Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 5

Gweithredoedd Rhyfeddol Duw

Gweithredoedd Rhyfeddol Duw

(Salm 139)

  1. 1. O Dduw, archwiliaist fi yn fanwl,

    Fe wyddost beth sydd ar fy meddwl i.

    Cyfarwydd wyt â dyheadau ’nghalon.

    Jehofa, gwybod rwyt pob dim

    amdanaf fi.

    Fe’m gwelaist fi cyn dydd fy ngeni,

    Ac yn dy lyfr, cofnodwyd ffurf fy ffrâm,

    Ymhlith perfeddion dirgel, ti a’m plethaist.

    Syfrdanol ydyw’th holl weithredoedd,

    mawr a mân.

    Aruthrol waith dy ddwylo sy’n rhyfeddod,

    Godidog ydyw’th allu mawr a’th rym.

    Petawn i’n ofni gorchudd y tywyllwch,

    Dy ysbryd di all droi y nos yn ddydd.

    Petawn i’n hedfan dros y moroedd,

    Yn ffoi ymhell, neu’n meddwl am fy medd,

    Ble bynnag byddaf, yno byddi dithau

    Yn gafael ynof fi yn dynn

    â dy law dde.

(Gweler hefyd Salm 66:3; 94:19; Jer. 17:10.)