CÂN 115
Diolch am Amynedd Duw
-
1. Nerthol Jehofa, cyfiawn wyt ti,
Perffaith yw dy weithredoedd di.
Addo a wnest heddychlon fyd,
At hyn edrychwn ’mlaen o hyd.
Er i greulondeb lenwi ein byd,
Gwyddwn dy fod yn gweld hyn i gyd.
(CYTGAN)
Dangos yr wyt amynedd mawr.
Diolch Jehofa. Diolch yn fawr!
-
2. Teimlo mor hir mae milflwydd i ni,
Ond fel un diwrnod mae i ti.
Nid wyt yn araf; daw dy ddydd.
Ni fydd yn hwyr; yn brydlon bydd.
Mae yr angylion yn llawenhau
Wrth weld mawr dyrfa’n edifarhau.
(CYTGAN)
Dangos yr wyt amynedd mawr.
Diolch Jehofa. Diolch yn fawr!
(Gweler hefyd Neh. 9:30; Luc 15:7; 2 Pedr 3:8, 9.)