Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 55

Paid â’u Hofni!

Paid â’u Hofni!

(Mathew 10:28)

  1. 1. Bwriwch ’mlaen fy mhobl ffyddlon!

    Wrth gyhoeddi’r gair yn hy,

    Peidiwch ofni’r gelyn lu.

    D’wedwch wrth bawb addfwyn sy’

    Fod Crist Iesu wedi llorio

    ‘Duw y byd hwn,’ awdur gwae,

    Caiff y Diafol ei gaethiwo

    A’r ffyddloniaid eu rhyddhau.

    (CYTGAN)

    Paid â’u hofni, O f’anwylyd,

    Gwarchod wnaf fy mhobl i.

    Trysor wyt, fel cannwyll llygad,

    Parod wyf i’th gynnal di.

  2. 2. Torf ddichellgar a thwyllodrus,

    Bygwth wnânt yn ddiymwâd

    Eich uniondeb â’u sarhad,

    Cyfrwys fydd eu dwys berswâd.

    Fy nghyd-weithwyr, peidiwch ofni,

    Os daw erlid, sefyll gwnewch.

    Caiff y ffyddlon eu hamddiffyn,

    Gweld mawr fuddugoliaeth gewch.

    (CYTGAN)

    Paid â’u hofni, O f’anwylyd,

    Gwarchod wnaf fy mhobl i.

    Trysor wyt, fel cannwyll llygad,

    Parod wyf i’th gynnal di.

  3. 3. Fi yw’ch nerth, myfi yw’ch tarian,

    Byddwch yn fy ngho’n barhaus.

    Er ich syrthio ar y maes,

    Ildia angau i fy llais.

    Peidiwch ofni colli’ch bywyd,

    Gwarchod wnaf eich enaid chi.

    Hyd y diwedd byddwch ffyddlon,

    O’ch blaen bywyd bythol sy’.

    (CYTGAN)

    Paid â’u hofni, O f’anwylyd,

    Gwarchod wnaf fy mhobl i.

    Trysor wyt, fel cannwyll llygad,

    Parod wyf i’th gynnal di.

(Gweler hefyd Deut. 32:10; Neh. 4:14; Salm 59:1; 83:2, 3.)