Genesis 48:1-22

  • Jacob yn bendithio dau fab Joseff (1-12)

  • Effraim yn cael bendith mwy (13-22)

48  Ar ôl y pethau hyn, clywodd Joseff: “Edrycha, mae dy dad yn mynd yn wan.” Gyda hynny cymerodd ei ddau fab Manasse ac Effraim gydag ef. 2  Pan gafodd Jacob wybod bod ei fab Joseff wedi dod i’w weld, gwnaeth Israel ymdrech fawr i eistedd i fyny ar ei wely. 3  A dywedodd Jacob wrth Joseff: “Gwnaeth Duw Hollalluog ymddangos imi yn Lus yng ngwlad Canaan a fy mendithio i. 4  A dywedodd wrtho i, ‘Rydw i’n dy wneud di’n ffrwythlon, a bydda i’n dy wneud di’n dad i lawer, ac yn dad i lawer o genhedloedd, a bydda i’n rhoi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* er mwyn iddyn nhw ei meddiannu yn barhaol.’ 5  Nawr mae dy ddau fab a gafodd eu geni iti yng ngwlad yr Aifft, cyn imi ddod atat ti yn yr Aifft, yn feibion imi. Bydd Effraim a Manasse yn feibion imi yn union fel mae Reuben a Simeon. 6  Ond bydd y plant sy’n cael eu geni iti ar eu holau nhw yn perthyn i ti. Byddan nhw’n cael eu hetifeddiaeth yn enw eu brodyr. 7  A phan oeddwn i yn dod o Padan, bu farw Rachel wrth fy ymyl yng ngwlad Canaan, tra oedd ’na dipyn i fynd eto cyn cyrraedd Effrath. Felly gwnes i ei chladdu hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem.” 8  Yna gwelodd Israel feibion Joseff, a gofynnodd: “Pwy yw’r rhain?” 9  Felly dywedodd Joseff wrth ei dad: “Dyma fy meibion mae Duw wedi eu rhoi imi yn y lle hwn.” Gyda hynny dywedodd: “Tyrd â nhw ata i, plîs, er mwyn imi eu bendithio nhw.” 10  Nawr roedd Israel yn colli ei olwg oherwydd ei oed, a doedd ef ddim yn gallu gweld. Felly daeth Joseff â nhw yn agos ato, a gwnaeth ef eu cusanu nhw a’u cofleidio nhw. 11  Dywedodd Israel wrth Joseff: “Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n gweld dy wyneb eto, ond mae Duw wedi gadael imi weld dy ddisgynyddion* hefyd.” 12  Yna gwnaeth Joseff eu tynnu nhw yn ôl oddi wrth Israel,* ac ymgrymu gyda’i wyneb ar y llawr. 13  Cymerodd Joseff Effraim yn ei law dde, a Manasse yn ei law chwith. Yna daeth â’i ddau fab yn agos at Israel, a rhoddodd Effraim wrth ochr chwith Israel, a Manasse wrth ei ochr dde. 14  Ond, estynnodd Israel ei law dde a’i rhoi ar ben Effraim, er mai ef oedd yr ieuengaf, a rhoddodd ei law chwith ar ben Manasse. Gwnaeth hyn yn fwriadol oherwydd Manasse oedd y cyntaf-anedig. 15  Yna bendithiodd ef Joseff a dweud: “O Dduw, y gwir Dduw y gwnaeth fy nhaid* Abraham a fy nhad Isaac gerdded o’i flaen,Y gwir Dduw sydd wedi bod yn fy mugeilio i drwy gydol fy mywyd hyd heddiw, 16  Yr Un sydd wedi bod yn defnyddio ei angel i fy achub rhag fy holl drafferthion, plîs bendithia’r bechgyn. Gad i bobl wybod fy mod i, fy nhaid* Abraham, a fy nhad Isaac, yn gyndadau iddyn nhw,A gad iddyn nhw ddod yn bobl niferus ar y ddaear.” 17  Pan welodd Joseff fod ei dad yn cadw ei law dde ar ben Effraim, doedd ef ddim yn hapus am hynny, felly ceisiodd afael yn llaw ei dad a’i symud o ben Effraim i ben Manasse. 18  Dywedodd Joseff wrth ei dad: “Na dad, nid fel ’na, oherwydd dyma’r cyntaf-anedig. Rho dy law dde ar ei ben ef.” 19  Ond parhaodd ei dad i wrthod a dweud: “Rydw i’n gwybod hynny fy mab, rydw i’n gwybod. Bydd ef hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd ieuengaf yn dod yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion* yn ddigon niferus i ffurfio cenhedloedd cyfan.” 20  Felly aeth ymlaen i’w bendithio nhw y diwrnod hwnnw, gan ddweud: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw di pan fyddan nhw’n bendithio ei gilydd, ac yn dweud,‘Gad i Dduw dy fendithio di fel gwnaeth ef fendithio Effraim a Manasse.’” Felly parhaodd i roi Effraim o flaen Manasse. 21  Yna dywedodd Israel wrth Joseff: “Edrycha, rydw i ar fin marw, ond yn bendant bydd Duw yn aros gyda ti ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy gyndadau. 22  Rydw i am roi mwy o dir i ti nag i dy frodyr, un darn o dir yn ychwanegol, y darn gwnes i ei gymryd oddi wrth yr Amoriaid gyda fy nghleddyf a fy mwa.”

Troednodiadau

Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “oddi wrth ei liniau.”
Neu “fy nhad-cu.”
Neu “fy nhad-cu.”
Llyth., “had.”