CÂN 99
Miloedd ar Filoedd o Frodyr
-
1. Miloedd ar filoedd o frodyr,
Rydym yn dyrfa fawr.
Ni fedr neb ein cyfri,
Fwyfwy cynyddu wnawn.
Miloedd ar filoedd ydym,
Tyrfa aruthrol fawr.
Down o bob cenedl, llwyth, ac iaith
I foli’n Brenin Mawr.
-
2. Miloedd ar filoedd o frodyr
Gyda’r newyddion da.
“Heddwch” yw’r neges hyfryd,
“Duw, ei ewyllys wna.”
Er gwaethaf anawsterau,
Tystio wnawn yn ddi-drai.
Cawn ein hadfywio gan Iesu Grist,
Gorffwys gawn dan ei iau.
-
3. Miloedd ar filoedd o frodyr,
Drwy’r byd, bob nos a dydd,
Yn gwasanaethu’n llawen—
Gwelwn eu cyson ffydd.
Rydym yn ein miliynau,
Teulu unigryw yw.
Braint tra syfrdanol yw cymryd rhan—
Ni yw cyd-weithwyr Duw.
(Gweler hefyd Esei. 52:7; Math. 11:29; Dat. 7:15.)