ERTHYGL ASTUDIO 6
CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth
Maddeuant Jehofa—Pam Rydyn Ni’n Ei Drysori
“Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab.”—IOAN 3:16.
PWRPAS
Wrth inni ddysgu mwy am faddeuant Jehofa, bydd ein gwerthfawrogiad yn dyfnhau.
1-2. Sut rydyn ni mewn sefyllfa debyg i’r dyn ym mharagraff 1?
DYCHMYGA ddyn ifanc sydd wedi cael ei fagu gan deulu cyfoethog. Un diwrnod, mae trasiedi yn taro, ac mae’n colli ei rieni mewn damwain. Mae’r newyddion yn ei frifo i’r byw. Ond, dydy’r newyddion drwg ddim yn stopio; mae’n dysgu bod ei rieni wedi gwastraffu arian y teulu. Felly, yn hytrach nag etifeddu cyfoeth ei rieni, mae’n etifeddu dyled ofnadwy, ac mae’r credydwyr yn mynnu cael eu harian. Mae’n amhosib i’r dyn ifanc dalu’r ddyled yn ôl.
2 Rydyn ni mewn sefyllfa debyg i’r dyn ifanc hwnnw. Roedd ein rhieni cyntaf, Adda ac Efa, yn berffaith ac yn byw mewn paradwys hyfryd. (Gen. 1:27; 2:7-9) Roedd ganddyn nhw’r cyfle i fwynhau bywyd llawen am byth. Ond yna, newidiodd bopeth. Gwnaethon nhw golli’r cyfle i fyw am byth yn y Baradwys. Beth gwnaeth eu plant ei etifeddu? Mae’r Beibl yn dweud: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn [Adda], a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly, lledaenodd marwolaeth i bawb oherwydd bod pawb wedi pechu.” (Rhuf. 5:12) Gwnaethon ni etifeddu pechod a marwolaeth. Mae’r pechod hwnnw’n debyg i ddyled ofnadwy, sy’n amhosib inni ei thalu’n ôl.—Salm 49:8.
3. Pam gall ein pechodau gael eu cymharu â “dyledion”?
3 Gwnaeth Iesu gymharu pechodau â “dyledion.” (Math. 6:12; Luc 11:4) Pan ydyn ni’n pechu, mae’n rhaid inni dalu’r ddyled yn ôl i Jehofa. Petasen ni ddim yn gwneud hynny, byddai’r ddyled ond yn cael ei ganslo unwaith inni farw.—Rhuf. 6:7, 23.
4. (a) Beth fyddai’n digwydd i bechaduriaid heb help? (Salm 49:7-9) (b) At beth mae’r gair “pechod” yn cyfeirio yn y Beibl? (Gweler y blwch “ Pechod.”)
4 Ar ein pennau ein hunain, byddai’n amhosib inni gael popeth yn ôl y gwnaeth Adda ac Efa ei golli. (Darllen Salm 49:7-9.) Heb help, fydd gynnon ni ddim gobaith o fywyd yn y dyfodol nac atgyfodiad, a byddwn ni’n marw heb y cyfle i fyw eto, yn union fel anifeiliaid.—Preg. 3:19; 2 Pedr 2:12.
5. Sut mae ein Tad cariadus wedi ein helpu ni gyda’n dyled o bechod? (Gweler y llun.)
5 Meddylia eto am y dyn ifanc ar gychwyn yr erthygl hon. Sut byddai ef wedi teimlo petai dyn cyfoethog wedi cynnig talu ei holl ddyledion? Yn sicr, byddai’r dyn ifanc wedi teimlo’n ddiolchgar iawn, a derbyn ei gynnig hael! Mewn ffordd debyg, mae ein Tad cariadus Jehofa wedi rhoi anrheg arbennig inni sy’n talu’r ddyled gwnaethon ni ei hetifeddu. Gwnaeth Iesu esbonio hyn gyda’r geiriau canlynol: “Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab, er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Ar ben hynny, mae’r anrheg hon yn caniatáu inni gael perthynas dda â Jehofa.
6. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon, a pham?
6 Sut gallwn ni elwa o’r anrheg anhygoel hon a chael maddeuant am ein pechodau, neu “ddyledion”? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, byddwn ni’n ystyried syniadau gwahanol o’r Beibl a thrafod beth maen nhw’n ei olygu. Wrth inni fyfyrio ar beth mae Jehofa wedi ei wneud droston ni er mwyn maddau inni, byddwn ni’n dod yn fwy diolchgar iddo.
Y NOD: DOD YN FFRIND I DDUW
7. (a) Beth gwnaeth Adda ac Efa ei golli? (b) Beth sydd wir ei angen arnon ni fel disgynyddion Adda ac Efa? (Rhufeiniaid 5:10, 11)
7 Collodd Adda ac Efa fwy na bywyd tragwyddol; gwnaethon nhw hefyd golli eu perthynas werthfawr â’u Tad Jehofa. Cyn iddyn nhw bechu, roedd Adda ac Efa yn rhan o deulu Duw. (Luc 3:38) Ond, roedden nhw’n anufudd i Jehofa, a chawson nhw eu halltudio o deulu Duw cyn iddyn nhw gael plant. (Gen. 3:23, 24; 4:1) Felly, fel eu disgynyddion, roedd rhaid inni gael help i adfer heddwch rhyngon ni a Jehofa, ac i feithrin perthynas dda ag Ef. (Darllen Rhufeiniaid 5:10, 11.) Mae’n rhaid inni stopio bod yn elynion i Dduw, a dechrau bod yn ffrindiau iddo. Gwnaeth Jehofa gymryd y cam cyntaf i wneud hyn yn bosib. Am beth rhyfeddol!
Y TREFNIAD: BOD YN FFRIND I DDUW
8. Beth gwnaeth Jehofa ei ddarparu?
8 Mae Jehofa wedi sefydlu trefniad i’n cymodi ni er mwyn inni fod yn ffrindiau ag ef. Er mwyn gwneud hyn, roedd rhaid iddo ddarparu rhywbeth sydd yr un mor werthfawr â beth gwnaeth Adda ei golli. Mae’r Ysgrythurau Groeg yn sôn am y trefniad sy’n ei gwneud hi’n bosib inni gael perthynas heddychlon â Jehofa.—Rhuf. 3:25.
9. Sut gwnaeth Jehofa drefnu i’r Israeliaid gael maddeuant?
9 Gwnaeth Jehofa sefydlu trefniad dros dro a oedd yn galluogi’r Israeliaid i gael perthynas dda ag ef a chael maddeuant am eu pechodau. Bob blwyddyn, roedd yr Israeliaid yn dathlu Dydd y Cymod. Ar y diwrnod hwnnw, roedd yr Archoffeiriad yn offrymu anifeiliaid ar ran y bobl. Wrth gwrs, doedd Jehofa ddim yn gallu maddau pechodau’r Israeliaid yn llwyr ar sail anifeiliaid yn unig. Ond, tra oedd yr Israeliaid yn fodlon dilyn ei gyfarwyddiadau ac aberthu anifeiliaid, roedd Jehofa’n fodlon maddau iddyn nhw. (Heb. 10:1-4) Ar ben hynny, byddai rhoi offrymau dros bechodau yn rheolaidd wedi atgoffa’r Israeliaid eu bod nhw’n bechadurus, a bod rhaid iddyn nhw gael rhywbeth gwell er mwyn cael maddeuant llwyr.
10. Sut gwnaeth Jehofa ei gwneud hi’n bosib inni gael maddeuant llwyr am ein pechodau?
10 Sut gwnaeth Jehofa ei gwneud hi’n bosib inni gael maddeuant llwyr am ein pechodau? Trefnodd i’w fab annwyl gael “ei offrymu unwaith ac am byth i gario pechodau llawer o bobl.” (Heb. 9:28) Gwnaeth Iesu “roi ei fywyd er mwyn talu’r pris i achub llawer o bobl.” (Math. 20:28) Beth mae hynny’n ei olygu?
