Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ble Gallwch Chi Ddod o Hyd i Arweiniad Dibynadwy?

Ble Gallwch Chi Ddod o Hyd i Arweiniad Dibynadwy?

Mae’r byd yn newid yn gyflym. Felly, sut gallwch chi wneud penderfyniadau da? Sut gallwch chi fod yn siŵr na fydd yr hyn sy’n cael eu hystyried yn dda heddiw ddim yn cael eu hystyried yn ddrwg fory?

Gall y Beibl eich helpu chi i wneud dewisiadau byddwch chi byth yn eu difaru. Sut mae hynny’n bosib? Mae’r Beibl yn dod oddi wrth ein Creawdwr, ac mae’n gwybod beth fydd yn gwneud inni deimlo’n hapus ac yn ddiogel.

“Mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda.”—Micha 6:8.

Gallwn ni drystio doethineb ymarferol y Beibl, sy’n “gwbl ddibynadwy, ac yn sefyll am byth.”—Salm 111:​7, 8.

Beth am weld drostoch chi’ch hun sut gall y Beibl eich helpu chi yn y byd cythryblus hwn?