Genesis 1:1-31

  • Creu’r nefoedd a’r ddaear (1, 2)

  • Chwe dydd o baratoi’r ddaear (3-31)

    • Dydd 1: goleuni; dydd a nos (3-5)

    • Dydd 2: atmosffer (6-8)

    • Dydd 3: tir sych a phlanhigion (9-13)

    • Dydd 4: goleuadau yn yr awyr (14-19)

    • Dydd 5: pysgod ac adar (20-23)

    • Dydd 6: anifeiliaid y tir a bodau dynol (24-31)

1  Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. 2  Nawr roedd y ddaear yn ddi-siâp ac yn wag, ac roedd ’na dywyllwch ar wyneb y dŵr dwfn,* ac roedd ysbryd* Duw yn symud o gwmpas uwchben wyneb y dyfroedd. 3  A dywedodd Duw: “Bydd ’na oleuni.”* Yna roedd ’na oleuni. 4  Ar ôl hynny gwelodd Duw fod y goleuni yn dda, a dechreuodd Duw wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch. 5  Dyma Duw’n galw’r goleuni yn Ddydd, ond yn galw’r tywyllwch yn Nos. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y dydd* cyntaf. 6  Yna dywedodd Duw: “Bydd atmosffer* rhwng y dyfroedd, a bydd y dyfroedd yn cael eu gwahanu oddi wrth y dyfroedd.” 7  Yna aeth Duw ymlaen i greu’r atmosffer ac i wahanu’r dyfroedd o dan yr atmosffer oddi wrth y dyfroedd uwchben yr atmosffer. A dyna ddigwyddodd. 8  Dyma Duw’n galw’r atmosffer yn Nef.* Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, yr ail ddydd. 9  Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd o dan y nefoedd yn cael eu casglu i mewn i un lle, a bydd tir sych yn ymddangos.” A dyna ddigwyddodd. 10  Galwodd Duw y tir sych yn Ddaear, ond galwodd y dyfroedd, a oedd wedi casglu at ei gilydd, yn Foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 11  Yna dywedodd Duw: “Bydd y ddaear yn achosi i laswellt* dyfu ynghyd â phlanhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau yn ôl eu mathau, sy’n dwyn ffrwyth â hadau ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd. 12  A dechreuodd y ddaear gynhyrchu glaswellt,* planhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau â hadau, yn ôl eu mathau. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda. 13  Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y trydydd dydd. 14  Yna dywedodd Duw: “Bydd goleuadau yn yr awyr* i wahanu’r dydd oddi wrth y nos, a byddan nhw’n arwyddion ar gyfer y tymhorau ac ar gyfer dyddiau a blynyddoedd. 15  Byddan nhw’n oleuadau yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd. 16  Ac aeth Duw ymlaen i wneud y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli’r dydd a’r golau lleiaf i reoli’r nos, a hefyd creodd y sêr. 17  Felly dyma Duw’n eu rhoi nhw yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear 18  ac i reoli yn ystod y dydd ac yn ystod y nos ac i wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda. 19  Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pedwerydd dydd. 20  Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd yn llawn o greaduriaid* byw, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn hedfan uwchben y ddaear ar draws yr awyr.” 21  A dyma Duw’n creu, yn ôl eu mathau, greaduriaid mawr y môr, a’r holl greaduriaid byw sy’n symud ac sy’n nofio gyda’i gilydd gan lenwi’r dyfroedd, a phob creadur ag adenydd sy’n hedfan. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 22  Gyda hynny dyma Duw’n eu bendithio nhw, gan ddweud: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y môr, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn amlhau yn y ddaear.” 23  Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pumed dydd. 24  Yna dywedodd Duw: “Bydd ’na greaduriaid byw* ar y ddaear yn ôl eu mathau, anifeiliaid domestig ac anifeiliaid sy’n ymlusgo* ac anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau.” A dyna ddigwyddodd. 25  Ac aeth Duw ymlaen i greu anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau a’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau a’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 26  Yna dywedodd Duw: “Gad inni wneud dyn ar ein delw ni, i fod yn debyg inni, ac i reoli dros yr holl ddaear, a physgod y môr, a’r anifeiliaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a’r anifeiliaid domestig, a phob anifail sy’n ymlusgo ac sy’n symud ar y ddaear.” 27  Ac aeth Duw ymlaen i greu’r dyn ar ei ddelw, ar ddelw Duw y creodd ef y dyn; yn wryw a benyw y creodd ef nhw. 28  Ar ben hynny, dyma Duw’n eu bendithio nhw, ac yn dweud wrthyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a gofalwch amdani, a rheolwch dros bysgod y môr, a’r creaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a phob creadur byw sy’n symud ar y ddaear.” 29  Yna dywedodd Duw: “Dyma fi wedi rhoi ichi bob planhigyn sy’n cynhyrchu had ar wyneb yr holl ddaear a phob coeden ffrwyth sy’n cynhyrchu hadau. Byddan nhw’n fwyd ichi. 30  Ac i bob anifail gwyllt ar y ddaear ac i bob creadur sy’n hedfan yn y nefoedd ac i bopeth sy’n symud ar y ddaear ac sydd â bywyd ynddo,* rydw i wedi rhoi’r holl blanhigion gwyrdd yn fwyd.” A dyna ddigwyddodd. 31  Ar ôl hynny gwelodd Duw bopeth roedd wedi ei wneud, ac edrycha! roedd yn dda iawn. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y chweched dydd.

Troednodiadau

Neu “tonnog.”
Neu “grym gweithredol.”
Neu “bydded goleuni.”
Yn y Beibl, gall ‘dydd’ gyfeirio at gyfnodau gwahanol o amser, nid 24 awr yn unig.
Neu “ffurfafen.”
Neu “Awyr.”
Neu “i borfa.”
Neu “porfa.”
Neu “ffurfafen y nefoedd.”
Neu “eneidiau.”
Neu “eneidiau.”
Neu “anifeiliaid sy’n symud,” yn cynnwys mae’n debyg ymlusgiaid ac anifeiliaid sy’n wahanol i’r mathau eraill.
Neu “sy’n enaid byw.”