Llythyr Iago 3:1-18

  • Ffrwyno’r tafod (1-12)

    • Ni ddylai llawer fod yn athrawon (1)

  • Y doethineb sy’n dod oddi uchod (13-18)

3  Ni ddylai llawer ohonoch chi fod yn athrawon, fy mrodyr, gan wybod y byddwn ni’n cael ein barnu’n fwy llym.* 2  Oherwydd rydyn ni i gyd yn baglu* lawer o weithiau. Os nad oes rhywun yn baglu yn yr hyn mae’n ei ddweud, mae hwnnw yn ddyn perffaith, sy’n gallu ffrwyno hefyd ei gorff cyfan. 3  Os ydyn ni’n rhoi ffrwynau yng nghegau ceffylau i’w gwneud nhw’n ufudd inni, rydyn ni’n arwain hefyd eu corff cyfan. 4  Edrychwch hefyd ar longau: Er eu bod nhw mor fawr ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, maen nhw’n cael eu troi â llyw bychan iawn i ba bynnag gyfeiriad mae’r dyn wrth y llyw yn ei ddymuno. 5  Felly hefyd y mae’r tafod yn rhan fechan o’r corff, ond eto mae’n brolio’n fawr. Edrychwch ar sut gall tân bychan roi coedwig enfawr ar dân! 6  Mae’r tafod hefyd yn dân. Mae’r tafod yn cynrychioli byd o anghyfiawnder ymhlith y rhannau o’n corff, oherwydd ei fod yn llygru’r holl gorff ac yn rhoi holl gwrs ein bywyd ni ar dân, ac mae’n cael ei roi ar dân gan Gehenna.* 7  Oherwydd mae pob math o anifeiliaid gwyllt ac adar ac ymlusgiaid a chreaduriaid y môr yn gallu cael eu dofi ac wedi cael eu dofi gan fodau dynol. 8  Ond does neb yn gallu dofi’r tafod. Mae’n afreolus ac yn niweidiol, yn llawn gwenwyn marwol. 9  Rydyn ni’n defnyddio’r tafod i foli Jehofa, y Tad, ac rydyn ni’n defnyddio’r tafod hefyd i felltithio dynion sydd wedi cael eu creu “ar ffurf sy’n debyg i Dduw.” 10  Allan o’r un geg y daw bendith a melltith. Fy mrodyr, dydy hi ddim yn iawn i bethau fod fel hyn. 11  Ydy dŵr ffres* a dŵr chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon? 12  Fy mrodyr, ydy coeden ffigys yn gallu cynhyrchu olifau, neu ydy’r winwydden yn gallu cynhyrchu ffigys? Dydy dŵr hallt ddim yn gallu cynhyrchu dŵr ffres chwaith. 13  Pwy sy’n ddoeth ac yn ddeallus yn eich plith? Dylai hwnnw ddangos ei weithredoedd drwy ei ymddygiad da, a hynny mewn addfwynder sy’n dod o ddoethineb. 14  Ond os oes gynnoch chi genfigen chwerw ac uchelgais hunanol* yn eich calonnau, peidiwch â brolio a dweud celwydd yn erbyn y gwir. 15  Nid dyma’r doethineb sy’n dod i lawr oddi uchod; mae’n ddaearol, yn anifeilaidd, yn gythreulig. 16  Oherwydd le bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol,* yno hefyd y mae anhrefn a phob peth ffiaidd. 17  Ond mae’r doethineb sy’n dod oddi uchod yn gyntaf oll yn bur, yna’n heddychlon, yn rhesymol, yn barod i ufuddhau, yn llawn trugaredd a ffrwyth da, yn ddiduedd, ac yn ddiragrith. 18  Ar ben hynny, mae ffrwyth cyfiawnder yn cael ei hau mewn amgylchiadau heddychlon ar gyfer* y rhai sy’n gwneud heddwch.

Troednodiadau

Neu “trwm.”
Neu “yn gwneud camgymeriadau.”
Gweler Geirfa.
Llyth., “melys.”
Neu “cwerylgarwch; ffraegarwch.”
Neu “cwerylgarwch; ffraegarwch.”
Neu efallai, “gan.”