Yn Ôl Mathew 20:1-34
20 “Oherwydd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i feistr tŷ a aeth allan yn gynnar yn y bore i gyflogi gweithwyr ar gyfer ei winllan.
2 Ar ôl iddo gytuno â’r gweithwyr am ddenariws y dydd, anfonodd nhw i’w winllan.
3 Wrth fynd allan eto tua’r drydedd awr,* fe welodd ef eraill yn sefyll heb waith yn y farchnad;
4 ac i’r rheini fe ddywedodd, ‘Ewch chithau hefyd i’r winllan, ac fe dala i ichi beth bynnag sy’n deg.’
5 Felly i ffwrdd â nhw. Aeth allan eto tua’r chweched awr* a’r nawfed awr* a gwneud union yr un peth.
6 Yn olaf, tua’r unfed awr ar ddeg,* aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyllian, a dywedodd wrthyn nhw, ‘Pam rydych chi wedi bod yn sefyll yma drwy’r dydd heb waith?’
7 Atebon nhwthau, ‘Oherwydd does neb wedi ein cyflogi ni.’ Dywedodd wrthyn nhw, ‘Ewch chithau hefyd i’r winllan.’
8 “Ar ôl iddi nosi, dywedodd meistr y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galwa’r gweithwyr a thala eu cyflogau, gan ddechrau gyda’r rhai olaf a gorffen gyda’r rhai cyntaf.’
9 Pan ddaeth y dynion a oedd wedi bod yn gweithio ers yr unfed awr ar ddeg, gwnaeth pob un dderbyn denariws.
10 Felly pan ddaeth y rhai cyntaf, roedden nhw’n tybio y bydden nhw’n cael mwy, ond cawson nhwthau hefyd gyflog o ddenariws.
11 Ar ôl cael eu cyflog, dechreuon nhw gwyno yn erbyn meistr y tŷ
12 a dweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y dynion olaf hyn; ond eto fe wnest ti eu gwneud nhw’n gyfartal â ni sydd wedi gweithio’n galed drwy’r dydd yn y gwres tanbaid!’
13 Ond atebodd drwy ddweud wrth un ohonyn nhw, ‘Gyfaill, dydw i ddim yn gwneud cam â ti. Oni wnest ti gytuno â mi am ddenariws?
14 Cymera dy gyflog a dos. Rydw i eisiau rhoi i’r un olaf hwn yr un cyflog ag i tithau.
15 Onid oes gen i’r hawl i wneud beth rydw i eisiau gyda fy mhethau fy hun? Neu ydy dy lygad yn genfigennus* oherwydd fy mod i’n dda?’*
16 Fel hyn, bydd y rhai olaf yn gyntaf, a’r rhai cyntaf yn olaf.”
17 Wrth fynd i fyny i Jerwsalem, cymerodd Iesu’r 12 disgybl ar wahân a dweud wrthyn nhw ar y ffordd:
18 “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion. Byddan nhw’n ei gondemnio i farwolaeth
19 a’i drosglwyddo i ddynion y cenhedloedd i’w wawdio a’i chwipio a’i ddienyddio ar stanc; ac ar y trydydd dydd bydd yn cael ei godi.”
20 Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, yn ymgrymu* ac yn gofyn ffafr ganddo.
21 Dywedodd wrthi: “Beth rwyt ti eisiau?” Atebodd hithau: “Rho’r gair y bydd fy nau fab hyn yn gallu eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith, yn dy Deyrnas.”
22 Atebodd Iesu: “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n gofyn amdano. A allwch chi yfed o’r cwpan rydw i’n mynd i yfed ohono?” Dywedon nhw wrtho: “Gallwn.”
23 Dywedodd wrthyn nhw: “Byddwch yn wir yn yfed o fy nghwpan, ond nid fi sy’n penderfynu pwy sy’n eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, ond mae’r llefydd hynny’n perthyn i’r rhai sydd wedi cael eu dewis gan fy Nhad.”
24 Pan glywodd y deg arall am hyn, roedden nhw’n ddig iawn wrth y ddau frawd.
25 Ond galwodd Iesu nhw ato a dweud: “Rydych chi’n gwybod bod rheolwyr y cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw a bod y dynion blaengar yn dangos eu hawdurdod drostyn nhw.
26 Nid fel hyn y dylai hi fod yn eich plith chi; ond mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn fawr yn eich plith fod yn was ichi,
27 ac mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn gyntaf yn eich plith fod yn gaethwas ichi.
28 Yn union fel y daeth Mab y dyn, nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei fywyd er mwyn talu’r pris* i achub llawer o bobl.”
29 Tra oedden nhw’n mynd allan o Jericho, gwnaeth tyrfa fawr ei ddilyn ef.
30 Ac edrycha! gwnaeth dau ddyn dall a oedd yn eistedd wrth ochr y ffordd glywed bod Iesu yn pasio heibio a dyma nhw’n gweiddi: “Arglwydd, bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd!”
31 Ond gwnaeth y dyrfa eu ceryddu nhw, a dweud wrthyn nhw am gadw’n ddistaw; ond gwaeddon nhw’n fwy byth, gan ddweud: “Arglwydd, bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd!”
32 Felly stopiodd Iesu, a’u galw, a dweud: “Beth rydych chi eisiau imi ei wneud ichi?”
33 Dywedon nhw wrtho: “Arglwydd, gad i’n llygaid gael eu hagor.”
34 Oherwydd ei fod yn teimlo trueni, cyffyrddodd Iesu â’u llygaid, ac fe gawson nhw eu golwg yn ôl yn syth, a dyma nhw’n ei ddilyn ef.
Troednodiadau
^ Hynny yw, tua 9:00 a.m.
^ Hynny yw, tua hanner dydd.
^ Hynny yw, tua 3:00 p.m.
^ Hynny yw, tua 5:00 p.m.
^ Llyth., “yn ddrwg; yn ddrygionus.”
^ Neu “hael.”
^ Neu “plygu.”
^ Neu “pridwerth.”