At yr Hebreaid 10:1-39
10 Oherwydd bod gan y Gyfraith gysgod o’r pethau da sy’n dod, ond nid gwir sylwedd y pethau, ni all byth,* drwy’r un aberthau sy’n cael eu hoffrymu yn barhaol flwyddyn ar ôl blwyddyn, wneud y rhai sy’n mynd at Dduw yn berffaith.
2 Fel arall, oni fyddai’r aberthau wedi stopio cael eu hoffrymu, oherwydd ni fyddai’r rhai sy’n cyflawni gwasanaeth cysegredig, unwaith iddyn nhw gael eu puro, yn teimlo unrhyw euogrwydd o ganlyniad i’w pechodau?
3 I’r gwrthwyneb, mae’r aberthau hyn yn atgoffa’r bobl o’u pechodau flwyddyn ar ôl blwyddyn,
4 oherwydd mae’n amhosib i waed teirw a geifr gymryd pechodau i ffwrdd.
5 Felly pan ddaeth i’r byd, fe ddywedodd: “‘Doeddet ti ddim eisiau aberth ac offrwm, ond rwyt ti wedi paratoi corff imi.
6 Wnest ti ddim cymeradwyo offrymau llosg nac offrymau dros bechod.’
7 Yna fe ddywedais i: ‘Edrycha! Rydw i wedi dod (mae’n ysgrifenedig amdana i yn y sgrôl)* i wneud dy ewyllys, O Dduw.’”
8 Ar ôl dweud i ddechrau: “Doeddet ti ddim eisiau nac wedi cymeradwyo aberthau nac offrymau nac offrymau llosg nac offrymau dros bechod”—aberthau sy’n cael eu hoffrymu yn ôl y Gyfraith—
9 yna dywedodd ef: “Edrycha! Rydw i wedi dod i wneud dy ewyllys.” Mae’n cael gwared ar yr hyn sydd yn gyntaf er mwyn sefydlu’r hyn sydd yn ail.
10 Drwy’r “ewyllys” hon rydyn ni wedi cael ein sancteiddio drwy Iesu Grist, yr un a wnaeth offrymu ei gorff unwaith ac am byth.
11 Hefyd, mae pob offeiriad yn sefyll wrth ei waith bob dydd i gyflawni gwasanaeth sanctaidd ac i wneud yr un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na all gymryd pechodau i ffwrdd yn llwyr.
12 Ond offrymodd y dyn hwn un aberth dros bechodau am byth ac eisteddodd ar law dde Duw,
13 o hynny ymlaen yn disgwyl hyd nes i’w elynion gael eu gosod fel stôl i’w draed.
14 Oherwydd ag un offrwm aberthol, mae ef wedi gwneud y rhai sy’n cael eu sancteiddio yn berffaith am byth.
15 Ar ben hynny, mae’r ysbryd glân hefyd wedi tystiolaethu inni am hyn, drwy ddweud:
16 “‘Dyma’r cyfamod y bydda i’n ei wneud â nhw ar ôl y dyddiau hynny,’ meddai Jehofa. ‘Bydda i’n rhoi fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac yn eu hysgrifennu yn eu meddyliau.’”
17 Yna mae’n dweud: “Ac ni wna i ddwyn i gof eu pechodau na’u gweithredoedd digyfraith byth mwy.”
18 Nawr lle mae ’na faddeuant am y pethau hyn, does dim offrwm dros bechod mwyach.
19 Felly, frodyr, gan fod gynnon ni hyder i ddefnyddio’r ffordd sy’n mynd i mewn i’r lle sanctaidd drwy waed Iesu,
20 ffordd y gwnaeth ef ei hagor inni, sy’n ffordd newydd ac yn ffordd fyw, drwy’r llen, hynny yw, ei gnawd,
21 ac oherwydd bod gynnon ni offeiriad mawr dros dŷ Dduw,
22 gadewch inni fynd at Dduw â chalonnau diffuant ac â ffydd gyflawn, a’n calonnau wedi cael eu taenellu’n lân oddi wrth gydwybod ddrwg a’n cyrff wedi cael eu golchi â dŵr glân.
