Gobaith er Gwaethaf Trafferthion
Gobaith er Gwaethaf Trafferthion
“Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn.”—2 TIMOTHEUS 3:1.
A YDYCH chi wedi clywed am—neu wedi profi—un o’r digwyddiadau trist hyn?
● Clefyd marwol sy’n cymryd bywydau dwsinau o bobl.
● Newyn yn anfon cannoedd i’r bedd.
● Daeargryn yn lladd miloedd ac yn gadael llawer mwy yn ddigartref.
Ar y tudalennau canlynol, byddwch yn adolygu rhai ffeithiau sobreiddiol am ddigwyddiadau fel hyn. Byddwch hefyd yn gweld fod y Beibl wedi rhagfynegi y byddai’r pethau hyn yn digwydd yn ystod cyfnod a elwir “y cyfnod olaf,” neu’r “dyddiau diwethaf.”
Nid eich perswadio chi ein bod ni’n byw mewn byd llawn trafferthion yw pwrpas yr erthyglau hyn. Mae’n debyg eich bod chi wedi gweld hynny drostoch chi’ch hun yn barod. Yn hytrach, maen nhw wedi cael eu paratoi i roi gobaith ichi. Byddwn ni’n gweld bod cyflawniad y chwe phroffwydoliaeth hyn yn golygu y bydd y “dyddiau diwethaf” yn dod i ben cyn bo hir. Bydd y gyfres hon hefyd yn ystyried rhai gwrthwynebiadau cyffredin i’r dystiolaeth hon ac yn rhoi rheswm da i gredu bod rhywbeth gwell ar y gorwel.