AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL
Sut Gallaf Ddechrau Arni?
Beth fydd yn eich helpu chi i fwynhau darllen y Beibl a chael y gorau ohono? Dyma bum awgrym sydd wedi helpu llawer o bobl.
Creu’r awyrgylch iawn. Ceisiwch ddod o hyd i le tawel. Mae’n werth cael gwared ar unrhyw beth all dynnu eich sylw, fel y gallwch ganolbwyntio. Bydd digon o olau ac awyr iach yn eich helpu hefyd.
Mynd ati gyda’r agwedd gywir. Gan fod y Beibl yn dod oddi wrth ein Tad nefol, byddwch chi’n elwa fwyaf drwy fynd ati gydag agwedd plentyn sy’n barod i ddysgu gan riant cariadus. Os oes unrhyw deimladau negyddol gynnoch chi am y Beibl, ceisiwch eu rhoi nhw o’r neilltu fel y bydd Duw yn gallu eich dysgu.—Salm 25:4.
Gweddïo cyn darllen. Meddyliau Duw sydd yn y Beibl, felly nid yw’n syndod fod angen help Duw i’w ddeall. Mae Duw yn addo rhoi’r ysbryd glân “i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Bydd yr ysbryd glân yn eich helpu chi i ddeall meddylfryd Duw. Ac ym mhen amser, bydd yn eich helpu chi i ddeall “hyd yn oed ddyfnderoedd Duw.”—1 Corinthiaid 2:10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Darllen er mwyn deall. Peidiwch â darllen dim ond i fynd trwy hyn a hyn o dudalennau. Ceisiwch ddeall yr hyn rydych yn ei ddarllen. Gofynnwch gwestiynau fel: ‘Pa rinweddau sydd i’w gweld yn y cymeriad dan sylw? Sut gallaf roi hyn ar waith yn fy mywyd i?’
Gosod amcanion penodol. I gael lles o ddarllen y Beibl, ceisiwch ddysgu rhywbeth a fydd yn eich helpu chi yn eich bywyd. Ystyriwch osod amcanion fel y rhai canlynol: ‘Hoffwn ddysgu mwy am Dduw ei hun.’ ‘Hoffwn fod yn berson gwell, yn ŵr gwell, yn wraig well.’ Yna dewiswch rannau o’r Beibl a fydd yn eich helpu chi i gyrraedd y nod hwnnw. *
Bydd y pum awgrym hyn yn eich helpu chi i ddechrau arni. Ond a oes modd ichi wneud darllen y Beibl yn fwy diddorol byth? Bydd yr erthygl nesaf yn cynnig syniadau.
^ Par. 8 Os nad ydych chi’n sicr pa rannau o’r Beibl a fyddai’n addas, bydd Tystion Jehofa yn hapus i’ch helpu.