AR GYFER CYPLAU
3: Parch
BETH MAE’N EI OLYGU?
Mae cyplau priod sy’n parchu ei gilydd yn caru ei gilydd, hyd yn oed pan fyddan nhw’n anghytuno. “Dydy’r cyplau hynny ddim yn bengaled nac yn gwrthod cyfaddawdu,” dywed y llyfr Ten Lessons to Transform Your Marriage. “Yn hytrach, maen nhw’n parhau i siarad â’i gilydd am yr anghytundebau sydd rhyngddyn nhw. Maen nhw’n gwrando’n ofalus ar safbwynt eu cymar ac yn dod o hyd i atebion sy’n gweithio i’r ddau ohonyn nhw.”
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Nid yw cariad yn . . . hunanol.”—1 Corinthiaid 13:4, 5.
“Mae parchu fy ngwraig yn golygu fy mod i’n deall pa mor werthfawr ydy hi a dydw i ddim eisiau gwneud unrhyw beth fyddai’n peri niwed iddi hi neu i’n priodas.”—Micah.
PAM MAE’N BWYSIG?
Heb barch, gall sgyrsiau rhwng cyplau droi’n feirniadol, yn sarcastig, neu hyd yn oed yn gas—tueddiadau mae ymchwilwyr yn eu galw’n arwyddion cynnar o ysgariad.
“Bydd sylwadau dilornus, ensyniadau, neu jôcs am eich gwraig yn chwalu ei hyder personol a’i hyder ynoch chithau, ac yn niweidio’ch priodas.”—Brian.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
PROFWCH EICH HUN
Talwch sylw i’ch sgyrsiau a’ch gweithredoedd am wythnos. Yna gofynnwch i chi’ch hun:
-
‘Pa mor aml rydw i’n beirniadu fy nghymar, a pha mor aml rydw i’n ei chanmol?’
-
‘Ym mha ffyrdd rydw i’n dangos fy mod i’n parchu fy nghymar?’
TRAFODWCH Â’CH GILYDD
-
Pa weithredoedd a geiriau a fyddai’n helpu’r ddau ohonoch chi i deimlo bod y llall yn eich parchu?
-
Pa weithredoedd a geiriau sy’n gwneud i’r ddau ohonoch chi deimlo fel eich bod chi’n cael eich amharchu?
AWGRYMIADAU
-
Ysgrifennwch dair ffordd yr hoffech chi dderbyn parch. Gwnewch i’ch cymar wneud yr un peth. Rhowch eich rhestrau i’ch gilydd a gweithiwch ar ddangos parch yn y ffyrdd a gafodd eu rhestru.
-
Gwnewch restr o rinweddau rydych chi’n eu hedmygu am eich cymar. Wedyn, dywedwch wrth eich cymar faint rydych chi’n gwerthfawrogi ei rinweddau.
“Mae parchu fy ngŵr yn golygu dangos drwy gyfrwng fy ngweithredoedd fy mod i yn ei werthfawrogi a fy mod i eisiau iddo fod yn hapus. Dydy hynny ddim bob amser yn rhywbeth mawr; weithiau gall nifer o weithredoedd bach ddangos gwir barch.”—Megan.
Yn y diwedd, nid eich barn chi sy’n bwysig ynglŷn â pha mor barchus ydych chi; y cwestiwn ydy, a ydy eich cymar yn teimlo eich bod chi’n dangos digon o barch?
EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Gwisgwch dynerwch a thosturi, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd.”—Colosiaid 3:12.