23 Gadewch inni ddal ein gafael yn dynn yn y cyfle i ddatgan yn gyhoeddus ein gobaith heb wyro, oherwydd mae’r un sydd wedi addo yn ffyddlon.
24 A gadewch inni ystyried* ein gilydd er mwyn inni annog* ein gilydd i ddangos cariad a gwneud pethau da,
25 heb esgeuluso ein cyfarfodydd, yn ôl arfer rhai, ond calonogi ein gilydd, a hynny yn fwy byth wrth ichi weld y dydd yn dod yn agos.
26 Oherwydd os ydyn ni’n dal ati i bechu yn fwriadol ar ôl derbyn y wybodaeth gywir am y gwir, does dim aberth dros bechodau i’w gael mwyach,
27 ond mae ’na ryw ddisgwyl ofnus am farnedigaeth ac am ddicter sy’n llosgi fel tân a fydd yn dinistrio’r rhai sy’n gwrthwynebu Duw.
28 Bydd pwy bynnag sy’n diystyru Cyfraith Moses yn cael ei roi i farwolaeth heb drugaredd ar dystiolaeth dau neu dri.
29 Faint mwy o gosb ydych chi’n meddwl y bydd person yn ei haeddu sydd wedi sathru ar Fab Duw ac sydd wedi ystyried gwaed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo fel rhywbeth o ychydig werth, ac sydd wedi sarhau’r ysbryd o garedigrwydd rhyfeddol yn llawn dirmyg?
30 Oherwydd rydyn ni’n adnabod yr un sy’n dweud: “Fi sy’n dial; fe fydda i’n talu yn ôl.” Ac eto: “Jehofa fydd yn barnu ei bobl.”
31 Peth ofnadwy ydy syrthio i ddwylo’r Duw byw.
32 Fodd bynnag, daliwch ati i gofio’r dyddiau a fu, pan oeddech chi, ar ôl ichi gael eich goleuo, yn dyfalbarhau yn wyneb llawer iawn o dreialon.
33 Ar adegau roeddech chi’n cael eich gwneud yn sioe i’r cyhoedd wrth ichi gael eich sarhau a’ch cam-drin, ac ar adegau roeddech chi’n sefyll ochr yn ochr â’r rhai a oedd yn dioddef yr un profiad.
34 Oherwydd roeddech chi wedi dangos cydymdeimlad tuag at y rhai yn y carchar ac ni wnaethoch chi golli eich llawenydd pan gafodd eich eiddo ei gymryd oddi arnoch chi, gan wybod bod gynnoch chi eiddo gwell sy’n para am byth.
35 Felly peidiwch â thaflu i ffwrdd eich hyder, a fydd yn cael ei wobrwyo’n fawr iawn.
36 Oherwydd mae angen dyfalbarhad arnoch chi, er mwyn ichi allu derbyn cyflawniad yr addewid ar ôl ichi wneud ewyllys Duw.
37 Oherwydd “mewn ychydig o amser,” “bydd yr un sy’n dod yn cyrraedd heb oedi.”
38 “Ond bydd fy un cyfiawn i yn byw oherwydd ei ffydd,” a “petai ef yn cilio yn ôl, ni fyddai’n fy mhlesio i.”*
39 Nawr, nid y math o bobl sy’n cilio yn ôl i ddinistr ydyn ni, ond y math o bobl sydd â ffydd i’n cadw ni’n fyw.*
Troednodiadau
^ Neu efallai, “ni all ddynion byth.”
^ Llyth., “yn sgrôl y llyfr.”
^ Neu “gadewch inni boeni am; gadewch inni dalu sylw i.”
^ Neu “ysgogi.”
^ Neu “plesio fy enaid.”
^ Neu “i gadw ein heneidiau.”