Darganfyddiad Archaeolegol yn Dystiolaeth Bod y Brenin Dafydd yn Gymeriad Hanesyddol
Yn ôl y Beibl, roedd y Brenin Dafydd yn byw yn Israel yn yr unfed ganrif ar ddeg COG, ac roedd ei ddisgynyddion yn teyrnasu am gannoedd o flynyddoedd. Ond mae rhai beirniaid wedi dadlau mai cymeriad mytholegol yw Dafydd, chwedl wedi ei greu’n llawer diweddarach. Ai dyn go iawn oedd y Brenin Dafydd?
Ym 1993, daeth yr archaeolegydd Avraham Biran a’i dîm ar draws darn o garreg yn Tel Dan yng ngogledd Israel, ag arysgrif arni sy’n cyfeirio at “Dŷ Dafydd.” Mae’r arysgrif, mewn llythrennau Semitig hynafol, yn dyddio o’r nawfed ganrif COG. Ymddengys ei bod yn rhan o gofgolofn wedi’i chodi gan yr Arameaid er mwyn brolio am eu buddugoliaethau dros yr Israeliaid.
Dywed erthygl yn Bible History Daily: “Roedd rhai’n amheus ynghylch arysgrif ‘Tŷ Dafydd’ . . . Sut bynnag, roedd y rhan fwyaf o ysgolheigion Beiblaidd ac archaeolegwyr yn fodlon derbyn mai arysgrif Tel Dan oedd y dystiolaeth bendant gyntaf bod y Brenin Dafydd yn y Beibl yn gymeriad hanesyddol, ac felly yn un o’r darganfyddiadau Beiblaidd pwysicaf yr adroddir amdano yn BAR [Biblical Archaeology Review].”