Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eich Hun?
PAM MAE HUNAN-BARCH YN BWYSIG
Mae pobl sy’n eu parchu eu hunain yn gallu wynebu heriau bywyd â hyder. Dydyn nhw ddim yn rhuthro i roi’r ffidil yn y to.
-
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd ddim yn meddwl llawer am eu hunain yn aml yn dioddef o orbryder, iselder, ac anhwylderau bwyta. Ac maen nhw’n fwy tueddol o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau.
-
Dydy rhai sydd â hunan-barch ddim yn cymharu eu hunain ag eraill. O ganlyniad, mae ganddyn nhw berthynas well ag eraill ac maen nhw’n gwneud ffrindiau da. Ar y llaw arall, mae gan rai sydd heb hunan-barch dueddiad i fod yn feirniadol, sy’n gallu niweidio eu perthynas ag eraill.
-
Mae pobl sy’n eu parchu eu hunain yn gallu bwrw ymlaen pan maen nhw’n wynebu problemau; does dim byd yn gallu eu stopio nhw rhag cyrraedd eu nod. Yn wahanol i hynny, mae rhai sydd â diffyg hunan-barch yn gwneud môr a mynydd o broblemau bach. Yna, mae’n anodd iddyn nhw ddal ati.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Dewiswch ffrindiau cefnogol. Treuliwch amser gyda phobl sy’n barchus, sy’n wir yn gofalu amdanoch chi, ac sy’n adeiladol.
Helpwch eraill. Pan ydych chi’n garedig ac yn gwneud pethau dros eraill heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl, byddwch chi’n profi’r hapusrwydd go iawn sy’n dod o roi. Bydd hynny’n wir hyd yn oed os nad ydy eraill yn sylwi ar beth rydych chi’n ei wneud.
Helpwch eich plant i feithrin hunan-barch. Un ffordd o wneud hyn ydy drwy adael iddyn nhw ddatrys eu problemau eu hunain yn ôl eu gallu. Mae hynny’n dysgu plant sut i ddelio ag anawsterau ac i weithio trwyddyn nhw. Bydd hyn yn codi eu hunan-barch ac yn eu helpu nhw wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?
Mae cyfarfodydd Tystion Jehofa a’n cwrs astudio’r Beibl yn helpu pobl i wella eu bywydau ac i feithrin hunan-barch.
EIN CYFARFODYDD WYTHNOSOL
Yn ein cyfarfodydd wythnosol, rydyn ni’n mwynhau gwrando ar anerchiadau Beiblaidd sydd fel arfer yn cynnwys awgrymiadau ar sut i feithrin hunan-barch. Mae mynediad i’n cyfarfodydd am ddim ac mae ’na groeso i bawb. Yn ein cyfarfodydd, byddwch chi’n dysgu . . .
-
pam rydych chi’n bwysig i Dduw
-
sut i gael pwrpas mewn bywyd
-
sut i adeiladu perthynas dda ag eraill
Byddwch chi hefyd yn gwneud ffrindiau â rhai sy’n wir yn gofalu am ei gilydd. —1 Corinthiaid 12:25, 26.
I ddysgu mwy am ein cyfarfodydd, chwiliwch ar jw.org am y fideo byr Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?
EIN CWRS BEIBLAIDD
Rydyn ni’n cynnig cwrs rhyngweithiol am y Beibl am ddim gan ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r llyfr astudio hwn yn cynnwys adnodau pwysig, rhesymu clir, cwestiynau effeithiol, fideos calonogol, a lluniau prydferth. Mae’r cwrs hwn yn rhoi urddas i bobl ac yn gwella eu bywydau.
I weld sut gall astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa eich helpu chi, chwiliwch ar jw.org am y fideo byr Pam Astudio’r Beibl?