Yn Ôl Ioan 20:1-31

  • Y beddrod gwag (1-10)

  • Iesu’n ymddangos i Mair Magdalen (11-18)

  • Iesu’n ymddangos i’w ddisgyblion (19-23)

  • Tomos yn amau ond yn credu’n nes ymlaen (24-29)

  • Pwrpas y sgrôl hon (30, 31)

20  Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen i’r beddrod* yn gynnar, tra oedd hi’n dal yn dywyll, ac fe welodd hi fod y garreg eisoes wedi cael ei thynnu i ffwrdd oddi wrth y beddrod.* 2  Felly rhedodd hi at Simon Pedr ac at y disgybl arall, yr un roedd Iesu’n ei garu, a dywedodd hi wrthyn nhw: “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r beddrod, a dydyn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi ei roi i orwedd.” 3  Yna dyma Pedr a’r disgybl arall yn ei chychwyn hi am y beddrod. 4  Dechreuodd y ddau ohonyn nhw redeg gyda’i gilydd, ond rhedodd y disgybl arall yn gynt na Pedr a chyrraedd y beddrod yn gyntaf. 5  Wrth iddo blygu, fe welodd y cadachau o liain yn gorwedd yno, ond ni wnaeth fynd i mewn. 6  Yna daeth Simon Pedr hefyd, yn ei ddilyn ef, ac aeth i mewn i’r beddrod. Ac fe welodd yntau’r cadachau o liain yn gorwedd yno. 7  Doedd y cadach a oedd wedi bod am ei ben ddim yn gorwedd gyda’r cadachau eraill ond roedd hwn ar wahân wedi ei rolio mewn lle arall. 8  Yna aeth y disgybl arall a oedd wedi cyrraedd y beddrod yn gyntaf i mewn hefyd, ac fe welodd ac fe gredodd. 9  Oherwydd doedden nhw ddim yn deall eto yr ysgrythur oedd yn dweud fod rhaid iddo gael ei atgyfodi o’r meirw. 10  Felly aeth y disgyblion yn ôl i’w cartrefi. 11  Roedd Mair, fodd bynnag, yn dal i sefyll y tu allan wrth ymyl y beddrod, yn wylo. Tra oedd hi’n wylo, plygodd i edrych i mewn i’r beddrod, 12  ac fe welodd hi ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed. 13  A dywedon nhw wrthi hi: “Ddynes,* pam rwyt ti’n wylo?” Dywedodd hi wrthyn nhw: “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, a dydw i ddim yn gwybod lle maen nhw wedi ei roi i orwedd.” 14  Ar ôl dweud hyn, dyma hi’n troi ac yn gweld Iesu’n sefyll yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd yno. 15  Dywedodd Iesu wrthi: “Ddynes,* pam rwyt ti’n wylo? Pwy rwyt ti’n chwilio amdano?” Gan feddwl mai’r garddwr oedd ef, dywedodd hi wrtho: “Syr, os wyt ti wedi ei gymryd i ffwrdd, dyweda wrtho i lle rwyt ti wedi ei roi i orwedd, ac fe wna i ei gymryd i ffwrdd.” 16  Dywedodd Iesu wrthi: “Mair!” Trodd hithau ato, a dweud wrtho yn Hebraeg: “Rabboni!” (sy’n golygu “Athro!”) 17  Dywedodd Iesu wrthi: “Paid â glynu wrtho i, oherwydd dydw i ddim eto wedi mynd i fyny at y Tad. Ond dos at fy mrodyr a dweud wrthyn nhw, ‘Rydw i’n mynd i fyny at fy Nhad i a’ch Tad chi ac at fy Nuw i a’ch Duw chi.’” 18  Daeth Mair Magdalen a chyhoeddi’r newyddion i’r disgyblion: “Rydw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dywedodd hi wrthyn nhw yr hyn roedd ef wedi ei ddweud wrthi. 19  Pan oedd hi’n hwyr y dydd hwnnw, y dydd cyntaf o’r wythnos, ac roedd y drysau wedi eu cloi lle roedd y disgyblion oherwydd eu bod nhw’n ofni’r Iddewon, fe ddaeth Iesu a sefyll yn eu plith a dweud wrthyn nhw: “Heddwch i chi.” 20  Ar ôl dweud hyn, dangosodd iddyn nhw ei ddwylo a’i ochr. Yna pan welodd y disgyblion yr Arglwydd dyma nhw’n llawenhau. 21  Dywedodd Iesu wrthyn nhw eto: “Heddwch ichi. Yn union fel mae’r Tad wedi fy anfon i, rydw innau hefyd yn eich anfon chi.” 22  Ar ôl dweud hyn chwythodd arnyn nhw a dweud wrthyn nhw: “Derbyniwch yr ysbryd glân. 23  Os ydych chi’n maddau pechodau rhywun, maen nhw wedi cael eu maddau; os ydych chi’n peidio â’u maddau, dydyn nhw ddim wedi cael eu maddau.” 24  Ond doedd Tomos, un o’r Deuddeg, a oedd yn cael ei alw yr Efaill, ddim gyda nhw pan ddaeth Iesu. 25  Felly roedd y disgyblion eraill yn dweud wrtho: “Rydyn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond dywedodd yntau wrthyn nhw: “Oni bai fy mod i’n gweld ôl* yr hoelion yn ei ddwylo ac yn rhoi fy mys yn ôl yr hoelion ac yn rhoi fy llaw i mewn i’w ochr, wna i byth gredu’r peth.” 26  Wel, wyth diwrnod yn ddiweddarach roedd ei ddisgyblion unwaith eto yn y tŷ, ac roedd Tomos gyda nhw. Fe ddaeth Iesu, er bod y drysau wedi eu cloi, a sefyll yn eu mysg a dweud: “Heddwch i chi.” 27  Nesaf dywedodd wrth Tomos: “Rho dy fys yma, ac edrycha ar fy nwylo, a chymera dy law a rho hi yn fy ochr, a stopia amau ond creda.” 28  Atebodd Tomos ef: “Fy Arglwydd a fy Nuw!” 29  Dywedodd Iesu wrtho: “Oherwydd dy fod ti wedi fy ngweld i, wyt ti wedi credu? Hapus yw’r rhai sydd heb weld ond eto’n credu.” 30  Yn wir, fe wnaeth Iesu hefyd lawer o arwyddion eraill o flaen y disgyblion, rhai sydd ddim wedi cael eu hysgrifennu yn y sgrôl hon. 31  Ond mae’r rhain wedi cael eu hysgrifennu er mwyn ichi allu credu mai Iesu ydy’r Crist, Mab Duw, ac oherwydd eich bod chi’n credu, byddwch chi’n gallu cael bywyd drwy gyfrwng ei enw.

Troednodiadau

Neu “beddrod coffa.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “Fenyw.”
Neu “Fenyw.”
Neu “marc.”