CÂN 1
Rhinweddau Jehofa
-
1. Jehofa ein Duw, Creawdwr pob dim,
Tydi biau’r nerth, y gogoniant, a’r grym.
Dy greadigaeth, am byth gwnaiff barhau.
Moliannu dy ddirfawr nerth y mae.
-
2. Cyfiawnder sy’n sail i’th fawr orsedd di.
Di-feth yw dy farn. Digyfnewid wyt ti.
Doethineb d’Air sy’n datgelu i ni
Ddirnadaeth ddi-drai d’athrylith di.
-
3. Mae pob anrheg dda yn dod o dy law.
Tydi, cariad wyt. Gennyt ti, cariad gawn.
Mae’n hawdd i foli dy fawredd a’th fri—
Unigryw a hollol wych wyt ti!
(Gweler hefyd Salm 36:9; 145:6-13; Preg. 3:14; Iago 1:17.)