Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rhaglen Darllen y Beibl

Rhaglen Darllen y Beibl

Mae’r Beibl yn rhoi’r cyngor gorau ar gyfer bywyd. Os ydych chi’n ei ddarllen yn gyson, yn myfyrio arno, a’i roi ar waith, ‘byddwch chi’n llwyddo.’ (Josua 1:8; Salm 1:​1-3) Byddwch chi hefyd yn dod i adnabod Duw a’i Fab, Iesu, a gall hynny arwain at fywyd tragwyddol.​—Ioan 17:3.

Ym mha drefn y dylech chi ddarllen llyfrau’r Beibl? Mae sawl dewis ar gael i chi. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddarllen llyfrau’r Beibl naill ai yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y Beibl, neu i fynd ati fesul pwnc. Er enghraifft, gallwch ddarllen y penodau sy’n rhoi braslun o’r berthynas rhwng Duw â’r Israeliaid gynt. Gallwch ddarllen penodau eraill i ddysgu am ddatblygiad y gynulleidfa Gristnogol yn y ganrif gyntaf. Os ydych chi’n darllen ychydig o benodau bob dydd, byddwch chi’n darllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn.

P’un a ydych chi eisiau darllen y Beibl bob dydd, darllen y cyfan mewn blwyddyn, neu ddarllen y Beibl am y tro cyntaf, bydd y rhaglen hon yn eich helpu. Cewch lawrlwytho neu argraffu’r rhaglen hon ar gyfer darllen y Beibl, a dechrau arni heddiw.