Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydd Casineb Wedi Diflannu am Byth!

Bydd Casineb Wedi Diflannu am Byth!

Hyd yn oed os ydyn ni’n llwyddo i ddadwreiddio casineb o’n calonnau ni, dydyn ni ddim yn gallu rheoli beth mae pobl eraill yn ei wneud. Mae pobl ddiniwed yn dal yn dioddef oherwydd casineb. Felly, pwy sy’n gallu trechu casineb am byth?

Jehofa Dduw ydy’r unig un sy’n gallu cael gwared ar gasineb unwaith ac am byth. Dyna’n union beth mae Duw yn addo ei wneud yn y Beibl.—Diarhebion 20:22.

BYDD DUW YN DILEU’R PETHAU SY’N ACHOSI CASINEB

  1. 1. SATAN Y DIAFOL. Satan, yr angel gwrthryfelgar, sy’n gyfrifol am y casineb rydyn ni’n ei weld yn y byd. Bydd Duw yn dinistrio Satan a phawb sy’n dilyn ei esiampl ac yn casáu eraill.—Salm 37:38; Rhufeiniaid 16:20, BCND.

  2. 2. BYD DRYGIONUS SATAN. Bydd Duw yn cael gwared ar bob elfen ddrwg y byd hwn, gan gynnwys gwleidyddion anonest ac arweinwyr crefyddol sy’n hybu casineb. Bydd Duw hefyd yn dileu’r byd busnes sy’n farus, yn llwgr, ac yn cymryd mantais o bobl.—2 Pedr 3:13.

  3. 3. AMHERFFEITHRWYDD. Mae’r Beibl yn esbonio bod pobl wedi etifeddu amherffeithrwydd—y tueddiad i feddwl, teimlo, a gwneud pethau anghywir. (Rhufeiniaid 5:12) Un o ganlyniadau amherffeithrwydd yw’r tueddiad i gasáu eraill. Bydd Duw yn helpu pobl i drechu pob tueddiad amherffaith, ac felly, bydd pob arlliw o gasineb wedi diflannu am byth.—Eseia 54:13.

MAE’R BEIBL YN ADDO BYD HEB GASINEB

  1. 1. FYDD NEB YN PROFI ANGHYFIAWNDER. Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli dros y ddaear o’r nefoedd, a bydd yn dod â chyfiawnder tragwyddol. (Daniel 2:44) Fydd neb yn anoddefgar nac yn dangos rhagfarn. Bydd Duw yn cywiro’r holl anghyfiawnder mae pobl yn ei wynebu nawr.—Luc 18:7, BCND.

  2. 2. BYDD PAWB YN MWYNHAU HEDDWCH. Fydd neb yn dioddef oherwydd trais a rhyfel. (Salm 46:9) Bydd y ddaear yn lle saff, llawn pobl sy’n caru heddwch.—Salm 72:7.

  3. 3. BYDD PAWB YN BYW AM BYTH MEWN BYD PERFFAITH. Bydd pawb ar y ddaear yn dangos gwir gariad at ei gilydd. (Mathew 22:39) Fydd neb yn dioddef na chael meddyliau nac atgofion poenus hyd yn oed. (Eseia 65:17) Ar yr adeg honno, bydd casineb wedi diflannu a bydd pobl yn “mwynhau heddwch” llawn.—Salm 37:11.

Ydych chi’n dyheu am fyw mewn byd fel hynny? Hyd yn oed heddiw, mae pobl yn dysgu i drechu casineb drwy roi ar waith egwyddorion y Beibl. (Salm 37:8) Mae hynny’n wir am y miliynau o Dystion Jehofa ar draws y byd. Er eu bod nhw’n dod o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, maen nhw’n unedig ac yn caru ei gilydd fel teulu.—Eseia 2:2-4.

Bydd Tystion Jehofa yn hapus i rannu gyda chi beth maen nhw wedi ei ddysgu am sut i ddelio ag anghyfiawnder a thriniaeth annheg. Gallwch chi ddysgu sut i ddisodli teimladau o gasineb gyda chariad. Byddwch yn dysgu sut i fod yn garedig i bobl—hyd yn oed rhai anniolchgar a chas. O ganlyniad, byddwch chi’n hapusach ac yn cael perthynas well ag eraill. Ond yn fwy na dim, byddwch chi’n dysgu beth i’w wneud er mwyn byw o dan Deyrnas Dduw pan fydd casineb wedi diflannu am byth.—Salm 37:29.