Genesis 21:1-34

  • Isaac yn cael ei eni (1-7)

  • Ismael yn gwneud hwyl am ben Isaac (8, 9)

  • Anfon Hagar ac Ismael i ffwrdd (10-21)

  • Cyfamod Abraham ag Abimelech (22-34)

21  Gwnaeth Jehofa droi ei sylw at Sara fel roedd ef wedi dweud, a chyflawnodd Jehofa ei addewid i Sara. 2  Felly daeth Sara yn feichiog ac yna geni mab i Abraham yn ei henaint ar yr amser penodedig roedd Duw wedi ei addo iddo. 3  Dyma Abraham yn enwi’r mab roedd Sara newydd ei eni iddo yn Isaac. 4  A gwnaeth Abraham enwaedu ei fab Isaac pan oedd yn wyth diwrnod oed, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn iddo. 5  Roedd Abraham yn 100 mlwydd oed pan gafodd ei fab Isaac ei eni iddo. 6  Yna dywedodd Sara: “Mae Duw wedi gwneud imi chwerthin yn llawen; bydd pawb sy’n clywed am hyn yn chwerthin gyda mi.”* 7  Ac ychwanegodd hi: “Pwy fyddai wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn bendant yn magu plant’? Ond eto, rydw i wedi rhoi genedigaeth i fab iddo yn ei henaint.” 8  Nawr gwnaeth y plentyn dyfu a doedd ef ddim yn cael ei fwydo ar y fron bellach,* a dyma Abraham yn paratoi gwledd fawr ar y diwrnod y gwnaeth Isaac stopio cael ei fwydo ar y fron. 9  Ond dechreuodd Sara sylwi bod mab Hagar yr Eifftes, yr un y gwnaeth hi ei eni i Abraham, yn gwneud hwyl am ben Isaac. 10  Felly dywedodd hi wrth Abraham: “Gyrra allan y gaethferch hon a’i mab, oherwydd fydd mab y gaethferch hon ddim yn etifedd gyda fy mab i, gydag Isaac!” 11  Ond doedd yr hyn a ddywedodd hi am ei fab ddim yn plesio Abraham o gwbl. 12  Yna dywedodd Duw wrth Abraham: “Paid â theimlo’n ddrwg am yr hyn mae Sara’n ei ddweud wrthot ti am dy fachgen ac am dy gaethferch. Gwranda arni hi, oherwydd bydd yr hyn a fydd yn cael ei alw’n had iti yn dod drwy Isaac. 13  Ynglŷn â mab y gaethferch, bydda i’n gwneud cenedl allan ohono ef hefyd, oherwydd ei fod yn ddisgynnydd* iti.” 14  Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a chymerodd fara a photel groen o ddŵr a’u rhoi i Hagar. Gosododd nhw ar ei hysgwydd ac yna ei hanfon hi i ffwrdd gyda’r bachgen. Felly dyma hi’n gadael ac yn crwydro o gwmpas yn anialwch Beer-seba. 15  Yn y diwedd, roedd y dŵr yn y botel groen wedi darfod, a gwthiodd hi’r bachgen o dan un o’r perthi. 16  Yna aeth hi ymlaen ac eisteddodd ar ei phen ei hun, tua ergyd bwa i ffwrdd, oherwydd dywedodd hi: “Dydw i ddim eisiau gwylio’r bachgen yn marw.” Felly eisteddodd hi yn bell i ffwrdd a dechreuodd hi grio’n uchel ac wylo. 17  Ar hynny clywodd Duw lais y bachgen, a dyma angel Duw’n galw ar Hagar o’r nefoedd ac yn dweud wrthi: “Beth sy’n bod, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd mae Duw wedi clywed llais y bachgen. 18  Cod, a choda’r bachgen a gafael ynddo â dy law, oherwydd bydda i’n ei wneud yn genedl fawr.” 19  Yna agorodd Duw ei llygaid hi a gwelodd hi ffynnon ddŵr, ac aeth hi a llenwi’r botel groen â dŵr a rhoi diod i’r bachgen. 20  Ac roedd Duw gyda’r bachgen wrth iddo dyfu i fyny. Roedd yn byw yn yr anialwch ac fe ddaeth yn saethwr bwa. 21  Dechreuodd fyw yn anialwch Paran, a gwnaeth ei fam gymryd gwraig iddo o wlad yr Aifft. 22  Yr adeg honno dyma Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, yn dweud wrth Abraham: “Mae Duw gyda ti ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud. 23  Felly dos ar dy lw, yma o flaen Duw, na fyddi di’n fy nhwyllo i na fy mhlant na fy nisgynyddion, ac y byddi di’n delio â mi a’r tir lle rwyt ti wedi bod yn byw gyda’r un cariad ffyddlon rydw i wedi ei ddangos tuag atat ti.” 24  Felly dywedodd Abraham: “Rydw i’n mynd ar fy llw.” 25  Ond, fe wnaeth Abraham gwyno wrth Abimelech am y ffynnon ddŵr roedd gweision Abimelech wedi ei chymryd yn dreisgar. 26  Atebodd Abimelech: “Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth hyn; wnest ti ddim sôn wrtho i am hyn, a chlywais i ddim byd am y peth tan heddiw.” 27  Ar hynny cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg a’u rhoi nhw i Abimelech, a gwnaeth y ddau ohonyn nhw gyfamod. 28  Pan wnaeth Abraham osod saith o ŵyn benyw ar wahân i’r praidd, 29  dywedodd Abimelech wrth Abraham: “Pam rwyt ti wedi gosod y saith oen fenyw yma ar eu pennau eu hunain?” 30  Yna dywedodd yntau: “Rwyt ti i dderbyn y saith oen fenyw o fy llaw yn dystiolaeth fy mod i wedi cloddio’r ffynnon hon.” 31  Dyna pam gwnaeth ef alw’r lle hwnnw’n Beer-seba,* oherwydd yno gwnaeth y ddau ohonyn nhw dyngu llw. 32  Felly gwnaethon nhw gyfamod yn Beer-seba, ac ar ôl hynny cododd Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, ac aethon nhw yn ôl i wlad y Philistiaid. 33  Ar ôl hynny plannodd ef goeden tamarisg yn Beer-seba, ac yno roedd ef yn galw ar enw Jehofa, y Duw tragwyddol. 34  Ac arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.

Troednodiadau

Neu efallai, “yn chwerthin am fy mhen.”
Neu “a chafodd ei ddiddyfnu.”
Llyth., “had.”
Efallai’n golygu “Ffynnon y Llw” neu “Ffynnon y Saith.”