Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dioddefaint—A Yw’n Gosb Gan Dduw?

Dioddefaint—A Yw’n Gosb Gan Dduw?

MAE LUZIA YN CERDDED YN GLOFF AR EI CHOES CHWITH. Pan oedd hi’n eneth fach, cafodd hi poliomyelitis, clefyd heintus iawn sy’n ymosod ar system nerfol y corff. Pan oedd hi’n 16, dywedodd dynes a oedd yn cyflogi Luzia, “Gwnaeth Duw dy gosbi di drwy achosi iti gael dy barlysu oherwydd roeddet ti’n anufudd ac yn gas wrth dy fam.” Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Luzia’n dal yn cofio cymaint roedd hynny wedi ei brifo.

PAN GLYWODD DAMARIS FOD GANDDI GANSER AR YR YMENNYDD, gofynnodd ei thad wrthi: “Beth wyt ti wedi ei wneud i haeddu hyn? Mae’n rhaid dy fod ti wedi gwneud rhywbeth ofnadwy. Dyna pam mae Duw yn dy gosbi.” Roedd yr hyn a ddywedodd ei thad wedi ei brifo i’r byw.

Am filoedd o flynyddoedd, roedd pobl yn credu bod salwch yn gosb gan Dduw. Mae’r llyfr Manners and Customs of Bible Lands yn dweud bod llawer o bobl yn nyddiau Crist yn credu bod “salwch wedi cael ei achosi un ai gan bechodau’r person sâl, neu bechodau ei berthnasau, a bod y salwch yn gosb am y pechodau hynny.” Yn ôl y llyfr Medieval Medicine and the Plague, yn yr Oesoedd Canol, “roedd rhai pobl yn credu bod Duw yn achosi plâu i gosbi’r bobl am eu pechodau.” Felly, pan fu farw miliynau o bobl ar draws Ewrop oherwydd y pla yn y 14eg ganrif, a oedd Duw yn barnu pobl ddrwg? Neu a oedd y pla wedi digwydd o ganlyniad i haint bacteriol, rhywbeth mae ymchwilwyr meddygol wedi ei ddarganfod erbyn hyn? Efallai fod rhai yn gofyn, ydy Duw yn wir yn defnyddio salwch i gosbi pobl am eu pechodau? *

YSTYRIWCH: Pam y byddai Iesu yn iacháu pobl a oedd yn sâl petaen nhw’n haeddu cael eu cosbi gan Dduw drwy gyfrwng salwch neu ddioddefaint? Oni fyddai hynny’n tanseilio cyfiawnder Duw? (Mathew 4:23, 24) Fyddai Iesu byth yn mynd yn groes i weithredoedd Duw. Dywedodd: “Dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio” ac “yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud.”—Ioan 8:29; 14:31.

Mae’r Beibl yn eglur: Mae Jehofa “bob amser yn deg.” (Deuteronomium 32:4) Er enghraifft, fyddai Duw byth yn achosi i awyren gwympo i’r ddaear, gan ladd cannoedd o bobl ddiniwed, oherwydd ei fod eisiau cosbi unigolyn a oedd ar yr awyren honno! Yn unol â chyfiawnder Duw, gwnaeth Abraham, un o weision ffyddlon Duw, ddweud na fyddai Duw yn “cael gwared â’r bobl dda gyda’r bobl ddrwg.” Fyddai Duw “byth yn gwneud hynny,” meddai Abraham. (Genesis 18:23, 25) Mae’r Beibl hefyd yn dweud “fyddai Duw byth yn gwneud drwg” nac yn “gwneud dim o’i le.”—Job 34:10-12.

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU INNI AM DDIODDEFAINT?

Dydy’r dioddefaint rydyn ni’n ei wynebu ddim yn gosb ar gyfer pechod penodol. Roedd Iesu’n hollol eglur ynglŷn â’r mater hwn pan wnaeth ef a’i ddisgyblion weld dyn a oedd wedi bod yn ddall o’i enedigaeth. “Gofynnodd y disgyblion iddo, ‘Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i’r dyn yma gael ei eni’n ddall—fe ei hun, neu ei rieni?’ ‘Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy’n gyfrifol,’ meddai Iesu. ‘Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd.’”—Ioan 9:1-3.

Oherwydd camsyniadau cyffredin yr oes honno, mae’n rhaid fod disgyblion Iesu wedi synnu pan ddywedodd Iesu nad oedd y dyn na’i rieni yn gyfrifol am y salwch oherwydd eu pechodau. Gwnaeth Iesu iacháu’r dyn a thrwy wneud hynny fe brofodd mai anghywir oedd y gred fod dioddefaint yn gosb gan Dduw. (Ioan 9:6, 7) Gall pobl sydd heddiw yn dioddef problemau iechyd difrifol deimlo cysur o wybod nad ydy Duw yn achosi iddyn nhw ddioddef.

Pam byddai Iesu’n iacháu pobl sâl os oedd Duw yn eu cosbi am ddrwgweithredu?

Mae’r Ysgrythurau yn ein sicrhau

  • “Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.” (IAGO 1:13) Yn wir, bydd y drygioni y mae pobl wedi gorfod ei wynebu am ganrifoedd, gan gynnwys salwch, poen, a marwolaeth, yn cael ei ddileu cyn bo hir.

  • Gwnaeth Iesu Grist “iacháu pawb oedd yn sâl.” (MATHEW 8:16) Drwy iacháu pawb a ddaeth ato, dangosodd Mab Duw yr hyn y bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni ar raddfa fyd-eang.

  • “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”—DATGUDDIAD 21:3-5.

PWY SYDD AR FAI?

Felly, pam mae dynolryw yn profi cymaint o boen a dioddefaint? Mae pobl wedi bod yn gofyn y cwestiwn hwnnw ers canrifoedd. Os nad Duw sydd ar fai, pwy sy’n gyfrifol? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hynny yn cael eu trafod yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 4 Er bod Duw wedi cosbi pobl am bechodau penodol yn y gorffennol, dydy’r Beibl ddim yn awgrymu bod Jehofa nawr yn defnyddio pethau fel salwch neu drychinebau i gosbi pobl am eu pechodau.