Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Fywyd?
PAM MAE PARCH AT FYWYD YN BWYSIG
Mae gweithredoedd sy’n dangos diffyg parch at fywyd yn gallu peryglu iechyd a diogelwch.
-
Mae smygu yn achosi canser a hefyd yn rhwystro gallu’r corff i frwydro yn ei erbyn. Mae tua 90 y cant o farwolaethau a achoswyd gan ganser yr ysgyfaint wedi dod o ganlyniad i smygu neu fwg ail-law.
-
Mae nifer mawr o bobl bob blwyddyn yn dioddef yn emosiynol oherwydd saethu torfol. Mae adroddiad gan Brifysgol Stanford yn dweud: “Mae ymchwil yn dangos bod hyd yn oed y rhai sy’n llwyddo i osgoi anafiadau corfforol [yn ystod saethu yn yr ysgol] yn cario creithiau emosiynol sy’n effeithio ar eu bywydau am flynyddoedd lawer.”
-
Pan mae pobl yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, maen nhw’n peryglu gyrwyr eraill a cherddwyr. Drwy ddiystyru gwerth bywyd, maen nhw’n gwneud i bobl ddiniwed ddioddef.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Gofalwch am eich iechyd. Dydy hi byth yn rhy hwyr i roi’r gorau i arferion fel smygu, fêpio, goryfed, neu gymryd cyffuriau. Mae pethau o’r fath yn niweidio eich bywyd ac yn dangos diffyg parch at fywydau pobl eraill, gan gynnwys eich teulu.
Byddwch yn ofalus. Er mwyn osgoi damweiniau, cadwch eich tŷ a’ch car mewn cyflwr da. Gyrrwch yn ofalus. Peidiwch â gadael i eraill roi pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth peryglus a all achosi niwed neu ladd rhywun.
Byddwch yn garedig. Mae parch at fywyd yn cynnwys sut rydyn ni’n teimlo am bobl o hil, cenedl, neu gefndir gwahanol. Wedi’r cwbl, rhagfarn a chasineb sydd wrth wraidd llawer o’r trais a’r rhyfeloedd rydyn ni’n eu gweld yn y byd.
BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?
Mae Tystion Jehofa yn annog pobl i fyw yn iach. Mae ein cyrsiau Beiblaidd wedi helpu pobl i dorri’n rhydd o arferion dinistriol.
Rydyn ni’n glynu wrth safonau iechyd a diogelwch yn ein prosiectau adeiladu. Mae gynnon ni lawer o adeiladau sy’n cael eu defnyddio i gefnogi ein gwaith addysgol am y Beibl. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio arnyn nhw wedi cael eu hyfforddi i osgoi damweiniau. Rydyn ni hefyd yn bwrw golwg dros ein hadeiladau yn aml er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch.
Rydyn ni’n rhoi cymorth ar ôl trychineb. O fewn un flwyddyn ddiweddar, ymatebon ni i tua 200 o drychinebau difrifol ar draws y byd a gwario bron i 12 miliwn o ddoleri er mwyn helpu rhai a oedd yn dioddef.
Pan oedd nifer mawr o achosion o Ebola yng Ngorllewin Affrica (2014) a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (2018), dysgon ni bobl sut i rwystro’r clefyd rhag lledaenu. Gwnaethon ni anfon cynrychiolwyr i siarad am y pwnc “Mae Ufudd-dod yn Achub Bywydau.” Gosodon ni fannau golchi dwylo tu allan i’n haddoldai a phwysleisio’r pwysigrwydd o olchi dwylo a chymryd camau eraill i atal y feirws.
Yn Sierra Leone, cafodd Tystion Jehofa eu canmol ar y radio am helpu Tystion ac eraill i osgoi dal y feirws.
a Yn y Dwyrain Canol gynt, roedd y gorchymyn doeth hwn yn diogelu’r teulu ac eraill.