CÂN 13
Crist, Ein Hesiampl
-
1. O’i gariad, rhoddodd Duw
Ei Fab dros ddynol ryw—
Ei Fab anwylaf, Ei gyntaf-anedig.
I’r ddaear hon daeth Crist,
Yn gaethwas ac yn dyst.
Esiampl berffaith yw Iesu i ni.
-
2. Crist gafodd nerth i fyw
Drwy fwydo ar Air Duw;
Datblygodd ddeall, doethineb, a gallu.
Gosododd batrwm da
O blesio’n fawr ei Dad.
Meddylfryd Iesu sy’n enghraifft i ni.
-
3. Wrth efelychu Crist,
Gwir gariad yw ein gwisg,
A chawn y pleser o blesio Jehofa.
Boed i ni roi mawrhad
I Dduw ein nefol Dad,
A dilyn ôl traed Crist Iesu bob cam.
(Gweler hefyd Ioan 8:29; Eff. 5:2; Phil. 2:5-7.)