CÂN 18
Gwerthfawrogi’r Pridwerth
-
1. Gerbron dy orsedd,
Dduw Jehofa, safwn ni,
Canys ti a rodd yr aberth
i’n gollwng yn rhydd.
Fe roist dy unig Fab
er mwyn i ni gael byw.
Nid oes dim cariad gwell na’th gariad,
O annwyl Dduw.
(CYTGAN)
Ei fywyd dros ein bywyd ni,
Ei waed i dalu pridwerth drud.
 chalon lawn,
rhoi diolch wnawn i ti ein Duw hyd byth.
-
2. Ei roi ei hun yn berffaith offrwm
a wnaeth Crist.
Talodd uchel bris yn iawndal
dros bechod y byd.
Ein hachub wnaeth rhag angau
y tragwyddol fedd.
Ein gobaith nawr yw byw am byth
yn nhragwyddol hedd.
(CYTGAN)
Ei fywyd dros ein bywyd ni,
Ei waed i dalu pridwerth drud.
 chalon lawn,
rhoi diolch wnawn i ti ein Duw hyd byth.
(Gweler hefyd Heb. 9:13, 14; 1 Pedr 1:18, 19.)