Y PRIS: ABERTH IESU
11. (a) Pam roedd rhaid i bris gael ei dalu am ein pechodau? (b) Pwy yn unig oedd yn gallu talu’r pris hwnnw?
11 Yn ôl y Beibl, penderfynodd Jehofa fod rhaid i bris gael ei dalu er mwyn inni gael maddeuant a dod yn ffrindiau iddo. Beth oedd y pris hwnnw? Cofia, collodd Adda ac Efa eu bywyd perffaith yn ogystal â’r cyfle i fyw am byth. Felly, roedd rhaid i’r pris fod yn gyfartal â beth gafodd ei golli. (1 Tim. 2:6) Roedd ond yn gallu cael ei dalu gan ddyn (1) a oedd yn berffaith; (2) a oedd â’r cyfle i fyw am byth ar y ddaear; a (3) a oedd yn fodlon aberthu ei fywyd droston ni. Byddai bywyd y dyn hwnnw yn gallu talu am beth gafodd ei golli.
12. Pam roedd Iesu’n gallu talu’r pris?
12 Ystyria dri rheswm pam roedd Iesu’n gallu talu’r pris. (1) Roedd yn berffaith—“ni wnaeth ef bechu o gwbl.” (1 Pedr 2:22) (2) Oherwydd hynny, roedd ganddo’r cyfle i fyw am byth ar y ddaear. (3) Roedd yn fodlon marw droston ni. (Heb. 10:9, 10) Fel dyn perffaith, roedd Iesu’n gyfartal â’r dyn cyntaf, Adda, cyn iddo bechu. (1 Cor. 15:45) Felly, drwy farw, roedd Iesu’n gallu talu am bris pechod Adda ac adfer beth gwnaeth Adda ei golli. (Rhuf. 5:19) Oherwydd hyn, cafodd Iesu ei alw’r “Adda olaf.” Does dim rhaid i rywun arall perffaith ddod i’r ddaear er mwyn talu’r pris. Gwnaeth Iesu farw “unwaith ac am byth.”—Heb. 7:27; 10:12.
13. Pam mae’n bosib inni gael perthynas dda â Jehofa?
13 Felly, beth sy’n ei gwneud hi’n bosib inni gael perthynas dda â Jehofa? Gweithred Jehofa i agor y ffordd inni gael maddeuant am ein pechodau a bod yn ffrindiau ag ef. Y pris gwnaeth Iesu ei dalu i wneud hyn yn bosib yw ei waed gwerthfawr. Aberthodd Iesu ei berffaith fywyd i dalu pris a oedd yn gyfartal â’n pechodau.—Eff. 1:7; Heb. 9:14.
Y CANLYNIAD: CAEL EIN RHYDDHAU A’N GALW’N GYFIAWN
14. Beth byddwn ni’n ei drafod nesaf, a pham?
14 Beth sy’n dod o ganlyniad i drefniadau Jehofa? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, byddwn ni’n trafod ystyr dau ymadrodd yn y Beibl sy’n ein helpu ni i ddeall sut rydyn ni, fel unigolion, yn elwa o faddeuant Jehofa.
15-16. (a) Yn y Beibl, beth mae’n ei olygu inni gael ein rhyddhau o bechod? (b) Sut mae hynny’n effeithio arnon ni?
15 Mae’r Beibl yn sôn am y rhyddhad sy’n dod o ganlyniad i’r pris a gafodd ei dalu gan Iesu. Dywedodd yr apostol Pedr: “Rydych chi’n gwybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y cawsoch chi’ch rhyddhau o’ch ffordd ofer o fyw a dderbynioch chi gan eich cyndadau. Yn hytrach, fe gawsoch chi’ch rhyddhau drwy waed gwerthfawr Crist, fel gwaed oen sy’n ddi-fai ac yn ddi-nam.”—1 Pedr 1:18, 19.
