Yn Ôl Luc 19:1-48

  • Iesu’n ymweld â Sacheus (1-10)

  • Dameg y deg mina (11-27)

  • Prosesiwn Iesu i mewn i Jerwsalem (28-40)

  • Iesu’n wylo dros Jerwsalem (41-44)

  • Iesu’n glanhau’r deml (45-48)

19  Yna aeth i mewn i Jericho ac roedd yn pasio drwy’r ddinas. 2  Nawr roedd ’na ddyn o’r enw Sacheus yno; roedd yn un o’r prif gasglwyr trethi, ac roedd yn gyfoethog. 3  Wel, roedd ef yn ceisio gweld pwy oedd yr Iesu hwn, ond doedd ddim yn gallu gweld oherwydd y dyrfa, gan ei fod yn ddyn byr. 4  Felly rhedodd ymlaen a dringodd goeden ffigys* er mwyn gweld Iesu, oherwydd ei fod ar fin pasio trwy’r ffordd yna. 5  Nawr pan gyrhaeddodd Iesu yno, edrychodd i fyny a dywedodd wrtho: “Sacheus, brysia a thyrd i lawr, oherwydd heddiw mae’n rhaid imi aros yn dy dŷ.” 6  Ar hynny dyma’n brysio i lawr ac yn ei groesawu’n llawen. 7  Pan welson nhw hyn, roedden nhw i gyd yn cwyno: “Mae wedi mynd i aros yn nhŷ dyn sy’n bechadur.” 8  Ond safodd Sacheus ar ei draed a dywedodd wrth yr Arglwydd: “Edrycha! Rydw i’n rhoi hanner fy eiddo i’r tlawd, Arglwydd, a beth bynnag rydw i wedi ei ddwyn drwy dwyllo, rydw i’n talu’n ôl bedair gwaith.” 9  Ar hynny dywedodd Iesu wrtho: “Heddiw mae achubiaeth wedi dod i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod ef hefyd yn fab i Abraham. 10  Oherwydd daeth Mab y dyn i geisio ac i achub yr hyn a gafodd ei golli.” 11  Tra oedden nhw’n gwrando ar y pethau hyn, fe ddywedodd ddameg arall, oherwydd ei fod yn agos i Jerwsalem ac roedden nhw’n meddwl bod Teyrnas Dduw yn mynd i ymddangos ar unwaith. 12  Felly dywedodd ef: “Teithiodd dyn o dras uchel i wlad bell er mwyn cael ei wneud yn frenin a dychwelyd. 13  Galwodd ato ddeg o’i gaethweision, a rhoddodd ddeg mina* iddyn nhw a dywedodd wrthyn nhw, ‘Defnyddiwch y rhain i wneud busnes nes imi ddod yn ôl.’ 14  Ond roedd ei ddinasyddion yn ei gasáu ac anfonon nhw lysgenhadon ar ei ôl i ddweud, ‘Dydyn ni ddim eisiau i’r dyn hwn fod yn frenin arnon ni.’ 15  “Pan ddaeth yn ôl, wedi iddo lwyddo i gael ei wneud yn frenin,* galwodd ato y caethweision a oedd wedi derbyn yr arian, er mwyn gwybod faint o arian roedden nhw wedi ei ennill drwy wneud busnes. 16  Felly daeth yr un cyntaf ymlaen a dweud, ‘Arglwydd, mae’r mina gwnest ti ei roi imi wedi ennill deg mina.’ 17  Dywedodd wrtho, ‘Da iawn, fy nghaethwas da! Oherwydd dy fod ti wedi dy brofi dy hun yn gyfiawn mewn mater bach iawn, fe gei di awdurdod dros ddeg dinas.’ 18  Nawr daeth yr ail un, gan ddweud, ‘Arglwydd, mae’r mina gwnest ti ei roi imi wedi ennill pum mina.’ 19  Dywedodd wrth hwn hefyd, ‘Fe gei dithau hefyd reoli dros bum dinas.’ 20  Ond daeth un arall, gan ddweud, ‘Arglwydd, dyma’r mina gwnest ti ei roi imi. Fe wnes i ei guddio mewn cadach. 21  Roeddwn i’n dy ofni di, oherwydd dy fod ti’n ddyn caled; rwyt ti eisiau gwneud elw o waith pobl eraill, ac rwyt ti’n medi’r hyn wnest ti ddim ei hau.’ 22  Dywedodd wrtho, ‘Ar sail dy eiriau dy hun rydw i’n dy farnu di, y caethwas drwg. Roeddet ti’n gwybod, onid oeddet ti, fy mod i’n ddyn caled, yn gwneud elw o waith pobl eraill ac yn medi’r hyn wnes i ddim ei hau? 23  Felly pam na wnest ti roi fy arian yn y banc? Yna, wrth imi ddod yn ôl, byddwn i wedi ei gasglu gyda llog.’ 24  “Ar hynny dywedodd wrth y rhai a oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch y mina oddi wrtho a’i roi i’r un sydd â deg mina.’ 25  Ond dywedon nhw wrtho, ‘Arglwydd, mae ganddo ddeg mina!’