Ai Iesu Yw Duw?
MAE llawer o bobl yn gweld y Drindod fel “prif ddysgeidiaeth y grefydd Gristnogol.” Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, mae’r Tad, y Mab, a’r ysbryd glân yn dri pherson mewn un Duw. Dywedodd y Cardinal John O’Connor hyn am y Drindod: “Gwyddon ni fod hyn yn ddirgelwch dwfn na allwn ni mo’i ddeall.” Pam mae’r Drindod mor anodd ei deall?
Dyma resymeg The Illustrated Bible Dictionary, wrth drafod y Drindod: “Dydy hi ddim yn ddysgeidiaeth Feiblaidd am nad oes unrhyw ysgrythurau sy’n ei hesbonio yn y Beibl.” Gan nad yw’r Drindod “ddim yn ddysgeidiaeth Feiblaidd,” mae Trindodwyr wedi bod yn chwilio’n ddyfal am adnodau yn y Beibl—a hyd yn oed yn eu gwyrdroi nhw—er mwyn cefnogi eu dysgeidiaeth.
Adnod Sy’n Dysgu’r Drindod?
Un enghraifft o adnod sy’n aml yn cael ei chamddefnyddio yw Ioan 1:1. Yn y Beibl Cysegr-lân mae’r adnod yn darllen: “Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw [Groeg, ton the onʹ], a Duw [the·osʹ] oedd y Gair.” Mae gan yr adnod ddwy ffurf ar yr enw Groegaidd the·osʹ (duw). O flaen y cyntaf mae’r gair ton (y), sef ffurf ar y fannod benodol yn yr iaith Roeg, ac yn yr achos hwn mae’r gair the·onʹ yn cyfeirio at yr Hollalluog Dduw. Ond, yn yr ail achos, does gan the·osʹ ddim bannod benodol. A gafodd y fannod ei gadael allan yn ddamweiniol?
Pam mae dysgeidiaeth y Drindod mor anodd i bobl ei deall?
Cafodd Efengyl Ioan ei hysgrifennu yn y Coine, sef Groeg cyffredin, sydd â rheolau arbennig ynglŷn â defnyddio’r fannod benodol. Mae’r ysgolhaig A. T. Robertson yn cydnabod os bydd gan y goddrych a’r traethiad * y fannod, “bydd y ddau yn benodol, yn cael eu trin fel eu bod yn union yr un peth, ac mae modd cyfnewid un am y llall.” Mae Robertson yn ystyried Mathew 13:38 yn enghraifft o hyn: “Y byd [Groeg, ho coʹsmos] ydy’r cae [Groeg, ho a·grosʹ.]” Mae’r gramadeg yn ein helpu ni i ddeall bod y byd a’r cae yr un peth.
Ond, os oes gan y goddrych fannod benodol ond does gan y traethiad ddim, fel yn Ioan 1:1, beth wedyn? Gan gyfeirio at yr adnod honno fel enghraifft, mae’r ysgolhaig James Allen Hewett yn pwysleisio: “Yn y fath gystrawen nid yw’r goddrych a’r traethiad yr un fath, nac yn gyfartal, nac yn debyg mewn unrhyw ffordd.”
Er mwyn egluro, mae Hewett yn defnyddio 1 Ioan 1:5 sy’n dweud: “Golau ydy Duw.” Yn y Roeg y gair “Duw” yw ho the·osʹ ac felly mae ganddo fannod benodol. Ond does gan ffos, sef “golau,” unrhyw fannod o’i flaen. Mae Hewett yn tynnu sylw at y ffaith: “Gall rhywun ddweud . . . am Dduw fod goleuni yn un o’i nodweddion; ond ni allwn ddweud am oleuni ei fod yn Dduw.” Mae enghreifftiau tebyg i’w gweld yn Ioan 4:24, “Ysbryd ydy Duw,” ac yn 1 Ioan 4:16, “Cariad ydy Duw.” Yn y ddwy adnod hyn mae gan y goddrychau fannod benodol ond does gan y traethiadau, “Ysbryd” a “cariad” ddim bannod. Felly nid oes modd cyfnewid ystyron y goddrychau a’r traethiadau. Ni all yr adnodau hyn ddim cyfleu’r ystyr “mae’r Ysbryd yn Dduw” neu “mae cariad yn Dduw.”
Pwy yw “y Gair”?
Mae llawer o ysgolheigion yr iaith Roeg a chyfieithwyr y Beibl yn cydnabod bod Ioan 1:1, yn tynnu sylw at un o nodweddion “y Gair”, yn hytrach na’i hunaniaeth. Yn ôl y cyfieithydd Beiblaidd William Barclay: “Oherwydd nad oes gan [yr apostol Ioan] fannod benodol o flaen theos mae’n dod yn ddisgrifiad . . . Nid yw Ioan yn dweud yma fod y Gair a Duw yn un. Yn syml, nid yw’n dweud mai Iesu oedd Duw ei hun.” Yn debyg i hyn, mae’r ysgolhaig Jason David BeDuhn yn dweud: “Yn y Roeg, os gwnewch chi hepgor y fannod o flaen theos mewn brawddeg fel yr un yn Ioan 1:1c, mi fydd eich darllenwyr wedyn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn golygu ‘duw.’ . . . Mae ei absenoldeb yn gwneud theos yn eithaf gwahanol i’r ho theos penodol, mor wahanol ag y mae ‘a god’ i ‘God’ yn Saesneg.” Mae BeDuhn yn ychwanegu: “Yn Ioan 1:1, nid yr unig wir Dduw yw’r Gair, ond duw, neu fod dwyfol.” Neu yng ngeiriau’r ysgolhaig Joseph Henry Thayer a weithiodd ar yr American Standard Version: “Roedd y Logos [neu’r Gair] yn ddwyfol, nid y Bod dwyfol ei hun.”
Gwnaeth Iesu wahaniaethu’n glir rhyngddo ef ei hun a’i Dad
Ydy hunaniaeth Duw yn gorfod bod yn “ddirgelwch dwfn”? Doedd hi ddim felly i Iesu. Yn ei weddi i’w Dad, gwnaeth Iesu wahaniaethu’n glir rhyngddo ef ei hun a’i Dad pan ddywedodd: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon.” (Ioan 17:3) Os ydyn ni’n credu Iesu ac yn deall dysgeidiaeth blaen y Beibl, byddwn ni’n ei barchu fel Mab dwyfol Duw. Byddwn ni hefyd yn addoli Jehofa fel “yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn.”
^ Par. 6 Sef yr hyn sy’n traethu, neu yn rhoi mwy o wybodaeth, am y goddrych.