CÂN 8
Jehofa Yw Ein Noddfa
(Salm 91)
-
1. Jehofa yw ein noddfa,
Ein hamddiffynfa gref.
Yng nghysgod Duw cawn loches,
Lle hollol saff yw Ef.
Yn bendant, ein hamddiffyn gawn,
Ymddiried ynddo’n llwyr a wnawn.
Caer gadarn yw Jehofa,
Ef sy’n ffyddlon, cyfiawn a theg.
-
2. Mae miloedd wedi syrthio
I’r dde, ac ar y chwith.
Ond hafan yw Jehofa,
Ei adain drosom sydd.
I’r ffyddlon, man diogel yw
Dirgelfa’r Hollalluog Dduw.
Dan darian Ei ffyddlondeb,
Heb ofn niwed y trigwn ni.
-
3. Ein gwarchod mae Jehofa—
Goleua’r maglau cudd,
Fe’n ceidw rhag ofn dychryn
Y nos, a saethau’r dydd.
Drwy bob argyfwng, haint, a storm,
Gwnawn droedio ’mlaen yn ddewr, heb ofn.
Jehofa yw ein noddfa,
Amddiffynfa gaerog ein ffydd.
(Gweler hefyd Salm 97:10; 121:3, 5; Esei. 52:12.)