— 26  ‘Rydw i’n dweud wrthoch chi, i bob un sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi, ond yr un nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno. 27  Ar ben hynny, dewch â fy ngelynion yma, y rhai nad oedd eisiau imi fod yn frenin arnyn nhw, a’u dienyddio nhw o fy mlaen i.’” 28  Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, aeth yn ei flaen, ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem. 29  A phan ddaeth ef yn agos at Bethffage a Bethania ar y mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd, anfonodd ef ddau o’i ddisgyblion, 30  gan ddweud: “Ewch i mewn i’r pentref sydd o fewn golwg, ac ar ôl ichi fynd i mewn iddo, byddwch chi’n gweld ebol* wedi ei rwymo, un nad oes unrhyw ddyn wedi eistedd arno. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. 31  Ond os ydy rhywun yn gofyn ichi, ‘Pam rydych chi’n ei ollwng?’ dywedwch, ‘Yr Arglwydd sydd ei angen.’” 32  Felly dyma’r rhai a oedd wedi cael eu hanfon yn mynd i ffwrdd ac yn dod o hyd iddo yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw. 33  Ond tra oedden nhw’n ei ollwng, dywedodd y rhai oedd biau’r ebol wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n gollwng yr ebol?” 34  Dywedon nhw: “Yr Arglwydd sydd ei angen.” 35  A dyma nhw’n ei arwain at Iesu, a gwnaethon nhw daflu eu cotiau ar yr ebol a rhoi Iesu i eistedd arno. 36  Tra oedd yn mynd yn ei flaen, roedden nhw’n gosod eu cotiau ar y ffordd. 37  Unwaith iddo agosáu at y ffordd sy’n mynd i lawr Mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa’r disgyblion lawenhau a chlodfori Duw â llais uchel oherwydd yr holl weithredoedd nerthol roedden nhw wedi eu gweld, 38  gan ddweud: “Bendigedig yw’r Brenin sy’n dod yn enw Jehofa! Heddwch a gogoniant yn y nefoedd!” 39  Ond, dywedodd rhai o’r Phariseaid yn y dyrfa wrtho: “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” 40  Ond atebodd yntau: “Rydw i’n dweud wrthoch chi, petai’r rhain yn aros yn ddistaw, byddai’r cerrig yn gweiddi.” 41  A phan ddaeth ef yn agos i Jerwsalem, edrychodd ar y ddinas a dechreuodd wylo drosti, 42  gan ddweud: “Petaset ti, hyd yn oed ti, wedi deall ar y diwrnod hwn y pethau sy’n ymwneud â heddwch—ond nawr maen nhw wedi cael eu cuddio rhag dy lygaid. 43  Oherwydd bydd y dyddiau’n dod arnat ti pan fydd dy elynion yn dy amgylchynu â stanciau miniog ac yn gwasgu* arnat ti o bob ochr. 44  Byddan nhw’n dy luchio di a dy blant sydd ynot ti i’r llawr, a fyddan nhw ddim yn gadael carreg ar garreg ynot ti, oherwydd doeddet ti ddim yn adnabod yr amser y cest ti dy farnu.” 45  Yna aeth i mewn i’r deml a dechreuodd daflu allan y rhai oedd yn gwerthu, 46  gan ddweud wrthyn nhw, “Mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw’n dŷ gweddi,’ ond rydych chi wedi ei wneud yn ogof lladron.” 47  Parhaodd Iesu i ddysgu pobl yn y deml bob dydd. Ond roedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion ac arweinwyr y bobl yn ceisio ei ladd; 48  ond ni ddaethon nhw o hyd i unrhyw ffordd o wneud hyn, oherwydd bod yr holl bobl yn dal i lynu wrtho i wrando arno.

Troednodiadau

Neu “sycamorwydden-ffigys; morwydden-ffigys.”
Roedd mina Groegaidd yn pwyso 340 g (10.9 oz t) ac roedd yn cael ei ystyried yn werth 100 drachma.
Neu “i gael y deyrnas.”
Hynny yw, ebol asen.
Neu “yn gwarchae.”