Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ni fydd yr hyn mae Cloc Dydd y Farn yn ei ddweud yn dod yn wir oherwydd bod Duw yn addo dyfodol disglair i ddynolryw ac i’r ddaear

AR Y CLAWR | YDY’R BYD ALLAN O REOLAETH?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

CAFODD cyflwr truenus y byd heddiw ei ragfynegi yn y Beibl ganrifoedd yn ôl. Ond yn fwy na hynny, mae’r Beibl wedi rhagfynegi dyfodol disglair i ddynolryw. Ni ddylwn ni fod yn rhy gyflym i ddiystyru’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud oherwydd bod cymaint o’r hyn mae wedi ei ragfynegi wedi cael ei gyflawni i’r manylyn lleiaf.

Er enghraifft, ystyriwch y proffwydoliaethau canlynol o’r Beibl:

  • “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.”—Mathew 24:7.

  • “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw’n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw.”—2 Timotheus 3:1-4.

Mae’r proffwydoliaethau hyn yn disgrifio byd sydd, yn ôl rhai, yn mynd y tu hwnt i reolaeth. Ar un olwg, mae’r byd hwn yn wir allan o reolaeth—allan o reolaeth bodau dynol. Yn ôl y Beibl, does gan fodau dynol ddim y doethineb a’r grym i ddatrys problemau’r byd unwaith ac am byth. Mae hyn yn cael ei bwysleisio yn yr adnodau canlynol:

  • “Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.”—Diarhebion 14:12.

  • “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.”—Pregethwr 8:9.

  • “Dw i’n gwybod na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.”—Jeremeia 10:23.

Petai pobl yn parhau i wneud beth bynnag maen nhw eisiau, mae’n debygol iawn y byddai’r byd yn wynebu trychineb byd-eang. Ond nid yw hynny’n mynd i ddigwydd! Pam? Dyma beth mae’r Beibl yn ei ddweud:

  • Duw a wnaeth “osod y ddaear ar ei sylfeini, er mwyn iddi beidio gwegian byth.”—Salm 104:5.

  • “Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond dydy’r byd ddim yn newid o gwbl.”—Pregethwr 1:4.

  • “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

  • “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd!”—Salm 72:16.

Mae’r dysgeidiaethau hyn o’r Beibl yn rhoi atebion clir iawn. Ni fydd dynolryw yn dod i ben oherwydd llygredd, diffyg bwyd a dŵr, neu oherwydd pandemig byd-eang. Ni fydd y byd yn cael ei ddinistrio mewn holocost niwclear. Pam ddim? Duw sy’n rheoli dyfodol ein planed. Mae’n wir fod Duw wedi caniatáu i fodau dynol ddefnyddio eu hewyllys rhydd. Fodd bynnag, byddan nhw’n “medi beth maen nhw’n ei hau.” (Galatiaid 6:7) Dydy’r byd ddim yn llwyr fel trên sydd wedi rhedeg yn rhydd ac sy’n mynd ar ei ben i ddistryw. Mae Duw wedi gosod terfynau neu gyfyngiadau ar y niwed y mae bodau dynol yn gallu ei wneud iddyn nhw eu hunain.—Salm 83:18; Hebreaid 4:13.

Ond bydd Duw yn gwneud mwy. Bydd yn sicrhau bod pawb yn “mwynhau heddwch a llwyddiant.” (Salm 37:11) Mae’r gobaith cadarnhaol sy’n cael ei esbonio yn yr erthygl hon yn rhoi cipolwg bach yn unig ar y dyfodol disglair y mae miliynau o Dystion Jehofa wedi dysgu amdano drwy astudio’r Beibl.

Mae Tystion Jehofa yn gymuned fyd-eang o ddynion a merched o bob oedran ac o bob cefndir ethnig. Maen nhw’n addoli’r unig wir Dduw, ac mae’r Beibl yn datgelu mai ei enw yw Jehofa. Dydyn nhw ddim yn pryderu am y dyfodol oherwydd bod y Beibl yn dweud: “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a’i gosod yn ei lle—nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: ‘Fi ydy’r ARGLWYDD, does dim un arall.’”—Eseia 45:18.

Mae’r erthygl hon wedi trafod rhai o ddysgeidiaethau’r Beibl am ddyfodol y byd a dynolryw. Am wybodaeth bellach, gweler gwers 5 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael yn www.mt1130.com

Efallai y byddech chi’n hoffi gwylio’r fideo Pam Creodd Duw y Ddaear? sydd ar gael yn www.mt1130.com. (Edrychwch o dan CYHOEDDIADAU > FIDEOS)