16 Oherwydd y pris a dalodd Iesu, gallwn ni fod yn rhydd o bechod a marwolaeth, sy’n achosi cymaint o ddioddefaint inni. (Rhuf. 5:21) Yn bendant, rydyn ni mor ddiolchgar i Jehofa ac i Iesu am y gwaed gwerthfawr sydd wedi ein rhyddhau ni.—1 Cor. 15:22.
17-18. (a) Beth mae’n ei olygu i gael ein galw’n gyfiawn? (b) Sut mae hynny’n effeithio arnon ni?
17 Mae’r Beibl yn dweud bod gweision Jehofa yn cael eu galw’n gyfiawn. Ond sut? Dydyn ni ddim yn haeddu cael ein galw’n gyfiawn a dydy Jehofa ddim yn cymeradwyo ein pechodau. Ond, ar sail ein ffydd yn y pris y gwnaeth ef ac Iesu ei dalu dros ein dyledion, mae Jehofa’n fodlon maddau inni. Er nad ydy Jehofa’n cefnu ar ei safonau cyfiawn wrth wneud hyn, dydy ef ddim yn gofyn inni dalu am ein pechodau chwaith.—Rhuf. 3:24; Gal. 2:16.
18 Beth mae hynny’n ei olygu i bob un ohonon ni? Mae rhai wedi cael eu dewis i reoli gyda Iesu yn y nef, ac wedi dod yn blant i Dduw. (Titus 3:7; 1 Ioan 3:1) Mae eu pechodau wedi cael eu maddau a’u chwalu, felly maen nhw’n gymwys i fod yn rhan o’r Deyrnas. (Rhuf. 8:1, 2, 30) Mae gan eraill y gobaith o fyw ar y ddaear am byth. Mae Jehofa wedi maddau eu pechodau nhw hefyd, ac maen nhw’n ffrindiau iddo. (Iago 2:21-23) Mae gan y dyrfa fawr, sef y rhai a fydd yn goroesi Armagedon, y cyfle i fyw heb brofi marwolaeth o gwbl. (Ioan 11:26) Bydd y “cyfiawn” a’r “anghyfiawn” sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi. (Act. 24:15; Ioan 5:28, 29) Yn y pen draw, bydd pob un o weision ffyddlon Jehofa yn cael “y rhyddid gogoneddus sy’n perthyn i blant Duw.” (Rhuf. 8:21) Am adeg gyffrous sydd o’n blaenau ni—pan fyddwn ni’n blant perffaith i Dduw unwaith eto!
19. Sut mae ein sefyllfa wedi newid? (Gweler hefyd y blwch “ Maddeuant Jehofa.”)
19 Yn bendant, roedden ni mewn sefyllfa debyg iawn i’r dyn ifanc y soniwyd amdano ar gychwyn yr erthygl, a wnaeth golli popeth ac etifeddu dyled enfawr. Ond, diolch i Jehofa, mae ein sefyllfa wedi newid! Mae wedi trefnu inni gael maddeuant ac i Iesu dalu’r pris am ein pechodau. Mae ein ffydd yn Iesu Grist yn ein rhyddhau ni o bechod a marwolaeth. Gall ein pechodau hefyd gael eu canslo a’u chwalu. Ond, yn bwysicaf oll, gallwn ni gael perthynas dda â’n Tad cariadus Jehofa.
20. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
20 Rydyn ni’n teimlo’n hynod o ddiolchgar i Jehofa ac i Iesu pan ydyn ni’n myfyrio ar bopeth maen nhw wedi ei wneud droston ni. (2 Cor. 5:15) Heb eu help, ni fyddai unrhyw obaith inni o gwbl! Ond, beth mae maddeuant Jehofa yn wir yn ei olygu i ni fel unigolion? Byddwn ni’n trafod hyn yn yr erthygl nesaf.
CÂN 10 Clodfori Ein Duw Jehofa