CÂN 127
Y Math o Berson y Dylwn Fod
-
1. Beth gaf roi i ti, Dduw? Beth allaf ei ddweud
I ddangos fy niolch? A beth ddylwn ei wneud?
Fel drych mae dy Air; adlewyrcha yn fanwl
Wir gyflwr fy nghalon, fy awydd, a’m meddwl.
(PONT)
Jehofa, addewais, i ti byddaf byw,
O’m gwirfodd dewisais fod yn onest a thriw.
Dymunaf dy blesio, Duw hael wyt a da,
Byw’n lân ac yn dduwiol—Dyna a wnaf.
Dduw, archwilia’n drylwyr a dangos yn glir
Adlewyrch fy nghalon yn dy ddrych sanctaidd pur.
Gwna’n amlwg i mi sut y dylwn i newid
I ennill dy gymeradwyaeth o’r newydd.
(Gweler hefyd Salm 18:25; 116:12; Diar. 11:20.)