Yn Ôl Luc 18:1-43
18 Yna aeth yn ei flaen i ddweud dameg wrthyn nhw am yr angen iddyn nhw weddïo trwy’r amser a pheidio â rhoi’r gorau iddi,
2 gan ddweud: “Mewn rhyw ddinas roedd ’na farnwr, a doedd ef ddim yn ofni Duw nac yn parchu dynion.
3 Hefyd roedd ’na wraig weddw yn y ddinas honno a oedd yn dal i fynd ato ac yn dweud, ‘Gwna’n siŵr fy mod i’n cael cyfiawnder oddi wrth fy ngwrthwynebwr cyfreithiol.’
4 Wel, am ychydig, doedd ef ddim yn fodlon ei helpu hi, ond wedyn dywedodd ef wrtho’i hun, ‘Er nad ydw i’n ofni Duw nac yn parchu unrhyw ddyn,
5 oherwydd mae’r wraig weddw hon yn parhau i achosi trwbwl imi, fe wna i’n siŵr ei bod hi’n cael cyfiawnder fel na fydd hi’n dal i ddod a fy mlino i â’r holl bethau mae hi’n eu mynnu.’”
6 Yna dywedodd yr Arglwydd: “Gwrandewch ar beth ddywedodd y barnwr, er ei fod yn anghyfiawn!
7 Yn bendant, felly, oni fydd Duw yn rhoi cyfiawnder i’r rhai mae ef wedi eu dewis, sy’n galw arno ddydd a nos, tra bydd ef yn amyneddgar tuag atyn nhw?
8 Rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd ef yn rhoi cyfiawnder iddyn nhw yn gyflym. Er hynny, pan fydd Mab y dyn yn cyrraedd, a fydd ef yn wir yn dod o hyd i’r ffydd hon* ar y ddaear?”
9 Hefyd dywedodd y ddameg hon wrth y rhai a oedd yn rhoi hyder yn eu cyfiawnder eu hunain ac yn ystyried pobl eraill yn ddim byd:
10 “Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo, roedd un ohonyn nhw’n Pharisead a’r llall yn gasglwr trethi.
11 Safodd y Pharisead a dechrau gweddïo yn ddistaw bach, ‘O Dduw, rydw i’n diolch i ti am nad ydw i yr un fath â phawb arall—y lladron, yr anghyfiawn, y godinebwyr—neu hyd yn oed fel y casglwr trethi hwn.
12 Rydw i’n ymprydio ddwywaith yr wythnos; rydw i’n rhoi un rhan o ddeg o’r holl bethau rydw i’n eu cael.’
13 Ond roedd y casglwr trethi yn sefyll yn bell i ffwrdd, a doedd ef ddim yn fodlon hyd yn oed codi ei lygaid at y nef, ond roedd yn parhau i guro ei frest, gan ddweud, ‘O Dduw, bydda’n drugarog* wrtho i, a minnau’n bechadur.’
14 Rydw i’n dweud wrthoch chi, aeth y dyn hwn i lawr at ei gartref a chafodd ei brofi’n fwy cyfiawn na’r Pharisead. Oherwydd bydd pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, ond bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu.”
15 Nawr roedd pobl hefyd yn dod â’u babanod er mwyn iddo gyffwrdd â nhw, ond wrth weld hyn, dechreuodd y disgyblion eu ceryddu nhw.
16 Fodd bynnag, galwodd Iesu’r babanod ato, gan ddweud: “Gadewch i’r plant bach ddod ata i, a pheidiwch â cheisio eu stopio nhw, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn i rai o’r fath.
17 Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sydd ddim yn derbyn Teyrnas Dduw fel plentyn bach, ni fydd ef ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn iddi.”
18 A gwnaeth un o’r rheolwyr ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro da, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?”
19 Dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti’n fy ngalw i’n dda? Does neb yn dda heblaw am un, sef Duw.
20 Rwyt ti’n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â godinebu, paid â llofruddio, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth, ac anrhydedda dy dad a dy fam.’”
21 Yna dywedodd ef: “Rydw i wedi cadw’r rhain i gyd ers imi fod yn ifanc.”
22 Ar ôl clywed hynny, dywedodd Iesu wrtho, “Mae ’na un peth ar ôl sydd angen i ti ei wneud: Gwertha bopeth sydd gen ti a rho dy arian i’r tlawd, ac fe fydd gen ti drysor yn y nefoedd; yna tyrd, dilyna fi.”
23 Pan glywodd hyn, daeth yn ofnadwy o drist, oherwydd roedd ef yn gyfoethog iawn.
24 Edrychodd Iesu arno a dweud: “Mor anodd fydd hi i’r rhai sydd ag arian fynd i mewn i Deyrnas Dduw!
25 Yn wir, mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd wnïo nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.”
26 Dywedodd y rhai a glywodd hyn: “Ydy hi’n bosib i unrhyw un gael ei achub?”
27 Dywedodd ef: “Mae’r pethau sy’n amhosib i ddynion yn bosib i Dduw.”
28 Ond dywedodd Pedr: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael popeth oedd gynnon ni a dy ddilyn di.”
29 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does ’na neb sydd wedi gadael tŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn Teyrnas Dduw
30 na fydd yn cael llawer iawn mwy yn ystod y cyfnod presennol, ac yn y system sydd i ddod,* fywyd tragwyddol.”
31 Yna cymerodd ef y Deuddeg ar wahân a dywedodd wrthyn nhw: “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem, a bydd yr holl bethau sydd wedi cael eu hysgrifennu gan y proffwydi am Fab y dyn yn cael eu cyflawni.
32 Er enghraifft, bydd ef yn cael ei roi yn nwylo dynion y cenhedloedd a byddan nhw’n ei wawdio ac yn ei drin yn ddigywilydd ac yn poeri arno.
33 Ac ar ôl ei chwipio, byddan nhw’n ei ladd, ond ar y trydydd dydd bydd ef yn codi.”
34 Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn deall ystyr unrhyw un o’r pethau hyn, oherwydd roedd y geiriau hyn wedi cael eu cuddio rhagddyn nhw, a doedden nhw ddim yn deall y pethau roedd ef yn eu dweud.
35 Nawr wrth i Iesu agosáu at Jericho, roedd ’na ddyn dall yn eistedd wrth ochr y ffordd yn begian.
36 Oherwydd iddo glywed tyrfa yn pasio heibio, dechreuodd ofyn beth oedd yn digwydd.
37 Dyma nhw’n dweud wrtho: “Mae Iesu o Nasareth yn pasio heibio!”
38 Ar hynny fe waeddodd yn uchel: “Iesu, Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!”
39 A dechreuodd y rhai yn y blaen ei geryddu, gan ddweud wrtho am gadw’n ddistaw, ond parhaodd i weiddi’n uwch byth: “Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!”
40 Yna stopiodd Iesu a gorchymyn iddyn nhw ddod â’r dyn ato. Ar ôl iddo ddod yn agos, dyma Iesu’n gofyn iddo:
41 “Beth rwyt ti eisiau imi ei wneud iti?” Dywedodd ef: “Arglwydd, gad imi gael fy ngolwg yn ôl.”
42 Felly dywedodd Iesu wrtho: “Fe gei di dy olwg yn ôl; mae dy ffydd wedi dy iacháu di.”
43 Ac ar unwaith fe ddaeth ei olwg yn ôl, a dechreuodd y dyn ei ddilyn, gan ogoneddu Duw. Hefyd, pan welodd yr holl bobl hyn, dyma nhw’n moli Duw.