Yn Ôl Luc 6:1-49

  • Iesu, “Arglwydd y Saboth” (1-5)

  • Dyn â llaw wedi gwywo yn cael ei iacháu (6-11)

  • Y 12 apostol (12-16)

  • Iesu’n dysgu ac yn iacháu (17-19)

  • Hapusrwydd a gofid (20-26)

  • Cariad tuag at elynion (27-36)

  • Stopio barnu (37-42)

  • Adnabod wrth y ffrwythau (43-45)

  • Tŷ wedi ei adeiladu’n dda; tŷ heb sylfaen gadarn (46-49)

6  Nawr, un saboth, roedd Iesu yn mynd trwy gaeau gwenith, ac roedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta tywysennau gwenith, gan eu rhwbio nhw yn eu dwylo. 2  Ar hynny, dywedodd rhai o’r Phariseaid: “Pam rydych chi’n gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth?” 3  Ond atebodd Iesu nhw: “Onid ydych chi erioed wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu? 4  Am sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a derbyn y bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw* a’i fwyta a rhoi ychydig i’r dynion oedd gydag ef, rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon i unrhyw un ei fwyta ond i’r offeiriaid yn unig?” 5  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth.” 6  Ar saboth arall aeth i mewn i’r synagog a dechrau dysgu. Ac roedd dyn yno a’i law dde wedi gwywo.* 7  Roedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid nawr yn gwylio Iesu yn ofalus i weld a fyddai’n iacháu ar y Saboth, er mwyn dod o hyd i ryw gyhuddiad yn ei erbyn. 8  Roedd ef, fodd bynnag, yn gwybod beth roedd yn eu meddyliau, felly dywedodd wrth y dyn â’r llaw wedi gwywo:* “Cod a saf yn y canol.” Ac fe gododd a sefyll yno. 9  Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Rydw i’n gofyn i chi ddynion, a ydy hi’n gyfreithlon ar y Saboth i wneud da neu i wneud drwg, i achub bywyd neu i’w ddinistrio?” 10  Ar ôl edrych arnyn nhw i gyd, dywedodd wrth y dyn: “Estynna dy law.” Fe wnaeth hynny, ac fe gafodd ei law ei hiacháu. 11  Ond dyma nhw’n mynd yn wyllt gynddeiriog, a dechrau trafod â’i gilydd beth y gallen nhw ei wneud i Iesu. 12  Ar un o’r dyddiau hynny aeth ef allan i’r mynydd i weddïo, a threuliodd y noson gyfan yn gweddïo ar Dduw. 13  Ar ôl iddi droi’n ddydd, galwodd Iesu ei ddisgyblion ato a dewisodd 12 o’u plith nhw, a’u galw nhw’n apostolion: 14  Simon, yr un roedd ef hefyd yn ei alw’n Pedr, Andreas ei frawd, Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus, 15  Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon sy’n cael ei alw “yr un selog,” 16  Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a drodd yn fradwr. 17  A daeth ef i lawr gyda nhw a sefyll ar le gwastad, ac roedd ’na dyrfa fawr o’i ddisgyblion, ynghyd â nifer mawr o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaeth i’w glywed ac i gael eu hiacháu o’u hafiechydon. 18  Cafodd hyd yn oed y rhai a oedd yn cael eu cythryblu gan ysbrydion aflan eu hiacháu. 19  Ac roedd yr holl dyrfa yn ceisio ei gyffwrdd, oherwydd roedd nerth yn mynd allan ohono ac yn eu hiacháu nhw i gyd. 20  A chododd ei lygaid ar ei ddisgyblion a dechreuodd ddweud: “Hapus ydych chi sy’n dlawd, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn ichi. 21  “Hapus ydych chi sy’n llwgu nawr, oherwydd byddwch chi’n cael eich llenwi. “Hapus ydych chi sy’n wylo nawr, oherwydd byddwch chi’n chwerthin. 22  “Hapus ydych chi bryd bynnag y bydd dynion yn eich casáu chi, a phan fyddan nhw’n eich cau chi allan ac yn eich sarhau chi ac yn lladd ar eich enw* er mwyn Mab y dyn. 23  Ar y diwrnod hwnnw, byddwch yn llawen a neidiwch o lawenydd, oherwydd edrychwch! mae eich gwobr yn fawr yn y nef, oherwydd dyna’r un pethau roedd eu cyndadau yn eu gwneud i’r proffwydi. 24  “Ond gwae chi sy’n gyfoethog, oherwydd rydych chi wedi derbyn yr holl bleserau rydych chi am eu cael. 25  “Gwae chi sy’n llawn nawr, oherwydd byddwch chi’n llwgu. “Gwae chi sy’n chwerthin nawr, oherwydd byddwch chi’n galaru ac yn wylo. 26  “Gwae chi bryd bynnag y bydd pob dyn yn eich canmol chi, oherwydd dyna beth wnaeth eu cyndadau i’r gau broffwydi. 