddinas, eiriau Gaal fab Ebed, gwylltiodd yn lân. 31  Felly anfonodd negeswyr at Abimelech yn gyfrinachol* i ddweud: “Edrycha! Mae Gaal fab Ebed a’i frodyr nawr yn Sechem ac maen nhw’n troi pobl y ddinas yn dy erbyn di. 32  Nawr tyrd i fyny yn ystod y nos, ti a dy ddynion, a chuddio yn y caeau. 33  Ar doriad y wawr, dylet ti godi ac ymosod ar y ddinas; a phan fydd ef a’i ddynion yn dod allan yn dy erbyn di, gwna beth bynnag gelli di i’w drechu.” 34  Felly cododd Abimelech a phawb gydag ef yn ystod y nos, ac mewn pedwar grŵp gwnaethon nhw guddio tu allan i Sechem yn barod i ymosod. 35  Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll wrth giât y ddinas, cododd Abimelech a’r bobl gydag ef o le roedden nhw’n cuddio. 36  Pan welodd Gaal y bobl, dywedodd wrth Sebul: “Edrycha! Mae ’na bobl yn dod i lawr o’r mynyddoedd.” Ond dywedodd Sebul wrtho: “Rwyt ti’n gweld cysgodion y mynyddoedd fel petasen nhw’n ddynion.” 37  Yn hwyrach ymlaen dywedodd Gaal: “Edrycha! Mae ’na bobl yn dod i lawr o ganol y wlad, ac mae un grŵp yn dod ar hyd y ffordd sy’n mynd heibio coeden fawr Meonenim.” 38  Atebodd Sebul: “A wyt ti wedi anghofio beth roeddet ti’n brolio amdano drwy ddweud, ‘Pwy ydy Abimelech a pham dylen ni ei wasanaethu?’ Onid y rhain yw’r bobl gwnest ti eu bychanu? Nawr dos allan a brwydro yn eu herbyn nhw.” 39  Felly aeth Gaal allan ar y blaen gydag arweinwyr Sechem yn ei ddilyn a brwydro yn erbyn Abimelech. 40  Aeth Abimelech ar ei ôl, a gwnaeth Gaal ffoi oddi wrtho, a chafodd llawer eu lladd ar hyd y ffordd mor bell â giât y ddinas. 41  A pharhaodd Abimelech i fyw yn Aruma, a gwnaeth Sebul yrru Gaal a’i frodyr allan o Sechem. 42  Y diwrnod wedyn aeth pobl Sechem allan o’r ddinas, ac roedd Abimelech wedi clywed am y peth. 43  Felly cymerodd ei ddynion a’u rhannu nhw’n dri grŵp a’u gosod nhw i guddio yn y cae. Pan welodd y bobl yn dod allan o’r ddinas, ymosododd arnyn nhw a’u taro nhw i lawr. 44  Rhedodd Abimelech a’r grwpiau gydag ef yn eu blaenau a chymryd eu lle wrth giât y ddinas, tra bod dau grŵp yn ymosod ar bawb oedd wedi gadael y ddinas, ac yn eu taro nhw i lawr. 45  Brwydrodd Abimelech yn erbyn y ddinas drwy’r dydd a’i chipio. Lladdodd bawb ynddi, a chwalu’r ddinas a’i hau â halen. 46  Pan glywodd holl arweinwyr tŵr Sechem am hyn, aethon nhw ar unwaith i’r ddaeargell* oedd yn nhŷ* El-berith. 47  Cyn gynted ag y clywodd Abimelech fod holl arweinwyr tŵr Sechem wedi dod at ei gilydd, 48  aeth Abimelech a’r holl ddynion oedd gydag ef i fyny Mynydd Salmon. Cymerodd Abimelech fwyell yn ei law a thorri cangen oddi ar goeden a’i chodi ar ei ysgwydd a dweud wrth y bobl gydag ef: “Brysiwch i wneud yr un fath â fi!” 49  Felly gwnaeth yr holl bobl hefyd dorri canghennau a dilyn Abimelech. Yna dyma nhw’n rhoi’r canghennau yn erbyn y ddaeargell ac yn rhoi’r ddaeargell ar dân. Felly bu farw holl bobl tŵr Sechem hefyd, tua 1,000 o ddynion a merched.* 50  Yna aeth Abimelech i Thebes a gwersylla yn erbyn Thebes a’i chipio. 51  Roedd tŵr cryf yng nghanol y ddinas, a gwnaeth holl ddynion, merched,* ac arweinwyr y ddinas ffoi yno. Dyma nhw’n eu cau eu hunain i mewn ac yn dringo i ben y to. 52  Aeth Abimelech at y tŵr ac ymosod arno. Aeth at fynedfa’r tŵr i’w osod ar dân. 53  Yna dyma un o’r merched* yn gollwng maen melin ar ben Abimelech gan dorri ei benglog. 54  Ar unwaith galwodd ar y gwas oedd yn cario ei arfau a dweud: “Tynna dy gleddyf a lladd fi, fel na fyddan nhw’n dweud amdana i, ‘Cafodd ei ladd gan ddynes.’”* Felly gwnaeth ei was ei drywanu, a bu farw. 55  Pan welodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw, aethon nhw i gyd adref. 56  Felly talodd Duw yn ôl i Abimelech am y drwg roedd ef wedi ei wneud i’w dad pan laddodd ei 70 brawd. 57  Hefyd talodd Duw yn ôl i ddynion Sechem am yr holl bethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud. Felly daeth melltith Jotham fab Jerwbbaal ar eu pennau.

Troednodiadau

Neu “ei dad-cu.”
Llyth., “teulu tŷ tad ei fam.”
Llyth., “fy mod i o’r un asgwrn a chnawd â chi.”
Llyth., “trodd eu calonnau.”
Neu “o deml.”
Neu “enaid.”
Llyth., “anfonodd Duw ysbryd drwg.”
Neu “arllwys.”
Neu “yn slei.”
Neu “ystafell a oedd yn lloches gref.”
Neu “yn nheml.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “gan fenyw.”