CÂN 87
Dere! Cei Di Dy Adfywio!
-
1. Mae’r byd hwn yn llawn poen, drygioni, a thrais,
Peryglus yw bywyd bob dydd.
Heb gyngor i’n harwain, heb gymorth gan Dduw,
Fe grwydrwn o lwybr y ffydd.
Ac felly, yn gyson, ymgynnull a wnawn
I atal ein ffydd rhag gwanhau,
I lathru ein gobaith, i gadw yn driw,
I annog ein brawd ac ein chwaer.
Ac yno cawn ddysgu yr iaith sydd yn bur,
A dangos gwir gariad at bawb.
Cawn ni ein hadfywio wrth ddysgu y gwir,
A chariad diddarfod fwynhawn.
-
2. Jehofa sy’n gwybod yn well na nyni
Pa heriau annisgwyl a ddaw.
Ac felly, defnyddiwn ein hamser yn ddoeth,
Ac i bob cyfarfod yr awn.
Gan ddynion sy’n dduwiol, clywn gyngor gan Dduw,
A chanddo arweiniad a gawn.
Cefnogaeth gariadlon, awyrgylch di-ail,
A chwmni siriolaidd fwynhawn.
Yn ufudd i Dduw, i’r cyfarfod yr awn.
Doethineb a gawn oddi fry.
I gael ein hadfywio, i annog ein brawd,
Tyrd! Dere ymlaen! Bant â ni!
(Gweler hefyd Salm 37:18; 140:1; Diar. 18:1; Eff. 5:16; Iago 3:17.)