27  “Ond rydw i’n dweud wrthoch chi sy’n gwrando: Parhewch i garu eich gelynion, i wneud daioni i’r rhai sy’n eich casáu chi, 28  i fendithio’r rhai sy’n eich melltithio, i weddïo dros y rhai sy’n eich sarhau. 29  I’r un sy’n dy daro di ar dy foch, cynigia’r llall hefyd; ac i’r un sy’n cymryd dy gôt, paid â gwrthod rhoi dy grys iddo hefyd. 30  Rho i bawb sy’n gofyn am rywbeth gen ti, ac i’r un sy’n cymryd dy bethau i ffwrdd, paid â gofyn iddo eu rhoi nhw yn ôl iti. 31  “Hefyd, yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw. 32  “Os ydych chi’n caru’r rhai sy’n eich caru chi, o ba les ydy hynny ichi? Oherwydd mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru’r rhai sy’n eu caru nhw. 33  Ac os ydych chi’n gwneud daioni i’r rhai sy’n gwneud daioni i chi, o ba les ydy hynny ichi? Mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud yr un peth. 34  Hefyd, os ydych chi’n benthyg* i eraill oherwydd rydych chi’n meddwl y byddan nhw’n eich talu yn ôl, o ba les ydy hynny ichi? Mae hyd yn oed pechaduriaid yn benthyg i bechaduriaid ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn. 35  I’r gwrthwyneb, parhewch i garu eich gelynion ac i wneud daioni ac i fenthyg heb obeithio am gael unrhyw beth yn ôl; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch chi’n feibion i’r Goruchaf, oherwydd mae ef yn garedig tuag at y rhai anniolchgar a drwg. 36  Parhewch i fod yn drugarog, yn union fel mae eich Tad yn drugarog. 37  “Ar ben hynny, stopiwch farnu, ac ni fyddwch chithau ar unrhyw gyfri yn cael eich barnu; a stopiwch gondemnio, ac ni fyddwch chithau ar unrhyw gyfri yn cael eich condemnio. Parhewch i faddau, a bydd Duw yn maddau i chi. 38  Parhewch i roi, a bydd pobl yn rhoi i chithau. Byddan nhw’n tywallt* mesur da i mewn i’r plygiad yn eich côt, wedi ei wasgu i lawr, ei ysgwyd ynghyd, ac yn gorlifo. Oherwydd y mesur rydych chi’n ei ddefnyddio i roi i eraill, y byddan nhw’n ei ddefnyddio i roi yn ôl i chi.” 39  Yna, adroddodd hefyd ddameg wrthyn nhw: “Ydy dyn dall yn medru arwain dyn dall? Oni fydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos? 40  Dydy myfyriwr* ddim yn uwch na’i athro, ond bydd pob un sy’n cael ei hyfforddi’n berffaith yn debyg i’w athro. 41  Pam felly rwyt ti’n edrych ar y gwelltyn sydd yn llygad dy frawd ond dwyt ti ddim yn sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42  Sut gelli di ddweud wrth dy frawd, ‘Frawd, gad imi dynnu’r gwelltyn sydd yn dy lygad di,’ pan dwyt ti dy hun ddim yn gweld y trawst yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr! Yn gyntaf, tynna’r trawst o dy lygad dy hun, ac yna y byddi di’n gweld yn glir sut i dynnu’r gwelltyn sydd yn llygad dy frawd. 43  “Oherwydd dydy coeden dda ddim yn cynhyrchu ffrwyth drwg, a dydy coeden ddrwg ddim yn cynhyrchu ffrwyth da. 44  Oherwydd wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod. Er enghraifft, dydy pobl ddim yn casglu ffigys oddi ar ddrain, nac yn tynnu grawnwin oddi ar berth ddrain. 45  Mae dyn da yn dod â phethau da allan o’r trysor da sydd yn ei galon, ond mae dyn drwg yn dod â’r hyn sy’n ddrwg allan o’i drysor drwg; oherwydd o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad. 46  “Pam, felly, rydych chi’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd! Arglwydd!’ a chithau ddim yn gwneud y pethau rydw i’n eu dweud? 47  Pob un sy’n dod ata i ac yn clywed fy ngeiriau ac yn eu gwneud nhw, fe wna i ddangos ichi pwy y mae’n debyg iddo: 48  Mae’n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio’n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig. O ganlyniad, pan ddaeth llifogydd, hyrddiodd yr afon yn erbyn y tŷ ond nid oedd yn ddigon cryf i’w ysgwyd, oherwydd iddo gael ei adeiladu mor gadarn. 49  Ar y llaw arall, mae pwy bynnag sy’n clywed ond yn gwneud dim byd yn debyg i ddyn a adeiladodd dŷ ar y pridd heb sylfaen. Hyrddiodd yr afon yn ei erbyn, a syrthiodd yn syth, ac roedd chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.”

Troednodiadau

Neu “y bara gosod.”
Neu “wedi ei pharlysu.”
Neu “wedi ei pharlysu.”
Llyth., “yn gwrthod eich enw fel rhywbeth drwg.”
Hynny yw, heb log.
Neu “arllwys.”
Neu “disgybl.”